Erfyn i gael mab o Bacistan i ailymuno â'i deulu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ahsar a ShahryarFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid gadael Ashar (chwith) ym Mhacistan tra bod ei deulu'n cael cymorth meddygol i Shahryar (dde)

Mae rhieni plentyn sydd ar ei ben ei hun mewn cartref plant amddifaid yn Pacistan wedi erfyn ar y Swyddfa Gartref i ganiatáu iddo ymuno â gweddill ei deulu yng Nghymru.

Bu'n rhaid i Amin Rasheed a'i wraig Anila Amin adael Ashar, 7, ym Mhacistan gyda'i fam-gu wrth iddyn nhw deithio i'r DU er mwyn cael triniaeth feddygol i'w mab arall.

Cafodd Ashar ei roi mewn cartref plant ar noswyl Nadolig, ac mae'r teulu nawr yn ceisio sicrhau fisa er mwyn iddo allu dychwelyd i Gymru.

Dywedodd y Swyddfa Gartref nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar achosion unigol.

'Pam dydw i ddim gyda chi?'

"Dydw i ddim yn gallu mynd i gysgu'r un noson heb lefain, ac mae'r un peth yn wir am ei fam," meddai Mr Rasheed.

"Pryd bynnag ry'n ni siarad ag ef mae'n llefain o hyd. Dyw e ddim yn deall beth sydd wedi mynd o'i le.

"Mae'n gofyn 'pam ydw i yma, a pham dydw i ddim gyda chi?'"

Mae'r teulu, o Lahore, Pacistan yn byw yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd tra bod eu mab ieuengaf, Shahryar, 5, yn cael triniaeth arbenigol.

Mae ganddo gyflwr sy'n golygu ei fod wedi'i barlysu o'i wddf i lawr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Amin Rasheed gyda'i blant - mae gan ei ferch, Zoha hefyd y cyflwr MMA

Fe wnaeth y teulu godi miloedd o bunnoedd i deithio i'r DU ym mis Ebrill 2019 i gael triniaeth i Shahryar, ond cafodd cais am fisa i'r teulu cyfan ei wrthod.

Roedd hynny'n golygu eu bod wedi gorfod gadael Ashar ym Mhacistan gyda'i fam-gu, yn y gobaith y byddan nhw'n dychwelyd adref o fewn ychydig wythnosau.

Ond cafodd Ashar ei roi mewn cartref plant amddifaid wedi i'w fam-gu fynd yn rhy wael i ofalu amdano.

Dydy'r teulu ddim wedi gallu mynd yn ôl i Bacistan ers hynny.

'Troi'n sgerbwd'

Dywed Mr Rasheed fod gan Ashar siawns uchel - 75% - o fod gyda'r un cyflwr â'i frawd bach.

Fe all deiet anghywir sbarduno'r cyflwr, methylmalonic acidemia (MMA), sy'n gallu achosi strôc, atafael (seizure) a/neu goma.

Mae'r teulu bellach yn ceisio codi arian i gael Ashar i Gaerdydd er mwyn canfod os oes ganddo'r cyflwr genetig.

Mae'r teulu'n credu bod byg stumog wedi sbarduno salwch Shahryar gan ddweud nad oedd ganddyn nhw ddewis ond dod i'r DU ar ôl iddo droi'n "sgerbwd".

Maen nhw wedi gwario eu holl gynilion, ac wedi cymryd benthyciadau a chodi arian i dalu am ei filiau ysbyty preifat ym Mhacistan, ac maen nhw'n wynebu bil o £74,000 am ei driniaeth yn Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Anila gyda'i mab Shahryar, sydd â chyflwr sy'n gallu gwaethygu gyda'r math anghywir o ddeiet

Dywedodd Mr Rasheed fod Shahryar bellach wedi dechrau bwyta a'i fod hyd yn oed yn siarad ychydig eiriau.

Ond mae'r teulu'n ofni os ydyn nhw'n dychwelyd i Bacistan, ni fydd yn cael gofal meddygol tymor hir, ac efallai y bydd rhywun yn ymosod arnyn nhw neu'n eu lladd ar ôl cael bygythiadau oherwydd faint o arian y gwnaethon nhw ei fenthyg i dalu am ei driniaeth.

Maen nhw wedi gwneud cais am loches, ond dywedodd y cyfreithiwr hawliau dynol Chris Simmonds, o Wasanaeth Ymgynghori Virgo, y byddai'n costio o leiaf £2,000 i gael fisa i ddod ag Ashar i'r DU i gael ei aduno gyda'i deulu.

Mae Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, Jo Stevens, yn bwriadu gofyn i'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel ofyn am hepgor y ffi fisa ac mae'r teulu'n ceisio torf ariannu'r arian eu hunain.

"Mae amser yn brin, a byddwn yn gobeithio ar sail ddyngarol y bydd y Swyddfa Gartref a'r Ysgrifennydd Cartref yn gwneud y peth iawn," meddai.