A dyna ni am heno...wedi ei gyhoeddi 00:27 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2021
Mae'r cyfri' wedi dod i ben am heno, a hefyd ein llif byw.
Fel mae'n sefyll, Llafur sydd ar y blaen gyda 30 o seddi Seneddol, mae gan y Ceidwadwyr 12, Plaid Cymru 9 a'r Democratiaid Rhyddfrydol gydag 1.
Mae Llafur Cymru wedi sicrhau'r un nifer o seddi ag yn 2011 - y canlyniad gorau erioed.
Mae hynny - 30 o seddi - un yn brin o fwyafrif, ond mae'n anhybygol y bydd y blaid yn ennill mwy yn y rhanbarthau sydd ar ôl.
Ond mae na ddau ranbarth yn cyhoeddi 'fory, felly dewch yn ôl atom ni yma ar Cymru Fyw, a cofiwch am raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru am 08:00 gyda rhaglen awr o hyd.
Diolch am ddilyn, a nos da.