Plaid Cymru'n cadw Ceredigionwedi ei gyhoeddi 19:25 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021Newydd dorri
Plaid Cymru

Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd hyd yma yn etholiad Senedd 2021
Leanne Wood yn colli sedd Plaid Cymru yn y Rhondda
Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd
Jane Dodds yn ennill sedd ranbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol
Canlyniad dau ranbarth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn
Plaid Cymru
Mae'r canlyniadau wedi bod yn llifo i mewn dros yr awr ddiwetha', ond dim ond rwan mae'r cyfri'n dechrau ym Mro Morgannwg ac ym Mhontypridd.
Mae'r oedi ym Mhontypridd oherwydd yn ogystal â'r seddi Senedd a'r Comisiynydd Heddlu, mae 'na is-etholiadau ar gyfer dwy sedd ar gynghorau lleol hefyd.
Mi all fod yn noson hwyr mewn rhai canolfannau cyfri' heno...
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Quote MessageMae'n ymddangos bod deiliaid seddi yn gwneud yn dda yn yr etholiad hwn - nifer wedi cynyddu eu mwyafrif. Sarah Murphy yn dod yn lle Carwyn Jones yn etholaeth Pen-y-bont wedi iddo fe roi'r gorau iddi yn colli rywfaint o'i fwyafrif e i'r Ceidwadwyr - ond dim sôn am y don las yng Nghymru.
BBC Radio Cymru
Beth fydd yr Arglwydd Dafydd-Elis Thomas yn gwneud nesaf? "Nid hunangofiant!"
Datgelodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas. ei fod wedi pleidleisio dros Mark Drakeford yn etholaeth Gorllewin Caerdydd.
Ychwanegodd ei fod wedi pleidleisio dros Lafur yn y rhanbarth “am resymau cyfeillgarwch teuluol”.
O ran ei ymddeoliad, dywedodd ei fod “yn rhyddhad ac yn bleser, ond eto teimlad fy mod wedi dod i ben y dalar, bod y gwaith wedi ei gwblhau.”
Llafur Cymru
Yn ôl ein gohebydd Aled Huw sydd mewn cyfri' yn Y Barri - mae'n araf iawn gan bod nhw hefyd yn gwirio y pleidleisiau ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu.
"Mae'n edrych yn hynod debygol na fydd canlyniad rhanbarth Canol De Cymru yn cael ei gyhoeddi tan yfory," meddai.
Ceidwadwyr Cymreig
S4C
Sam Kurtz enillodd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro i'r Ceidwadwyr er gwaethaf twf ym mhleidlais Llafur yn yr etholaeth.
Sam Kurtz yn ennill Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Llafur Cymru
Plaid Cymru
Roedd 'na longyfarchiadau gwresog i Rhun ap Iorwerth, sydd wedi cadw Ynys Môn i Blaid Cymru, gan ei dad, Edward yn y cyfri'.
Yn ddiweddarach ar S4C, dywedodd bod y cynnydd i'w fwyafrif ers 2016 yn "gredyd i Blaid Cymru".
Pan ofynnwyd pam nad yw'r blaid yn gallu ail-greu'r canlyniadau dros Gymru, dywedodd bod "newid yn y momentwm ac yn y drafodaeth" ynghylch cenedligrwydd Cymreig, er y golwg siomedig ar rai o'r canlyniadau heddiw.
Rhun ap Iorwerth
Wedi'r cyhoeddiad am Ynys Môn ychydig funudau yn ôl, mae hynny'n golygu bod pob etholaeth yng ngogledd Cymru wedi cyhoeddi eu canlyniadau bellach.
Ond mae digon o wagle ar y map tua'r de!
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Quote MessageO gael canlyniad da mae'n bosib mai ffurfio llywodraeth leiafrifol a wna Llafur ac aros felly am gyfnod o chwe neu naw mis - does dim rhaid clymbleidio, mae modd ffurfio cytundebau ar amrywiol amserau.
BBC Radio Cymru
Gyda'r pleidiau llai yn cael trafferth torri drwodd yn eu targedau, mae Vaughan Roderick yn credu mai tair plaid fydd yn dominyddu'r Senedd nesaf.
"Efallai mai tair plaid fydd yn y Senedd nesaf, gydag un eithriad o sedd i Neil Hamilton"
Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llafur Cymru
BBC Radio Cymru
"Dwi ar ben fy nigon," meddai Siân Gwenllïan ar Radio Cymru ar ôl cynyddu ei mwyafrif yn Arfon, "ond gwaith tîm ydy hi wedi bod yn lledaenu neges Plaid Cymru".
Am weddill Cymru, meddai, "dwi’n teimlo bod newid yn yr aer".
"Efallai na fydd yn trosglwyddo i mewn i fwy o seddi ond mae’r sgwrs am annibyniaeth yma i aros."
Mae ffynhonnell o'r blaid Geidwadol yn dweud eu bod yn disgwyl cipio sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Democratiaid Rhyddfrydol heno.
Kirsty Williams oedd aelod yr ardal, ond nid yw hi'n sefyll eleni.
Dywedodd y ffynhonnell y byddai'n "fuddugoliaeth hawdd", tra bod yr ymgeisydd Tomos Dafydd wedi dweud wrth S4C ei fod yn disgwyl mwyafrif "parchus" yn yr etholaeth.
BBC Radio Cymru
Ar Radio Cymru, dywedodd Glyn Davies, cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod “tipyn bach o siom” na wnaed mwy o gynnydd yn y gogledd-ddwyrain tra bod Alun Michael, cyn Brif Ysgrifennydd Cymru, yn dweud bod colli Dyffryn Clwyd yn “siom fawr” i’r Blaid Lafur.
Dywedodd cyn aelod Cynulliad Plaid Cymru, Nerys Evans ei bod yn siomedig ynghylch y “diffyg torri trwyddo” mewn seddi y tu hwnt i’w cadarnleoedd.
Llafur Cymru
Plaid Cymru