Achos Nantgaredig: Rheithgor yn dechrau ystyried
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor wedi cael eu hanfon allan i ystyried eu dyfarniad yn achos llofruddiaeth Nantgaredig.
Mae Andrew Jones, 53, o Gaerfyrddin yn gwadu llofruddio Michael O'Leary trwy ei ddenu i ffermdy a'i saethu cyn llosgi ei gorff.
Yn ystod y bore bu'r barnwr Mr Ustus Jefford yn crynhoi'r dystiolaeth.
Dywedodd wrth aelodau'r rheithgor: "Ydych chi'n sicr fod Andrew Jones wedi lladd Michael O'Leary drwy ei saethu, gan fwriadu ei ladd neu achosi niwed difrifol?
"Os ydych y sicr mae'n rhaid cael Andrew Jones yn euog, os nad ydych yn sicr yna mae'n rhaid ei gael yn ddieuog."