Crynodeb

  • Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd hyd yma yn etholiad Senedd 2021

  • Leanne Wood yn colli sedd Plaid Cymru yn y Rhondda

  • Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd

  • Jane Dodds yn ennill sedd ranbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Canlyniad dau ranbarth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn

  1. Pobl ifanc yn cael pleidleisio am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Pleidlais 16Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Am y tro cyntaf yn hanes Cymru roedd gan 70,000 o bobl ifanc 16 ac 17 oed hawl i bleidleisio y tro hwn wedi i oedran pleidleisio gael ei ostwng.

    Fe wnaeth pobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban yn 2014 ac yna yn etholiad Holyrood yn 2016.

    Does dim hawl gan bobl ifanc o dan 18 oed ddewis pwy sy'n cael eu cynrychioli fel Aelod Seneddol yn San Steffan na chwaith ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

    Hefyd roedd 33,000 o wladolion tramor yn cael pleidleisio yn etholiad y Senedd am y tro cyntaf.

  2. Cyfri'n brysurwedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Etholiad 2021

    Safle sioe Sir Benfro yw lleoliad y cyfri ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ac maen nhw eisoes wrth eu gwaith.

    G.Caerfyrddin a De Penfro
  3. Ymateb Ceidwadwyr i Hartlepoolwedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Wrth reswm, roedd ymateb Calum Davies o'r Ceidwadwyr Cymreig yn eitha gwahanol.

    Dywedodd: "Noson dda yn Hartlepool... Roedd mwyafrif mawr felly, roedd hwnna yn dda i weld. Mae'n edrych fel mae gwerthoedd y blaid Lafur ddim yn cysylltu hefo gwerthoedd pobl lleol yn Hartlepool...

    "Gobeithio y bydd hwnna yn cyfieithu i'r etholiad seneddol. Dwi'n meddwl fod Llafur wedi bod yn fwy amddiffynol yn yr etholiad hwn. 'Dyn nhw ddim yn edrych i wneud 'gains' yn llefydd.

    "Mae profile Drakeford yn mynd fyny ac ma' hwnna wedi helpu fo mewn llefydd ond mae e hefyd wedi gwneud pobl yn fwy aware o ddatganoli."

  4. Canlyniad Hartlepool yn arwyddocaol?wedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Yn gynnar fore Gwener daeth y newyddion fod Llafur wedi colli isetholiad seneddol yn Hartlepool - y tro cyntaf iddyn nhw beidio ennill y sedd ers 1964.

    Ar Dros Frecwast, roedd Owain Williams - sy'n ymgeisydd ar restr rhanbarthol Canol De Cymru i Lafur - yn ymateb.

    Dywedodd: "Mae'n ganlyniad gwael iawn. Does dim dianc rhag hwnna. Fydden ni wedi gobeithio cael canlyniad lot mwy....

    "Ond dwi ddim yn gwybod o gwbl beth allwn ni ddarllen mewn i ganlyniad fel hyn. Dwi'n credu ein bod ni wedi cael yr ymgyrch fwyaf Cymreig ar gyfer y Senedd ers 1999. Felly, does dim lle i fod yn hunan-fodlon ond byddwn i yn ofalus iawn o dynnu llinell oddi wrth is-etholiad Hartlepool, oedd yn Saeneg iawn gyda gwahanol arweinwyr."

  5. Ergyd fawr i Lafur yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  6. Ymgyrch wahanol oherwydd y pandemigwedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae ymgyrch etholiad Senedd 2021 wedi bod yn wahanol iawn i'r arfer wrth i gyfyngiadau Covid-19 rwystro nifer o'r defodau gwleidyddol arferol.

    Dros y rhan fwyaf o'r ymgyrch doedd ymgeiswyr ddim yn cael curo drysau i geisio darbwyllo etholwyr.

    Am gyfnod doedd ymgyrchwyr ddim yn cael dosbarthu taflenni yn y ffordd arferol.

    Ddiwedd mis Ebrill bu’r pleidiau yn ymateb i’r newid.

    Elin JonesFfynhonnell y llun, Elin Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhaid oedd gwisgo mwgwd eleni wrth ymgyrchu ond anodd i ymgeiswyr sy'n gwisgo sbectol

  7. Ciwiau i bleidleisiowedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Daeth adroddiadau o sawl ardal nos Iau fod pobl yn gorfod ciwio i bleidleisio oherwydd prysurdeb y gorsafoedd pleidleisio.

    Cyn belled bod person yn y ciw cyn 22:00, roedd ganddyn nhw hawl i fwrw'u pleidlais.

    Tynnwyd y llun yma ger gorsaf bleidleisio ym Mharc Fictoria yng Nghaerdydd.

    ciw
    Disgrifiad o’r llun,

    Pobl yn ciwio i bleidleisio yn ardal Parc Fictoria yng Nghaerdydd neithiwr

  8. Croeso i ddiwrnod cyfrif pleidleisiau etholiad Senedd Cymruwedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Etholiad 2021

    Mae’n ddiwrnod cyfri pleidleisiau etholiad Senedd Cymru.

    Eleni mae’r pleidleisiau yn cael eu cyfrif drannoeth y bleidlais.

    Mae disgwyl i’r canlyniad cyntaf gael ei gyhoeddi ddechrau’r prynhawn.

    Bydd y diweddaraf ac ymateb i’r canlyniadau i’w gweld yma.

    Arhoswch gyda ni.

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images