'Diwrnod diddorol, ond nid am y rhesymau disgwyliedig'wedi ei gyhoeddi 22:11 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
Etholiad 2021
Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd hyd yma yn etholiad Senedd 2021
Leanne Wood yn colli sedd Plaid Cymru yn y Rhondda
Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd
Jane Dodds yn ennill sedd ranbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol
Canlyniad dau ranbarth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn
Etholiad 2021
BBC Radio Cymru
Yn ôl adroddiadau gan ein gohebydd yng nghyfri' rhanbarth Gorllewin De Cymru, mae Neuadd Brangwyn yn gorfod cael ei gwagio ar hyn o bryd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bro Morgannwg ydy'r unig etholaeth sydd eto i gyhoeddi bellach, ond mae 20 sedd ranbarthol sydd eto i'w datgelu hefyd.
Rydyn ni'n disgwyl canlyniadau Gogledd Cymru, Gorllewin De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru ar ryw bwynt heno, ond bydd yn rhaid disgwyl tan yfory am ganlyniadau Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru.
S4C
Llafur Cymru
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Mae'r ffaith nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill yr un sedd etholaethol yn ddigwyddiad hanesyddol, medd Vaughan Roderick.
Fe gollon nhw eu hunig sedd sef Brycheiniog a Maesyfed i'r Ceidwadwyr.
Etholiad 2021
Roedd cyfri' etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ac etholaeth Preseli Sir Benfro yn cael ei gynnal yn Hwlffordd ac ar ddiwedd y cyfri roedd dau Geidwadwr yn dathlu ond a hithau yn gyfnod y pandemig doedd dim ysgwyd llaw eleni.
Melanie Owen
Doedd yna ddim dewis i Melanie Owen ond difetha ei phleidlais, meddai.
Fel person busnes doedd hi ddim yn teimlo bod polisïau y Blaid Lafur na Phlaid Cymru ar yr economi yn ddigon da a doedd hi ddim yn hapus gydag agwedd y Ceidwadwyr at bobl aml-hil.
Dyma'r sefyllfa gyda dwy etholaeth yn weddill, a'r 20 sedd ranbarthol.
Dim ond dau fwlch sydd ar y map bellach - Bro Morgannwg a Gorllewin Caerdydd.
Ond bydd rhaid disgwyl tan yfory am y canlyniad cyflawn!
Ydych chi'n mwynhau etholiadau, rhifau a chyd-ddigwyddiadau?
Wel dyma stori'r noson i chi felly...
Mae Mick Antoniw wedi sicrhau mwyafrif o 5,328 o bleidleisiau heno 'ma.
Sydd UNION yr un faint o fwyafrif a gafodd yn 2016...
Llafur Cymru
Llafur Cymru
Mae aelod Llafur Llanelli, Lee Waters, wedi bod yn trafod effaith Mark Drakeford ar yr ymgyrch, mewn termau na fyddech chi'n eu disgwyl efallai...
Mae Mr Drakeford ychydig yn "nerdy" ac yn "boring", meddai Mr Waters, ond "diolch i Dduw amdano fe".
Ychwanegodd ei fod "yn sicr yn ased" i'r blaid.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi cadw ei sedd yn y Senedd. Roedd hi'n fuddugoliaeth eitha' cyfforddus iddo, gyda mwyafrif o 6,800 - er bod hynny ychydig yn is na'r tro diwethaf.
Plaid Cymru
Llafur Cymru
Ceidwadwyr Cymreig
Fel yma oedd hi ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli eu hunig sedd yn y Senedd.
James Evans sy'n cipio'r sedd, gyda mwyafrif o 3,800.