Llafur yn cadw Blaenau Gwentwedi ei gyhoeddi 18:09 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021Newydd dorri
Llafur Cymru
Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd hyd yma yn etholiad Senedd 2021
Leanne Wood yn colli sedd Plaid Cymru yn y Rhondda
Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd
Jane Dodds yn ennill sedd ranbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol
Canlyniad dau ranbarth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn
Llafur Cymru
Roedd 'na sibrydion y byddai Plaid Cymru'n agos yn Aberconwy, ond roedd y canlyniad yn gyfforddus yn y diwedd i Janet Finch-Saunders a'r Ceidwadwyr.
Ond wrth siarad ar ôl y canlyniad, fe wnaeth Ms Finch-Saunders ddweud ei bod wedi ei "brawychu" gan ymosodiadau personol yn ei herbyn hi a'i theulu yn ystod yr ymgyrch.
Dywedodd ei bod wedi sefyll mewn naw etholiad, a phob un gyda "chwrteisi", ond y tro hwn ei bod wedi profi "sarhad personol gan fy ngwrthwynebwyr, ac yn syml nid yw'n ymddygiad personol i unrhyw un sydd eisiau mynd i fywyd cyhoeddus".
S4C
Wrth siarad â rhaglen Etholiad S4C, dywedodd Helen Mary Jones, ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli:
“Mae’n anodd gwybod sut mae hi yn mynd oherwydd y rheolau ond mae hi yn edrych yn agos iawn iawn.”
“Yn hytrach na’r naw mis fel arfer dan ni allan, pedair wythnos ydan ni wedi ei gael.
“Fel ymgeisydd mae o’n eitha ‘nerve wracking’!”
Mae hi’n cydnabod bod arweinyddiaeth Mark Drakeford yn ystod y pandemig wedi gwneud ymgyrch Plaid Cymru yn anoddach.
“Dwi’n optimistaidd, ond ddim yn hyderus.”
Plaid Cymru
Llafur Cymru
Ceidwadwyr Cymreig
Wedi'r clwstwr yna o ganlyniadau, fel hyn mae'r map yn edrych erbyn hyn.
Dim ond un sedd sydd wedi newid dwylo hyd yma, sef Dyffryn Clwyd, gyda'r Ceidwadwyr yn cipio honno oddi ar y Blaid Lafur.
Ar ôl y canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn, mae'r Athro John Curtice, arbenigwr ar etholiadau, yn dweud bod arwyddion bod Llafur wedi gwneud yn well na'r disgwyl heddiw.
"Roedd y polau'n awgrymu y byddai'r Ceidwadwyr yn gwneud camau mawr ymlaen ar draul cwymp UKIP ers 2016", meddai.
"Ond hyd yma mae pleidlais Llafur wedi cynyddu o 5 pwynt, yr un fath a'r Ceidwadwyr, sydd i fyny 5.
"Ar y ffigyrau yma, fe ddylai Llafur fod yn agos at y 29 o seddi wnaethon nhw eu hennill yn 2016."
Llafur Cymru
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Quote MessageMae canlyniadau Llafur yn dda hyd yma - dim ond wedi colli un sedd. Dyw pleidlais UKIP 2016 ddim wedi trosglwyddo i'r Ceidwadwyr. Yn Islwyn mi roedd UKIP yn ail. Mae'n ddyddiau cynnar ond efallai mai tair plaid fydd yn nhymor nesaf y Senedd gydag un eithriad o sedd i Neil Hamilton o UKIP.
Llafur Cymru
Ceidwadwyr Cymreig
Llafur Cymru
Llafur Cymru
Roedd 'na gryn ddyfalu y byddai'r Ceidwadwyr yn cipio Wrecsam hefyd heddiw - un arall o seddi'r wal goch yn y gogledd ddwyrain.
Ond gyda'r canlyniadau i mewn, mae Lesley Griffiths wedi cadw'r sedd i lafur gyda mwyafrif o 1,350.
Ceidwadwyr Cymreig
Llafur Cymru
Plaid Cymru
Llafur Cymru
Ceidwadwyr Cymreig