Ateb y Galw: Llio Maddocks

Llio MaddocksFfynhonnell y llun, Yr Urdd
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd miloedd yn heidio i Barc Margam yr wythnos hon i brif ŵyl gelfyddydol plant a phobl ifanc Cymru, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Felly pwy well i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw na chyfarwyddwr celfyddydau yr Urdd, Llio Maddocks.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Sbïo drwy flwch postio ffrind fy mam, ar ei diwrnod nôl yn gwaith wedi cyfnod mamolaeth, a gweiddi 'Mam, paid â mynd' arni wrth iddi gerdded i ffwrdd at y car. Trist 'de.

Dwi'n dal i ddefnyddio'r stori yma i wneud i Mam deimlo'n euog weithiau - sori Mam! Ond Mam wnaeth ddysgu fi i fod yn annibynnol a sefyll ar fy nhraed fy hun.

Llio efo'i Mam, Rhian a'i chwaer fawr, ErinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Llio efo'i Mam, Rhian a'i chwaer fawr, Erin

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Ar ben y Moelwyn Mawr yn edrych i lawr ar Blaenau Ffestiniog ac arfordir y Gogledd Orllewin. O fan'na, ti'n gallu gweld yn union pam wnaeth Gwyn Thomas alw Blaenau yn 'freichled o dref ar asgwrn o graig'.

Mae Ffestiniog yn un o'r llefydd tlysa' yn y byd i mi. Mae'r tirlun mor ddramatig, ac mae'r fro wedi ei cheseilio yn y mynyddoedd. Fan'na fydd adra i fi am byth.

Llio a'i theulu ar ben Molewyn MawrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Llio a'i theulu ar ben Moelwyn Mawr

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Noson Pride Cymru, mis Awst 2022. Dyma'r tro diwethaf i mi gael noson wirion tan chwech o'r gloch y bore (dwi 'di callio ers hynny!), ond cyn hynny, dyna lle gafon ni ran o'r ysbrydoliaeth tu ôl i Cwiar na Nog.

Ro'n i wedi cerdded yn y parêd efo Mistar Urdd a chriw o bobl ifanc, ac wedi gweld faint oedd o'n ei olygu iddyn nhw gael gofod saff i ddathlu eu hunaniaeth.

Wedi sgwrs hir, hir efo'n ffrind, Aled Rosser, penderfynwyd cael criw o bobl ifanc at ei gilydd dros y misoedd nesaf i greu gofod saff yn y Gymraeg i bobl ifanc LHDTC+ - a dyna ddechrau Cwiar na Nog! Dim rhyfedd i ni ddathlu tan oriau mân y bore felly.

Criw yr Urdd yn Pride Cymru 2022Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Criw yr Urdd yn Pride Cymru 2022

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Bach o boen.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Un flwyddyn, dwi'n cofio helpu trefnu digwyddiad efo'r Urdd lle'r oedd pobl ifanc yn cystadlu, a sylweddoli tua dwy awr cyn dechrau'r cyngerdd bod y cyfeilydd ddim am droi fyny. Roedd hi'n bnawn dydd Sul yn Aberystwyth, a dwi rioed 'di teimlo ffasiwn banics.

Dwi'n cofio rhyw 10 ohonom ni, yn staff a gwirfoddolwyr, yn ffonio bob cyfeilydd yng Ngheredigion, yna'r gorllewin, yna yng Nghymru i weld os oedden nhw ar gael - ond roedd pawb yn brysur.

Ac yna dod o hyd i'n harwr, Huw Griffith o Ben Llŷn, a cheisio ei berswadio i yrru i Aberystwyth ar ôl bod ar ei draed yn gweithio ers 6am!

Doedd gan r'un ohonom ni syniad am CV Huw, a dwi'n cofio meddwl i fy hun wrth iddo droedio ar y llwyfan yn fyw ar y teledu - 'be' os 'di'r boi 'ma' methu chwarae piano?'

Troi allan, mae Huw wedi cyfeilio yn y West End ac roedd yn Bennaeth Cerddoriaeth mewn Coleg yn Llundain. Dyna beth oedd rhyddhad ei wylio'n cyfeilio fel tasa fo a'r piano yn un!

Fedra i ddim deud y stori yna heb chwerthin wrth gofio ni i gyd yn fflapio, a Huw mor cŵl yn troi fyny i'n hachub ni gyd. (Dim fi oedd yn gyfrifol am fwcio'r cyfeilydd, gyda llaw!)

Criw yr UrddFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Llio gyda'i chyd-weithwyr oedd yn trefnu Eisteddfod yr Urdd 2024

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Ro'n i a'n ffrindiau yn arfer hongian o gwmpas yr hen reilffordd ym Manod pan oedden ni'n rhy ifanc i fynd i'r dafarn. Dwi'n cofio un nos Wener ganol yr haf, 'nes i fethu'r bws olaf i Llan ar bwrpas er mwyn gallu treulio awran ychwanegol efo'r criw, er bod gen i curfew i fod.

Wel, 10 munud yn ddiweddarach, pwy 'nath droi fyny i'r rêls ond Dad, yn martsio i lawr efo'i wynab fel taran. Mi roddodd glamp o row i fi o flaen fy ffrindiau i gyd, a llusgo fi adra gerfydd fy mhenelin. Am embarrassing!

Ond fo oedd yn iawn, a 'nes i ddim methu curfew eto wedyn!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Dwi wastad yn cael 'chydig o wobble yn gwylio plant yn cystadlu. Ro'n i yn Neuadd y Brangwyn ym mis Ebrill yn yr Eisteddfod Rhanbarth, a ges i ambell i ddeigryn hapus yn gwylio'r corau dysgwyr yn perfformio - pob un bron iawn yn cystadlu am y tro cyntaf gan fod y Steddfod ar eu stepan drws.

Mae gweld y balchder ar eu hwynebau, ac ar wynebau'r rhieni yn enwedig, yn gwneud rhywbeth od iawn i fy nghalon i, ac mae'r dagrau hapus yn llifo wedyn.

Debyg iawn fyddai'n crio bob diwrnod yn Eisteddfod yr Urdd felly!

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi'n ailadrodd fy hun lot, a dwi'n siarad rownd y pwynt weithiau. A dwi'n ailadrodd fy hun lot.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Dau lyfr gan Angharad Tomos. Wrth ei Dagrau Hi - clasur gyfoes, ac un o'r troeon cyntaf i mi ddarllen am brofiadau merched mewn ffordd mor onest ac amrwd. Mae'r ffordd mae Angharad yn ymdrin â'r holl gymeriadau adnabyddus yn feistrolgar.

Ac yn ail, Diwrnod Golchi. Un o glasuron cyfres Rwdlan, ble mae Mursen y gath druan yn cael bath gan y Dewin Dwl, a dydi hi ddim yn hapus iawn am y peth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Gwerful Mechain. Dwi'n siŵr y byddai gennym ni lot fawr i siarad amdano, a gallen ni gymharu ein cerddi.

Er mai cerddi coch Gwerful sy'n enwog erbyn hyn, mae ganddi rhai prydferth, crefyddol a themâu tywyllach.

Byddwn ni'n cael rants da am rôl y ferch, stereoteips, a blwming beirdd fel Dafydd ap Gwilym. Ac mi fyddai hi'n gallu rhoi gwersi cynganeddu i mi!

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Sgwba-deifio yng Ngwlad ThaiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llio a'r morgwn morfilaidd

Dwi wedi fy nghymhwyso i scuba-divio, a nes i nofio efo morgwn morfilaidd (whale sharks) yng Ngwlad Thai.

Dwi wrth fy modd o dan y dŵr. Ti methu clywed unrhyw beth heblaw dy anadl dy hun, ac mae'r teimlad o fod mor ysgafn a gallu gwneud campau drwy'r pysgod yn gwbl unigryw. Mi faswn i'n ei wneud o bob dydd tasa'r dŵr 'chydig cynhesach yng Nghymru.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Mynd i farchnad a chael coffi neis yn y bore, yna bwyta lot o basta, sôs tomato a parmesan, a mynd â fy nheulu a ffrindiau i fyny mynydd. A falle stopio am beint ar y ffordd yn ôl i lawr. Diwrnod perffaith.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Llio a'i thadFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Llun ohona i a Dad yn paratoi concyrs. O'n i methu credu bod o'n gwybod cymaint am goncyrs, a dwi'n edrych i fyny arno fo fel petai o'n gwybod popeth yn y byd.

Dwi'n meddwl bod o'n amlwg o fy wyneb i mai Dad oedd fy arwr i pan o'n i'n hogan fach. A dylanwad Dad oedd y rheswm am y crys-T Man U hefyd!

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Caryl Parry Jones, i mi gael bloeddio canu Shampŵ yn y car a'r gawod, a chadw tiwn am unwaith! Mae pob cân gan CPJ yn banger, ac yn playlist perffaith ar gyfer pob achlysur.