Murluniau ardal Eisteddfod yr Urdd 2025

Murlun i Meyrick Sheen, fu farw yn gynharach eleni, a'i fab Michael SheenFfynhonnell y llun, @HazardOne
Disgrifiad o’r llun,

Murlun i ddau o ardal Port Talbot - Meyrick Sheen, fu farw yn gynharach eleni, a'i fab yr actor Michael Sheen

  • Cyhoeddwyd

Efallai bod murlun Banksy wedi mynd o ardal Port Talbot, ond mae'r artist byd-enwog wedi ysbrydoli nifer o rai eraill i gael eu creu yn y dref.

Nôl yn 2018 roedd Port Talbot yn y newyddion ar ôl i Seasons Greetings gael ei beintio ar wal garej yno. Fe gafodd hwnnw ei symud dair blynedd yn ôl wedi iddo gael ei brynu am dros £100,000 gan berchennog galeri yn Essex.

Er bod nifer o furluniau yn y dref cyn ymweliad Banksy, mae'r holl gynnwrf wedi arwain at gyfnod cynhyrchiol iawn ymysg artistiaid stryd leol. Mae ap hefyd nawr ar gael sy'n tywys pobl o gwmpas, dolen allanol holl waith celf stryd yr ardal.

Criw yn edrych ar furlun BanksyFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Seasons Greetings gan Banksy greu cynnwrf pan ymddangosodd yn 2018

Un o'r murluniau diweddara i gael ei beintio ydi un i'r grŵp Edward H. Dafis. Dywedodd un o'r rhai oedd y gyfrifol am y syniad bod tua 80 o furluniau erbyn hyn yn ardal Port Talbot.

Ychwanegodd Eirwen Hopkins, o grŵp cymunedol Calon Afan, sy'n codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth yr ardal: "Mae'n hollbwysig i gael y murlun yma - tydi nifer o bobl Port Talbot ddim yn ymwybodol o'u treftadaeth gyfoes.

"Gobeithio bydd y ffaith bod Eisteddfod yr Urdd yn dod yma yn ychwanegu at hyn ac rydyn ni'n cefnogi unrhyw beth sy'n ychwanegu at ddathlu'r dreftadaeth."

Felly wrth i filoedd heidio i'r ardal oherwydd yr ŵyl, dyma rai o'r murluniau i edrych allan amdanyn nhw.

Port Talbot ArtwalkFfynhonnell y llun, Tim Morris
Murlun o Richard BurtonFfynhonnell y llun, Y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Murlun i nodi cysylltiad yr ardal gyda'r actor byd enwog Richard Burton

Cyngor Castell NeddFfynhonnell y llun, Cyngor Castell-Nedd
Port Talbot ArtwalkFfynhonnell y llun, Tim Morris
Port Talbot ArtwalkFfynhonnell y llun, Tim Morris
Murlun Edward HFfynhonnell y llun, Tim Morris
MurlunFfynhonnell y llun, Tim Morris/Thew Crew
MurlunFfynhonnell y llun, Tim Morris/Jenks Art
MurlunFfynhonnell y llun, Tim Morris/Thew Crew
MurlunFfynhonnell y llun, Tim Morris./Jenks Art
MurlunFfynhonnell y llun, Tim Morris/Thew Crew
MurlunFfynhonnell y llun, Tim Morris/Thew Crew