Menter Môn: 'Mae 'na werth i be' 'da ni'n neud'

Dafydd GruffyddFfynhonnell y llun, Dafydd Gruffydd
  • Cyhoeddwyd

O ailsefydlu'r wiwer goch ym Môn i ddatblygu cynllun ynni llanw cyntaf Cymru mae Menter Môn yn dathlu 30 mlynedd o waith eleni.

I nodi'r achlysur bydd gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn a bu Cymru Fyw yn holi Dafydd Gruffydd, sy' wedi bod yn rhan o dîm Menter Môn ers 27 mlynedd a'n Rheolwr Gyfarwyddwr ers 2017, am waith y cwmni a sut mae wedi datblygu dros tri degawd.

Ers 1995, mae Menter Môn wedi denu dros £200 miliwn i'r ardal. Sut gychwynnodd y cwmni?

Efo cychwyn cynllun Leader, sef cynllun Ewrop ar y pryd, wnaeth Menter Môn gychwyn fel brand yn 1995. Roedd y cynllun yn trio mynd i'r afael â heriau cefn gwlad, datblygu datrysiadau newydd i heriau o ran treftadaeth a chadwraeth.

Ac oedd hwnna wedi parhau tan i ni adael Ewrop. 'Naeth o ddim cyfyngu ni i un maes benodol ac aethon ni i feysydd gwahanol.

'Nes i gychwyn yn 1997 fel trydydd aelod o staff fel swyddog iaith. Mae'r cwmni wedi newid lot ers hynny.

Staff Menter Môn tu allan i Neuadd y Dref, LlangefniFfynhonnell y llun, Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Staff Menter Môn tu allan i Neuadd y Dref, Llangefni

Beth yw amcanion Menter Môn?

Mae'r bwriad yr un peth heddiw – 'da ni'n dathlu'r pethau sy'n gwneud ni'n wahanol ac yn unigryw boed yn iaith, hanes neu treftadaeth. Felly mae'r gweithgareddau yna wedi parhau tan heddiw.

'Da ni bellach yn gweithredu mewn tri portffolio – cymuned, economi a ynni.

Dan hwnna 'da ni'n datblygu cynllun ynni Morlais – y cynllun ynni môr mwyaf o'i fath yn y byd. Er bod o'n gynllun ynni mawr y bwriad ydy ychwanegu gwerth at ynni'r llanw a chadw'r budd yn lleol.

Mae'n cynnig cyfleoedd i bobl aros yn yr ardal a chefnogi'r Gymraeg a chadw pobl ifanc yn yr ardal. 'Da ni wedi bod yn driw i'n hamcanion ni.

Gorymdaith Gwyl DewiFfynhonnell y llun, Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Gorymdaith Gŵyl Dewi

Rydych wedi gweithredu gyda chefnogaeth awdurdodau lleol, llywodraethau, yr Undeb Ewropeaidd a phartneriaid amrywiol eraill yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Sut mae gadael Ewrop wedi effeithio arnoch fel cwmni?

'Da ni mewn cyfnod o newid o hyd – doedd o ddim yn fater o fod fewn neu allan o Ewrop. Roedd rhaglenni Ewrop yn rhoi sicrwydd ac roeddynt yn gynlluniau chwe mlynedd.

Mae'r cynlluniau sy' wedi dod yn eu lle nhw yn eithaf byr-dymor ond mae 'na gynlluniau ar y gweill gan y Llywodraeth i ddatblygu cynlluniau mwy hir-dymor – ond ar hyn o bryd mae 'na ansefydlogrwydd o ran y tirwedd ariannol.

Dyna pam 'da ni'n datblygu'r cynlluniau ynni er mwyn creu incwm hir dymor fel bod ni ddim yn or-ddibynnol ar bres cyhoeddus.

Fel oedden ni'n gadael Ewrop ddaru'r cwmni dyfu. 'Da ni bellach yn 80 o staff. Mae lot o hynny oherwydd ansicrwydd Ewrop ac oeddan ni'n ceisio mynd am gyfleoedd newydd er mwyn sicrhau bod ni'n parhau tu draw i Ewrop.

Arwydd oedd yn ran o fenter i ddathlu hunaniaethFfynhonnell y llun, Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd oedd yn ran o fenter i ddathlu hunaniaeth

Beth yw cyfrinach llwyddiant y cwmni?

Dwi'n meddwl bod ni wedi aros yn driw i'n hamcanion a'n hardaloedd a dwi'n cynnwys Gwynedd yn hynny. Mae'r fenter iaith wnaeth gychwyn yn 1997 yn rhan bwysig o pwy ydan ni a 'da ni wedi gallu plethu'r iaith i fewn i feysydd newydd – i'r economi ac i gynlluniau ynni.

'Da ni wedi tyfu ac wedi mynd i feysydd twf ond ddim wedi gadael ein gwreiddiau. Mae 90% o'r staff yn Gymry Cymraeg ac yn cael cyfle i weithio ar amrediad o gynlluniau cyffrous yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mainc Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mainc yn Rhosneigr oedd yn ran o fenter i ddathlu hunaniaeth

Ym mha faes ydy chi'n meddwl chi wedi gwneud yr argraff fwyaf?

Pan gychwynnon ni gynllun ynni Morlais tua 10 mlynedd yn ôl oedd o'n ganlyniad i 20 mlynedd o weithredu. Beth sy' wedi arwain at ei lwyddiant ydy'n perthynas ni efo'r gymuned a'n partneriaid a Llywodraeth Cymru yn galluogi ni i gael pres Ewrop achos 'da ni wedi cael £60 miliwn o bres Ewrop ar gyfer Morlais.

Morlais ydy'r pinacl achos mae'n cael sylw rhyngwladol.

Pam fod mentrau fel Menter Môn yn bwysig yn eich barn chi?

Mae'r elfen o berthyn, o weithredu ar ran yr ardal. Achos yng ngogledd-orllewin Cymru mae gynno chi'r sector gyhoeddus ond dydy'r sector breifat ddim mor amlwg ag ydy o mewn ardaloedd eraill.

Mae cael corff fel Menter Môn a mentrau eraill sy'n medru camu mewn i'r bwlch yna a chynnig cyfleoedd fyddai'r sector breifat ddim yn barod i wneud – mae hynna'n gallu bod ar lefel lleol i fyny at gynllun fel Morlais.

Efo cynllun Morlais roedd ynni llanw yn flaenoriaeth gan Llywodraeth Cymru ond doedd neb yn camu mewn i'r bwlch a dyna wnaethon ni.

Mae bach mwy o ryddid yna. Heb y math yma o gyrff byddai'n anodd iawn i wireddu lot o wasanaethau sy'n bwysig iawn y dyddiau yma – anghenion arbennig, pobl ifanc ac hyd yn oed cynlluniau fel y dafarn lleol Ty'n Llan.

Gweithdy trwsioFfynhonnell y llun, Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Gweithdy trwsio

Beth yw uchafbwynt y 30 mlynedd diwethaf i chi yn bersonol?

Agoriad Morlais yn Ynys Lawd pan wnaeth Mark Drakeford ddod fel Prif Weinidog ac mi oedd 'na aelodau cabinet ond hefyd prif weinidog Iwerddon, Micheál Martin.

Mae hwnna'n rhoi rhyw foddhad personol.

Lansio Cynllun MorlaisFfynhonnell y llun, Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Lansio Cynllun Morlais

Beth mae Menter Môn yn ei olygu i chi?

Dwi'n ffodus iawn i fod efo Menter Môn ers 27 mlynedd. Dwi wedi bod yn gweithio mewn nifer o feysydd ac wedi cael lot o brofiadau ar hyd fy ngyrfa. Hefyd ti'n teimlo mae 'na werth i beth ti'n neud. Ti'n teimlo bod ti'n gwneud gwahaniaeth.

Ym maes ynni mae lot o gwmniau sy' isho gwneud elw mawr. 'Da ni'n ceisio gweithredu hefo'r gymuned ac mae'n bwysig bod nhw'n dallt pam 'da ni'n gwneud beth 'da ni'n neud. 'Da ni ddim yn elwa. 'Da ni ddim yn talu shareholders ac mae 'na falchder yn hynny.

Bwncath yng ngŵyl CefniFfynhonnell y llun, Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Bwncath yng ngŵyl Cefni

Bob blwyddyn 'da ni'n cynnal Gŵyl Cefni ac mae gen ti 5,000 o bobl yn bloeddio canu yn Gymraeg.

Er y pethau mawr ni'n gwneud, fel Morlais, mae rhywbeth sy'n cynhesu dy galon di pan ti'n gweld pobl yn mwynhau yn Gymraeg rhywbeth 'da chi wedi creu. Mae'n tynnu pobl at ei gilydd.

Pynciau cysylltiedig