Huw Chiswell: Atgofion Steddfod yr Urdd

Huw Chiswell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Chiswell bellach yn adnabyddus fel cerddor a chyfarwyddwr teleu

  • Cyhoeddwyd

Mae'n anodd peidio cydymdeimlo efo unrhywun oedd yn cystadlu yn erbyn 'Linda' a 'Huw' yn y gân unigol wreiddiol yn Eisteddfod yr Urdd 1978. Roedd hi'n dalcen caled i gael llwyddiant yn erbyn dau wnaeth ddatblygu i fod yn enwau adnabyddus iawn yn y maes, sef Linda Griffiths a Huw Chiswell.

Wrth i'r ŵyl ymweld â'i ardal enedigol, mae Huw Chiswell wedi cyfansoddi cân i'r Urdd eto eleni - ond un swyddogol y mudiad y tro hwn er mwyn croesawu pawb i Eisteddfod Dur a Môr Parc Margam a'r Fro.

Ond wrth gofio yn ôl i'r cyfnod pan roedd o'n cystadlu, daw'n amlwg bod y safon yn uchel iawn erbyn cyrraedd y genedlaethol.

Eisteddfod yr Urdd 1978

Roedd Huw eisoes wedi cael profiad o berfformio'i ganeuon ei hun ers rhai blynyddoedd - gan gynnwys mewn nosweithiau aelwyd yr Urdd - cyn mentro i Eisteddfod '78.

Meddai: "Ges i lwyfan yn y genedlaethol pan o'n i yn fy arddegau gyda'r gân unigol.

"Ro'n i wedi sgwennu fy nghân fy hun - perfformio cân wreiddiol oedd y gystadleuaeth amwn i - pan o'n i tua 16 oed.

"Eisteddfod Llanelwedd oedd hi. Fi'n credu ddes i'n ail i Linda Griffiths!"

Linda Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Linda Griffith i amlygrwydd ar ddiwedd yr 1970au gyda'r band Plethyn, wnaeth recordio caneuon fel Tân yn Llŷn a Seidr Ddoe

Roedd y gystadleuaeth y flwyddyn honno yn sicr yn un gref.

Linda Griffiths, sydd wedi bod yn un o brif gerddorion gwerin Cymru ers degawdau bellach, gipiodd y wobr gyntaf.

Huw Chiswell ddaeth yn ail, ac yn drydydd roedd Siân Williams, oedd yn perfformio caneuon ar Cân i Gymru yn 1981 gyda'r grŵp Beca.

Mae gan y tri gafodd lwyfan yn 1978 gysylltiad efo Cân i Gymru gan mai Plethyn berfformiodd y gân fuddugol yn 1980 a Huw Chiswell oedd cyfansoddwr Y Cwm, ddaeth i'r brig yn 1984.

Ac roedd angen i'r safon fod yn uchel o ystyried mai'r beirniaid oedd dau sydd wedi cyfansoddi rhai o glasuron y Gymraeg: Emyr Huws Jones wnaeth sgwennu Cofio dy Wyneb a Ceidwad y Goleudy, ac Alun 'Sbardun' Huws, sef cyfansoddwr Strydoedd Aberstalwm a Coedwig ar Dân.

Huw Chiswell a Bronwen LewisFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Chiswell wedi cyd-ysgrifennu Cân y Croeso gyda Bronwen Lewis, sydd hefyd o'r ardal, a bydd y ddau yn perfformio ar nos Sadwrn ola'r Eisteddfod yng Ngŵyl Triban yr Urdd

Does gan Huw ddim llawer o gof o gystadlu yn 1978, ond mae un atgof o'r Eisteddfod wedi aros gydag o.

Meddai: "Un peth fi'n cofio ydi eistedd gyda fy nghariad tu ôl i ryw babell a hofrennydd yn cyrraedd yn agos iawn a meddwl 'jiawch be sy'n digwydd fan hyn? Odi'r Steddfod dan ryw fath o warchae neu gynllwyn milwrol i ymosod ar y Steddfod?'

"Ond rhywbeth tebyg oedd e - Carlo (Brenin Charles, Tywysog Charles ar y pryd) yn cyrraedd safle'r sioe. Mae'n siŵr bod ei bobl diogelwch yn meddwl 'be sy'n mynd ymlaen fan hyn?'."

Er ei ddawn gerddorol yn yr ysgol - yn cyfansoddi, canu ac yn chwarae'r piano a'r ffidl - doedd Huw ddim yn cystadlu llawer yn yr Eisteddfod, ond fe roedd yn mynd yn wythnosol i aelwyd yr Urdd ym Mhontardawe.

"Mae'r Urdd wedi bod yn rhan o'm mywyd i erioed - yr aelwyd oedd y clwb ieuenctid," meddai. "Roedd teithiau mynych - tu hwnt i'r Eisteddfod ond hefyd i'r Eisteddfod bob blwyddyn wrth gwrs ac roedd rhyw fath o gystadlu'n mynd 'mlaen ond baswn i ddim yn disgrifio fy hun fel cystadleuydd brwd."

Dwyn cap cerddor adnabyddus

Oherwydd diffyg ysgolion Cymraeg yn yr ardal yn ystod y cyfnod, fe gafodd ei addysg gynradd drwy'r Saesneg felly doedd yr ysgol ddim yn cystadlu yn yr Urdd.

Ond gan fod ei fam yn dysgu cerdd, ac yna Cymraeg, yn Ysgol Ramadeg Pontardawe roedd yn mynd i eisteddfodau gyda hi a'i disgyblion - gan gynnwys cerddor arall ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach.

Mae Huw yn cofio taith bws hir i Eisteddfod yr Urdd Caergybi yn 1966 pan oedd o'n fachgen ifanc ac yn 'rhedeg reiat ymysg disgyblion chweched dosbarth'.

"Ni'n sôn am y 60au pan oedd disgyblion yn gwisgo cap ysgol a dwi'n cofio arwyddair yr ysgol ar flan y cap 'a fo ben bid bont… Ysgol Ramadeg Pontardawe'.

"Ta waeth, roedd y bws wedi gorfod tynnu fewn ar un adeg oherwydd ro'n i 'di cipio cap y ferch oedd yn iste o'm mlaen i a'i daflu mas drwy ffenest y bws. Roedd rhaid i'r bws dynnu fewn - a chi'n gwybod pwy oedd y ferch nath golli ei chap? Mary Hopkin!"

Bod yn llywydd yn anrhydedd

Bydd Huw yn mynd i'r Eisteddfod eleni fel beirniad mewn tair cystadleuaeth ac mae'n perfformio ar y nos Sadwrn olaf yng Ngŵyl Triban. Mae dau o'i ganeuon - Y Cwm a Nos Sul a Baglan Bay - hefyd yn destunau gosod mewn cystadlaethau corawl.

Ac mae ganddo atgofion melys o'r tro diwethaf roedd y Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam, yn 2003, pan roedd o'n llywydd y dydd.

Meddai: "Mae'n nyled i'n fawr i'r Eisteddfod a ges i lot o'r Steddfod ar hyd y blynydde ac roedd e'n gymaint o anrhydedd i gael fy newis i fod yn llywydd y dydd. Ro'n i mor falch."