Eisteddfod yr Urdd: Dewch i grwydro Parc Margam

Parc Margam fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd eleni
- Cyhoeddwyd
Eleni bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gynnal ar dir Parc Margam.
Mae gan y parc gysylltiadau hanesyddol, gydag adeiladau amrywiol i'w gweld o fewn ffiniau'r parc.
Ar un adeg roedd y parc yn berchen i deulu dylanwadol yr ardal, Mansell Talbot.
Mae hanes cynnar y parc yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif, a dyma ychydig o'i hanes a'r hyn y gallwch weld wrth grwydro maes yr Eisteddfod.
Castell Margam

Fe gomisiynwyd y gwaith o adeiladu Castell Margam gan Christopher Rice Mansel Talbot. Roedd yn Aelod Seneddol ac yn ddiwydiannwr dylanwadol iawn yn y 19eg ganrif.
Fe adeiladwyd y castell rhwng 1830 a 1840 am gost o £50,000 ar y tir a oedd wedi bod yng ngofal y teulu ers cyfnod y Diwygiad Protestannaidd yn y 16eg ganrif.
Roedd y castell wedi'i adeiladu i fod yn symbol o gyfoeth y teulu Talbot a hynny yn ystod pinacl y chwyldro diwydiannol gyda thref Port Talbot yn cael ei droi'n ganolbwynt diwydiannol pwysig.
Roedd y Castell yn nwylo'r teulu nes i dân ddinistrio rhan ohono ym 1977. Bryd hynny fe wnaeth y cyngor sir leol gymryd gofal ohono.
Yn 1997 roedd trafodaethau y gallai'r castell fod yn lleoliad newydd Senedd Cymru pe bai'r etholiad ar ddatganoli yn llwyddiannus.
Fe gafodd y syniad yna ei ddiystyru'n gyflym gan y buasai llawer o waith adnewyddu angen ei wneud i'r adeilad i'w wneud yn addas i fod yn adeilad seneddol.
Abaty Margam

Fe gafodd yr Abaty ei hadeiladu yn 1147 dan ofalaeth Iarll Morgannwg a Chaerloyw, Robert Consul.
Yn ei anterth roedd yr Abaty'r un mwyaf cyfoethog yng Nghymru. Fe anfonwyd mynachod Sisteraidd drosodd o Ffrainc i feddiannu ac i addoli yno.
Erbyn 1536 roedd yr Abaty wedi'i diddymu gan Brenin Harri'r VIII gyda dim ond naw mynach yn parhau i fyw yno ac addoli yno.
Bryd hynny fe gafodd yr Abaty ei gwerthu i Henry Mansel.
Drwy deulu Mansel fe basiwyd yr Abaty lawr drwy linach y teulu i Talbots ac fe adeiladwyd Gastell Margam fel cartref yn agos at yr Abaty.
Mae adfeilion yr Abaty gwreiddiol yn parhau i fod yn weladwy ac mae canol yr Abaty yn parhau i gael ei ddefnyddio fel addoldy.
Yr Orendy

Mae 27 ffenestr yn yr Orendy
Adeiladwyd yr Orendy, sy'n 327 troedfedd, ar gyfer tyfu oren, lemon a llawer mwy o goed sitrws ar gyfer teulu'r Talbots.
Does neb yn bendant o ble ddaeth y coed gwreiddiol, ond mae awgrym mai anrheg ar gyfer y Goron oeddynt. Wrth gludo'r coed ar long, fe darodd y llong greigiau ar lan yn agos at Fargam ac fe gafodd y coed eu cymryd gan deulu'r Talbots.
Erbyn canol y 18fed ganrif, roedd dros 100 o goed sitrws wedi'i chofnodi yn yr orendy ac mewn sawl tŷ gwydr ar dir y parc.
Roedd cael adeilad pwrpasol gyda 27 ffenest o'r llawr i'r to yn bwysig i oroesi tywydd garw de Cymru wrth geisio tyfu ffrwythau o dramor.
Roedd 1973 yn drobwynt yn hanes yr orendy, gyda'r adeilad yn disgyn yn ddarnau fel adnewyddodd y cyngor sir yr orendy ac fe agorwyd fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Arian y Frenhines.
Erbyn heddiw mae'r Orendy yn cael ei ddefnyddio ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill.
Y Goeden Ffawydden

Dyma Coeden y Flwyddyn Cymru yn 2020
Fe enillodd y goeden ffawydden yma wobr Coeden y Flwyddyn yng Nghymru yn 2020.
Mae'r goeden wedi bod yn y parc ers tua 200 mlynedd ac roedd plannu coed o'r fath yn boblogaidd iawn yn y cyfnod mewn tai mawreddog a pharciau mawr.
Mae'r goeden wedi'i leoli rhwng yr Abaty a'r Orendy ac yn fan poblogaidd iawn i gysgodi rhag y glaw.
Efallai y byddai pobl graff hefyd yn adnabod y goeden o wylio'r teledu.
Mae'r goeden wedi ymddangos ar raglenni fel Songs of Praise, Dr Who a Sex Education.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd9 Mai