Beio dyn ar gam wedi i bedoffeil ddwyn ei lun
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd dyn dieuog ei garcharu dros y Nadolig wedi i bedoffeil ddwyn ei lun a'i ddefnyddio i geisio meithrin perthynas gyda merched dan oed.
Roedd Stephen Price wedi dwyn llun ac enw'r dyn o wefan arall.
Fe wnaeth Price wedyn ddefnyddio'r wybodaeth i yrru lluniau rhywiol i ferch 14 oed o'r enw 'Talia' - ond roedd Talia yn berson ffug oedd yn cael ei defnyddio gan grŵp oedd yn ceisio dal pedoffiliaid.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y dyn dieuog wedi cael ei ddal gan y grŵp cyn cael ei arestio a'i gadw yn y ddalfa am 36 awr dros y Nadolig.
Clywodd y llys hefyd fod Price wedi cyfaddef creu proffil ffug i'w hunan gan ddefnyddio llun o'r dyn diniwed.
Enllibio'r dyn
Dywedodd yr erlynydd Christopher Rees: "Doedd y dyn ddim yn ymwybodol fod ei lun yn cael ei ddefnyddio gan Price. Daeth pedwar dyn mawr i'w gartref ychydig cyn y Nadolig.
"Fe wnaethon nhw ei gyhuddo, o flaen ei fam oedrannus, o fod yn bedoffeil, ac fe gafodd ei enllibio ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Doedd ganddo ddim syniad am y cyhuddiad, ac fe aeth at yr heddlu ei hun."
Cafodd y dyn ei arestio a'i gadw yn y ddalfa dros y Nadolig cyn cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Ychwanegodd Mr Rees: "Bu dirywiad sylweddol yn ei iechyd meddwl. Ni chafodd ei ddifeio tan i Price gael ei arestio ym mis Chwefror."
Cafodd Price, 53 oed o'r Barri, ei arestio ac fe gyfaddefodd ceisio cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn, ceisio achosi plentyn i wylio gweithgaredd rhywiol, ceisio cyflawni gweithred rywiol gyda phlentyn a cheisio annog plentyn i gyflawni gweithred rywiol.
'Perygl gwybodaeth anghyflawn'
Dywedodd ei gyfreithiwr Clare Wilks wrth ei amddiffyn: "Mae Mr Price yn derbyn iddo greu proffil ffug a dewis llun o ddyn arall... doedd ganddo ddim syniad y byddai'r dyn yma'n cael ei erlid yn y fath fodd.
"Dyma, efallai, y perygl wrth weld grwpiau o helwyr pedoffiliaid yn gweithredu ar wybodaeth anghyflawn."
Fe gafodd Price ei garcharu am dair blynedd, ac fe gyhoeddwyd Gorchymyn Atal Niwed Rhyw yn ei erbyn am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y Barnwr Nicola Jones: "Mae'r sefyllfa yma wedi achosi niwed aruthrol i'r dyn yma.
"Mae'r helwyr pedoffiliaid yma - os caf i ddefnyddio'r term ofnadwy yna - wedi sylweddol eu bod wedi gwneud camgymeriad anferth. Roedden nhw wedi enwi a chywilyddio dyn oedd yn gwbl ddieuog."
Gorfodwyd Price hefyd i gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.