Elinor Bennett: 'Dwi'n colli perfformio'n fawr iawn'

Elinor BennettFfynhonnell y llun, Elinor Bennett
  • Cyhoeddwyd

Mae ei hiraeth am berfformio wedi denu Elinor Bennett o'i hymddeoliad er mwyn canu dwy delyn hanesyddol.

Meddai'r delynores byd-enwog wrth Cymru Fyw: "Cyn bod hi'n rhy hwyr dwi eisiau gwneud mwy o chwarae achos dwi'n colli o'n arw iawn. Dwi'n colli perfformio yn fawr iawn felly dwi wedi mwynhau chwarae a pherffeithio darnau eto."

Bydd Elinor yn perfformio cerddoriaeth o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ar ei ddwy delyn o'r un cyfnod mewn cyfres o gyngherddau.

Meddai Elinor, sy' wedi chwarae gyda cherddorfeydd mawr Prydeinig a rai o arweinyddion a chyfansoddwyr gorau'r byd yn ei gyrfa: "Mae'r telynau 'ma wedi bod gennai am amser hir a dwi wedi bod yn chwarae nhw ar wahân mewn gwahanol bethau.

"Yn ddiweddar 'nes i ddioddef o polymyalgia ond dwi wedi gwella, mae'n mysedd i'n iawn a dwi'n gallu chwarae'r delyn yn iawn.

"Ac un o'r rhesymau dwi isho neud hwn yw i ddweud wrth bobl i beidio stopio. Dwi isho cadw i fynd."

Meddai am yr her o chwarae ar ddwy delyn hanesyddol: "Yr hyn sy'n wirioneddol ddadlennol a difyr yw dod yn ôl a chlywed y sain yn union fel oedd y cyfansoddwr yn ei glywed o a'r telynorion eu hunain. Maer ddwy delyn yma yn wreiddiol yn dod o gefndiroedd difyr iawn.

"Dwi'n digwydd bod yn berson sy'n mwynhau hanes yn fawr ac felly dwi'n mwynhau byw yn y cyfnod yna drwy gyfrwng y telynau.

"Maen nhw'n golygu lot fawr i fi.

"Mae 'na lot o delynorion dros y byd sy' â diddordeb mawr yn yr hen delynau a dwi isho gwneud yn siŵr fod pobl yng Nghymru hefyd yn gwybod amdanyn nhw ac yn gwerthfawrogi nhw."

Elinor a'r ddwy delynFfynhonnell y llun, Elinor Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Elinor a'r ddwy delyn

Dwy delyn wahanol

Bydd Elinor yn perfformio gyda'r delyn deires, a ddatblygwyd yn yr Eidal yn ystod y cyfnod Baróc ac a chwaraewyd yn y Llys Brenhinol yn Llundain yn ystod cyfnod y cyfansoddwr George Frederic Handel.

Meddai: "Mae'r delyn deires sy' gennai yn gopi gwreiddiol o'r delyn wnaed tua 1755 – mae'n 270 o flynyddoedd neu rhywbeth gwirion felly. Gefais i hwnna gan gyfaill mawr o'r Iseldiroedd.

"John Richard o Lanrwst wnaeth o ac mae ei lofnod o arno dair gwaith ar grib y delyn. Mae'n amlwg yn un gwreiddiol a dwi ddim yn gwybod i sicrwydd am un delyn o'r fath sy'n bosib ei chwarae.

"Wrth gwrs mae wedi cael ei hadfer ond ar wahân i'r tannau a bwrdd sain newydd mae'n hollol ddilys ac yn chwarae'n dda ac yn swnio'n hyfryd."

Bydd Elinor yn chwarae cerddoriaeth gan John Parry ac mae'n esbonio arwyddocâd chwarae'r gerddoriaeth ar y ddwy delyn yma yn y cyngherddau sy'n digwydd ar draws Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abergwaun, Bangor, Llandeilo, Llanbedrog a Machynlleth: "Mae'r sain yn wahanol (i delyn fodern) – dydi o ddim yn bosib cymharu.

"Dyna pam dwi'n awyddus i wneud y cyngherddau yma i ddangos beth oedd y delyn a bod 'na hanes hir iddi a'i bod hi wedi newid llawer iawn dros y 200 o flynyddoedd 'da ni'n sôn amdano. Y peth sy' hefyd yn bwysig yw bod nhw'n greiddiol i'n hanes ni fel Cymry."

George Frederic Handel
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd Elinor yn perfformio cerddoriaeth wedi ei gyfansoddi gan George Frederic Handel ar delyn a gafodd ei wneud yng nghyfnod y cyfansoddwr

Cafodd y delyn deires ei disodli yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif gan delynau pedal newydd o Ffrainc a'r Almaen oedd wedi'u haddurno'n fwy cywrain. Un o'r telynau pedal hyn fydd ail delyn Elinor.

Meddai: "Mae'r delyn arall yn perthyn i'r cyfnod clasurol cynnar, tua tro'r ddeunawfed ganrif.

"Daeth y telynau newydd yn boblogaidd gyda merched ffasiynol a chyfoethog ymysg dosbarthiadau uchaf yn Ewrop."

Cafodd y delyn yma ei wneud gan un o'r gwneuthurwyr telyn mwyaf arwyddocaol, sef Sebastian Erard, fel mae Elinor yn esbonio: "Fo wnaeth ddyfeisio y model modern o sut mae pedalau yn gweithio ar y delyn.

"Ffrancwr oedd o'n gweithio yn llys Marie Antoinette. A 'da ni'n gwybod beth ddigwyddodd iddi hi. Roedd rhaid i bawb yn ei llys hi i ddianc.

"Ac mi ddoth Erard i fyw yn Llundain a sefydlu gweithdy telyn yn Great Marlborough Street. A 'da ni'n gwybod mai fan yna yn 1807 y gwnaed y delyn bedal fydda i yn chwarae.

"Mae'n delyn hyfryd sydd wedi'i haddurno'n gain iawn, ac yn hynny o beth mae'n hollol wahanol i'r delyn deires sy'n offeryn plaen iawn. Fel gyda'r delyn deires, cafodd yr offeryn hwn ei adnewyddu tua 35 mlynedd yn ôl gan Delynau Morley."

Delyn deires a ddyfarnwyd yn yr Eisteddfod ym 1848Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Delyn deires a ddyfarnwyd yn yr Eisteddfod ym 1848

'Y gerddoriaeth sy'n arwain'

Ac mi fydd Elinor yn chwarae cerddoriaeth gan Mozart a Handel, meddai: "Beth sydd wedi helpu fi yw bod gynnai delyn wreiddiol. Mae gen i gopïau o'r gerddoriaeth gwreiddiol – mae hynny wedi dangos fi sut i neud o. Dyna'r peth – gadael i'r gerddoriaeth i arwain.

"Prynais y ddwy delyn er cof am fy rhieni, sy'n eithaf emosiynol. Roedd fy nhad, Emrys Bennett Owen, yn gerddorol iawn a Mam, Hannah Bennett Owen yn gerddorol hefyd. 'Doedd ddim cyfle i gael gwersi telyn yn eu cyfnod nhw ond ddaru fy nhad brynu'r delyn gyntaf i mi a'm chwaer yn 1950! Oedd o'n arwain corau ac yn beirniadu mewn eisteddfodau.

"Mae'r deires yn cael ei galw'n 'Emrys' achos mai dynion oedd yn canu'r delyn deires yng Nghymru yn draddodiadol - telyn y werin oedd hi.

"Ond mae'r delyn bedal gynnar yn addurniedig iawn ac yn cael ei galw'n 'Hannah' er cof am Mam gan mai merched (cyfoethog fel arfer) oedd yn ei chanu tua dau gan mlynedd yn ôl. Mae hanes y ddwy delyn yn doreithiog ac yn bwysig iawn i'n hanes cerddorol ni fel Cymry."

Ac mae lledaenu'r neges am rôl y delyn yn hanes Cymru yn hynod bwysig i Elinor: "Mae'n ofnadwy o bwysig – dwi wedi bod yn chwarae pethau clasurol o bob cyfnod ar hyd fy ngyrfa ond bob amser yn cynnwys cerddoriaeth Gymraeg a phethau gwerin.

"Roedd llawer iawn o ddiddordeb yn y Gymraeg mewn gwledydd tramor. Wrth sefydlu y gwyliau telyn rhyngwladol yng Nghaernarfon roedd pobl yn dod a chlywed yr iaith, y bobl oedd mwyaf anwybodus oedd bobl o ardal Llundain. Oedd gynnon nhw ddim syniad bod ni'n gallu cynnal pethau drwy gyfrwng yr iaith.

"Mae 'na gymaint o anwybodaeth. 'Da nin cadw fo'n y gyfrinach orau yn Ewrop, fel wnaeth rhywun o America ddweud wrtha'i un tro."

Ac meddai Elinor wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa: "Dwi wedi perfformio drwy mywyd a dwi'n licio rhannu cerddoriaeth, dwi wrth fy modd yn ymarfer ond does dim lawer o bwynt gwario oriau lawer a dim ond chi sy'n clywed o.

"Dwi isho rhannu'r miwsig a bod efo pobl eraill. Y miwsig sy'n bwysig."