Crynodeb

  • Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd hyd yma yn etholiad Senedd 2021

  • Leanne Wood yn colli sedd Plaid Cymru yn y Rhondda

  • Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd

  • Jane Dodds yn ennill sedd ranbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Canlyniad dau ranbarth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn

  1. Llafur yn cadw Caerffiliwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Caerffili
  2. Llafur yn cadw Delynwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Delyn
  3. Beth nesaf i Carwyn Jones?wedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    S4C

    Mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi gwrthod dweud beth fydd ei gamau nesaf ar ôl gadael y Senedd eleni.

    Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n mynd i Dy'r Arglwyddi, "gewn ni weld be' ddigwyddith" oedd ei ateb, ar raglen S4C.

    Disgrifiad,

    Carwyn Jones

  4. Rhywfaint o gwyno bod y canlyniadau yn hir yn dod ...wedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Argyfwng yn y Rhondda i'n gohebydd Rhys Williams...wedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Dafydd Iwan: Byddai colli Rhondda yn ergyd 'enfawr'wedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Disgrifiad,

    Dafydd Iwan: Byddai colli Rhondda yn ergyd 'enfawr'

  7. Vaughan Roderick: Merthyr v Hartlepool?wedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Quote Message

    Mae colli Dyffryn Clwyd yn golled absoliwt i'r Blaid Lafur o ran nifer y cynrychiolwyr yn y Gogledd. Gellid dweud bod etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn debyg i Hartlepool - ond yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yw bod Mark Drakeford wedi ennill clod am ei waith yn ystod y pandemig ac mae Dawn Bowden yn aelod Llafur hoffus a gweithgar.

  8. Canlyniad llawn Dyffryn Clwydwedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Fe wnaeth y Ceidwadwyr gipio Dyffryn Clwyd, ond roedd y canlyniad yn agos.

    Dyma'r canlyniad llawn, ac fe allwch chi fwrw golwg fanwl ar yr holl ganlyniadau drwy glicio yma.

    d clwyd
  9. O Hartlepool i Ferthyrwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Wrth gymharu canlyniad Merthyr gyda’r golled i’r blaid Lafur yn Hartlepool, dywedodd Eluned Morgan - Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg - ar Radio Cymru mai “Llafur Cymru yw’r gwahaniaeth, a’r ffaith ein bod ni wedi sefydlu ein hunain fel rhywbeth sy’n wahanol i’r ffordd mae’r blaid yn rhedeg ei hunan o Lundain”.

    Ffactor arall, meddai, oedd proffil digynsail Mark Drakeford oherwydd y pandemig a’i fod ef yn “uniaethu gyda’r bleidlais draddodiadol Lafur”.

    Eluned Morgan
  10. Hyder Llafur yn rhan o'r 'wal goch'wedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae ffynonellau Llafur yn dweud wrth BBC Cymru eu bod yn hyderus eu bod wedi dal eu gafael ar seddi Delyn, ac Alun a Glannau Dyfrdwy.

    Roedd Delyn yn un o'r seddi 'wal goch' a gollwyd i'r Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2019, ac yn yr un etholiad fe ddalion nhw Alun a Glannau Dyfrdwy o drwch blewyn.

  11. Y cyntaf o nifer i'r Ceidwadwyr yn y gogledd-ddwyrain?wedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae'r Ceidwadwyr wedi cipio eu hetholaeth gyntaf o etholiad y Senedd eleni wedi'r canlyniad yna yn Nyffryn Clwyd.

    Ai dyma'r cyntaf o nifer yn y gogledd-ddwyrain, ynteu eithriad? Amser a ddengys!

    map
    Sgorfwrdd
  12. Drakeford: 'Rhywfaint yn well na'r disgwyl heddiw'wedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae Mark Drakeford wedi dweud bod canlyniadau'r prynhawn yn "edrych rhywfaint yn well na'r rhagolygon a ddaeth ar ddechrau'r ymgyrch yma".

    Mae Llafur newydd golli sedd Dyffryn Clwyd i'r Ceidwadwyr, ond roedd hi'n agos - arwydd efallai na fydd y Toriaid yn cipio'r holl seddi roedden nhw'n eu disgwyl heddiw?

    Ychwanegodd Mr Drakeford bod hon yn etholiad "anodd o ran nifer sydd wedi pleidleisio".

    "Dwi wedi cyfarfod pobl oedd yn nerfus am bleidleisio, yn pryderu am nad ydyn nhw wedi bod allan o'u cartrefi am wythnosau neu fisoedd."

    Mark Drakeford
  13. Canlyniad 'rhyfeddol'wedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn credu bod canlyniad Merthyr yn arwyddocaol...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Pam mai Maldwyn oedd gyntaf?wedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    BBC Radio Cymru

    Dyw Maldwyn ddim yn enwog am gyhoeddi canlyniadau etholiad yn gynnar!

    Ond eleni roedden nhw ymhell ar y blaen i bawb arall, ac mae gan Vaughan Roderick theori am y rheswm am hynny...

    Disgrifiad,

    Vaughan Roderick sy'n egluro pam bod y cyfri wedi digwydd mor gyflwym ym Maldwyn

  15. Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwydwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dyffryn Clwyd
  16. 'Sylfaen gadarn' gan Mark Drakefordwedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    S4C

    Ar raglen Etholiad S4C, mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones yn dweud bod Mark Drakeford wedi rhoi "sylfaen gadarn" i Lafur yn dilyn cyfnod y pandemig.

    Ond dywedodd nad y gorffennol sy'n hawlio sylw mewn etholiad, "mae [pobl] moyn gwybod be chi'n mynd i 'neud nesa'".

    Disgrifiad,

    Carwyn Jones

  17. Llafur yn cadw Merthyr Tudful a Rhymniwedi ei gyhoeddi 15:37 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Merthyr Tudful a Rhymni
  18. Sut mae pethau yn Yr Alban?wedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae etholiadau i Senedd Yr Alban yn cael eu cyfri heddiw hefyd.

    Cemlyn Davies sydd yng Nghaeredin yn bwrw golwg dros y sefyllfa bresennol.

    Disgrifiad,

    Cemlyn Davies yn yr Alban

  19. Mwy wedi pleidleisio yn Rhondda, ond canran iswedi ei gyhoeddi 15:28 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Yr ifanc a ŵyr...wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae Dylan Jones wedi bod yn siarad ar Radio Cymru â rhai o’r to iau oedd yn cael y cyfle i bleidleisio am y tro cyntaf.

    Mae Rhodri Williams o Gaerwen, Ynys Môn yn 17 mlwydd oed ac yn ddisgybl blwyddyn 13 yn ysgol David Hughes. Dywedodd iddo bleidleisio dros Blaid Cymru er y bu’n aelod gweithgar o'r blaid Lafur ers 2010 ond wedi ymuno â Phlaid Cymru yn 2019 oherwydd ei fod yn hoffi'r syniad o annibyniaeth i Gymru. “Ar ôl blynyddoedd o weld fy rhieni yn pleidleisio roedd hi’n rhyfedd i gerdded i mewn i’r blwch pleidleisio am y tro cyntaf a bwrw croes,” meddai.

    Mae Jonathon Powell o Wrecsam yn 18 oed ac yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio'r gyfraith yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Dywedodd ei fod wedi pleidleisio drwy'r bost dros y Ceidwadwyr yn etholaeth De Clwyd oherwydd ei bod yn "addo dyfodol llachar i ni bobol ifanc".

    Un arall sydd wedi pleidleisio am y tro cyntaf ydi Faye Reynolds o Gaernarfon sy'n 17 oed ac yn ddisgybl ym mlwyddyn 12 yn Ysgol Syr Huw Owen Caernarfon. Pleidleisiodd hithau hefyd i Blaid Cymru oherwydd ei bod o blaid annibyniaeth. Roedd “teimlad o gysur bod ein barn yn cael eu cyfrif am y tro cyntaf,” meddai.

    Dywedodd Elis Smith o Ddolgellau, sy'n 21 oed ac yn dorrwr coed, na wnaeth pleidleisio. "Dydw i heb gymryd diddordeb. Dio ddim pwys gen i bwy sy i mewn."

    Roedd pobol 16 ac 17 oed yn medru pleidleisio am y tro cyntafFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd pobol 16 ac 17 oed yn medru pleidleisio am y tro cyntaf