Ficer yn cyfaddef troseddau rhyw yn ymwneud â phlant

  • Cyhoeddwyd
Nigel Cahill
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i nifer o ddelweddau anweddus ar ddyfeisiadau Nigel Cahill

Mae ficer wedi pledio'n euog i droseddau rhyw yn ymwneud â phlant wedi iddo fod yn edrych ar ddelweddau anweddus o blant ar-lein.

Cafodd y Parchedig Ganon Nigel Cahill, Rheithor Aberafan, ei atal o'i ddyletswyddau ym mis Mehefin y llynedd, ar ôl cael ei arestio yn y rheithordy ym Mhort Talbot.Clywodd Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher bod yr heddlu wedi dod o hyd i 219 o ddelweddau anweddus o blant ar ei ddyfeisiadau.

Plediodd Cahill yn euog i ddwy drosedd o wneud delweddau anweddus o blant rhwng 2016 a 2020.

Clywodd y llys ei fod wedi defnyddio enwau ffug tra'n siarad gyda phobl ar Skype, ac o archwilio hanes ei ymchwiliadau ar y we darganfu'r heddlu bod ganddo ddiddordeb rhywiol mewn plant.

Yn ôl Julie Sullivan ar lan yr erlyniad: "Dywedodd Mr Cahill ei fod yn siarad ar-lein gyda rhywun ac yn edrych ar luniau o oedolion gwrywaidd. "Dywedodd: 'Nid wyf yn gwadu fy mod wedi edrych ar fechgyn iau. Mae'n broblem gen i ers blynyddoedd pan rwyf dan bwysau. Rwyf yn yfed ac yn edrych ar luniau ar-lein.'"

'Gweddïo dros ddioddefwyr'

Roedd pob trosedd wedi ei chyflawni "o fewn cyffiniau preifat ei gartref", meddai Jon Tarrant, ar ran yr amddiffyn.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar 29 Mawrth ar gyfer ei ddedfrydu.

Pan gafodd ei arestio y llynedd, dywedodd llefarydd ar ran Yr Eglwys Yng Nghymru: "Gofynnwn i chi weddïo dros bob un a allai fod wedi dioddef.

"Gallwch fod yn sicr ein bod yn dilyn polisi a gweithdrefnau amddiffyn Yr Eglwys Yng Nghymru, ac mewn cysylltiad agos gyda'r heddlu a'r awdurdod lleol."

Pynciau cysylltiedig