Crynodeb

  • Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd hyd yma yn etholiad Senedd 2021

  • Leanne Wood yn colli sedd Plaid Cymru yn y Rhondda

  • Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd

  • Jane Dodds yn ennill sedd ranbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Canlyniad dau ranbarth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn

  1. Ceidwadwyr yn cipio Brycheiniog a Sir Faesyfedwedi ei gyhoeddi 20:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Ceidwadwyr Cymreig

    Brycheiniog a Sir Faesyfed
  2. Llafur yn cadw De Caerdydd a Phenarthwedi ei gyhoeddi 20:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    De Caerdydd a Phenarth
  3. Llafur yn cadw Gogledd Caerdyddwedi ei gyhoeddi 20:27 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Gogledd Caerdydd
  4. Vaughan Roderick: 'To newydd o aelodau Plaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 20:24 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Quote Message

    Bydd to newydd o aelodau o Blaid Cymru ym Mae Caerdydd - dyw'r rhanbarthau ddim wedi'u cyhoeddi ond mae'n eitha sicr y bydd pobl fel Rhys ab Owen a Cefin Campbell yn ymuno â Mabon ap Gwynfor fel aelodau newydd gan fynd â ni nôl at griw o genedlaetholwyr mwy traddodiadol. Gellir hefyd disgwyl neges mwy unffurf ganddyn nhw.

  5. 'Colli Leanne yn ergyd chwerw'wedi ei gyhoeddi 20:11 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    Dyma oedd y foment y cafodd y canlyniad ei gyhoeddi.

    Disgrifiad,

    Buffy Williams yn cipio sedd Rhondda i'r blaid Lafur

  6. Llafur yn cadw Canol Caerdyddwedi ei gyhoeddi 20:06 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Canol Caerdydd
  7. Tri chwarter yr etholaethau wedi cael eu cyhoeddiwedi ei gyhoeddi 20:04 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae dros 75% o'r etholaethau wedi cyhoeddi canlyniad erbyn hyn - 31 o'r 40.

    I'ch atgoffa, dwy etholaeth sydd wedi newid dwylo hyd yma - y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd a Llafur yn cymryd Rhondda.

    Naw etholaeth i fynd...

    map
    Sgorfwrdd
  8. Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael eu 'chwalu' yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 20:00 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    BBC Radio Cymru

    Dywedodd Dylan Iorwerth bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael eu "chwalu" yng Ngheredigion a bod "pleidlais bersonol fawr" i Elin Jones.

    Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn bedwerydd, gydag Elin Jones yn ennill mwyafrif o 12,145.

    Elin Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    'Pleidlais bersonol fawr' i Elin Jones, Llywydd y Senedd.

  9. Carwyn Jones: 'Canlyniadau gwych yn y Rhondda a Llanelli'wedi ei gyhoeddi 19:58 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Carwyn Jones
    Cyn Brif Weinidog Cymru

    Wrth ymateb i fuddugoliaethau Rhondda a Llanelli dywedodd y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones eu bod yn ganlyniadau gwych.

    Dywedodd bod yna ddau beth i gyfrif am hyn, sef y ffordd y mae Mark Drakeford wedi delio gyda'r pandemig a'r ffaith bod y blaid yn apelio at Gymreictod pobl ond nid o blaid annibyniaeth.

  10. Dim cyhoeddiad rhanbarthol nes 'forywedi ei gyhoeddi 19:54 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae cadarnhad erbyn hyn na fydd canlyniadau rhanbarth Dwyrain De Cymru'n cael eu cyhoeddi nes bore 'fory.

    Yn Y Barri hefyd, ni fydd y pleidleisiau rhanbarthol yn cael eu cyfri' nes fory, felly ni fydd canlyniad i Ganol De Cymru tan ddydd Sadwrn.

  11. 'Annibyniaeth yn gelyniaethu rhai o gefnogwyr Plaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 19:46 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Richard Wyn Jones
    Athro Gwleidyddiaeth Cymru

    Bydd colli y Rhondda yn ergyd fawr i gefnogwyr Plaid Cymru, ond yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, bydd na siawns i'r blaid ar y rhestrau rhanbarthol:

    "Mae'n bosib i Blaid Cymru ennill rhai seddi rhanbarthol, gan y bydd seddi yn rhydd ar y rhestr yn sgil cwymp UKIP a dyw hi ddim yn edrych bod Plaid Diddymu'r Cynulliad wedi gwneud cystal â'r disgwyl.

    "Ond mae trefniadaeth Plaid Cymru yn ddiffygiol ac yn amaturaidd - roedd hyn cyn i Adam Price ddod yn arweinydd a dyw petha' ddim wedi gwella.

    "Rhaid nodi hefyd bod annibyniaeth yn gallu gelyniaethu rhai cefnogwyr Plaid Cymru - yn denu rhai ond yn sicr yn gelyniaethu eraill."

  12. Llafur yn cadw Torfaenwedi ei gyhoeddi 19:44 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Torfaen
  13. Canlyniad mawr yn y Rhonddawedi ei gyhoeddi 19:43 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Canlyniad mawr yn y Rhondda i'r Blaid Lafur, gan gipio'r sedd oddi ar gyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

    Roedd 'na fwyafrif mawr i Elizabeth Buffy Williams hefyd, bron i 5,500 o bleidleisiau.

    Rhondd
  14. Llafur yn cadw Llanelliwedi ei gyhoeddi 19:40 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Llanelli
  15. Llafur yn cipio Rhonddawedi ei gyhoeddi 19:39 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Rhondda
  16. Cyhoeddiad ac araith Mabon ap Gwynforwedi ei gyhoeddi 19:37 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Un o aelodau newydd y Senedd fydd Mabon ap Gwynfor yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

    Dyma oedd ganddo i'w ddweud ar ôl y canlyniad.

    Disgrifiad,

    Mabon ap Gwynfor yn ennill sedd Dwyfor Meirionnydd

  17. Ymgyrch gas yn 'newyddion' i ymgeisydd Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 19:32 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Plaid Cymru

    Er y siom o beidio ennill, mae ymgeisydd Plaid Cymru yn Aberconwy wedi "mwynhau'n arw", meddai yn dilyn y canlyniad.

    Ond ar ôl i'r ymgeisydd llwyddiannus, Janet Finch-Saunders, ddweud bod yr ymgyrch wedi bod yn "frawychus", dywedodd Mr Wynne bod hynny'n "newyddion" iddo fo, ac mai ymgyrch "gyffrous" sydd wedi bod ganddo a'i dîm.

    Disgrifiad,

    Cyfweliad Aaron Wynne wedi canlyniad Aberconwy

  18. Llafur yn cadw Aberafanwedi ei gyhoeddi 19:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Aberafan
  19. Llafur yn cadw Gorllewin Casnewyddwedi ei gyhoeddi 19:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Llafur Cymru

    Gorllewin Casnewydd
  20. Mwyafrif enfawr yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 19:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dyma'r canlyniad llawn yng Ngheredigion. A welwn ni fwyafrif mwy na'r 12,145 yma heno?

    Ceredigion