Crynodeb

  • Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd hyd yma yn etholiad Senedd 2021

  • Leanne Wood yn colli sedd Plaid Cymru yn y Rhondda

  • Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd

  • Jane Dodds yn ennill sedd ranbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Canlyniad dau ranbarth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn

  1. Araf hyd yma yn Aberafanwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Noson hwyr ar Ynys Môn?wedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Vaughan Roderick: 'Disgwyl canlyniadau agos mewn sawl sedd'wedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Quote Message

    Yn ôl ffynonellau yn y pleidiau gellir disgwyl canlyniadau agos iawn yn rheng flaen o seddi ymylol Llafur gan gynnwys Wrecsam, Bro Morgannwg a Dyffryn Clwyd. Mae Llafur yn dawel hyderus yn yr ail rheng o seddi megis Delyn, De Clwyd a Phen-y-bont.

  4. Ffarwelio ag o leiaf saith Aelod o'r Seneddwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Ffarwelio 7

    Fydd o leiaf saith Aelod o’r Senedd ddim yn dychwelyd sef:

    Carwyn Jones, Pen-y-bont ar Ogwr (Llafur)

    David Melding, Dwyrain De Cymru (Ceidwadwyr)

    Dafydd Elis-Thomas, Dwyfor Meirionnydd (Annibynnol)

    Angela Burns, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (Ceidwadwyr)

    Bethan Sayed, Gorllewin De Cymru (Plaid Cymru)

    Kirsty Williams, Brycheiniog a Maesyfed (Democratiaid Rhyddfrydol)

    Ann Jones, Dyffryn Clwyd (Llafur)

  5. Ailgyfri yn Nyffryn Clwydwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Roedd Gareth Bryer yn iawn ychydig funudau yn ôl!

    Mae'n swyddogol bellach - fe fydd ailgyfri yn etholaeth Dyffryn Clwyd.

    Llafur enillodd y sedd yn 2016, ond mae'n un o brif dargedau'r Ceidwadwyr.

  6. Ymgyrch 'od' i gyn-ASwedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dyw Bethan Sayed ddim yn sefyll yn yr etholiad eleni, ac mae'n dweud bod yr ymgyrch wedi bod yn "od", a hithau ddim yn rhan o'r ymgyrchu.

    Ond mae hi hefyd yn "edrych at y dyfodol" ac at dreulio mwy o amser gyda'i theulu.

    Disgrifiad,

    Bethan Sayed: "Teimlad od iawn" peidio sefyll fel ymgeisydd

  7. Vaughan Roderick: 'Yr is-ddrama yw tranc y Democratiaid Rhyddfrydol'wedi ei gyhoeddi 14:57 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Quote Message

    Un o straeon Etholiad 2021 fydd tranc y Democratiaid Rhyddfrydol fel unrhyw fath o rym cenedlaethol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Roedd Maldwyn yn gadarnle i'r Blaid Ryddfrydol am ganrif - yna fe gollwyd hi ac roedd hi'n gadarnle eto am 30 mlynedd arall. Yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y gorffennol yw bod nifer fawr o gefnogwyr Llafur yn ardal Y Drenewydd a chefnogwyr Plaid Cymru yn ardal Machynlleth wedi bod yn pleidleisio'n dactegol. Ond nid felly y tro yma a dyma ni'n gweld Plaid Cymru yn dod yn ail am y tro cyntaf ym Maldwyn. Dyw hyn ddim yn argoeli'n dda i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Maesyfed ac er ei bod hi'n ddyddiau cynnar mae'n bosib na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael sedd rhanbarth.

  8. Pethau'n agos yn Nyffryn Clwydwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Gan ein gohebydd Gareth Bryer -

    "Yn Ninbych mae’r pleidiau sy’n cystadlu am sedd Dyffryn Clwyd nawr wedi dweud fod pethau’n dynn rhwng Llafur a’r Toriaid. Mae un ymgeisydd wedi dweud wrthon ni fod hyd yn oed posiblrwydd o ail gyfri."

  9. Y Ceidwadwyr yn ofalus obeithiolwedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Er fod Tomos Dafydd yn dweud nad yw'n disgwyl cael ei ethol i'r Senedd yn bersonol, mae'n dawel hyderus y bydd y blaid Geidwadol yn gwella ar eu canlyniad yn 2016.

    Disgrifiad,

    Ddim yn disgwyl cael ei ethol ond yn teimlo'n hyderus am Frycheiniog a Sir Faesyfed

  10. Blaenau Gwentwedi ei gyhoeddi 14:42 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Gareth Pennant yw'r gohebydd yng Nglyn Ebwy, lle mae etholaeth Blaenau Gwent yn cyfri pleidleisiau.

    Disgrifiad,

    Gareth Pennant - Glyn Ebwy

  11. Rhondda - ras agos?wedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Newyddion S4C

    Rhondda oedd yr unig etholaeth i newid dwylo yn 2016 gyda Leanne Wood yn cipio'r sedd i Blaid Cymru oddi ar Llafur.

    Ond mae Llafur eisoes wedi dweud eu bod yn "hyderus iawn" o adennill y sedd y tro hwn.

    Rhys Williams sydd yno.

    Disgrifiad,

    Rhys Williams - Rhondda

  12. Chwalfa i'r Democratiaid Rhyddfrydol?wedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Yr Athro Laura McAllister sy'n dadansoddi canlyniad Sir Drefaldwyn, ac yn credu ei fod yn arwydd gwael o beth sydd i ddod i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Disgrifiad,

    Canlyniad Trefaldwyn yn arwydd gwael i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

  13. Cyhoeddi y canlyniad cyntaf...wedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Yn annisgwyl efallai, Sir Drefaldwyn oedd yr etholaeth gyntaf i gyhoeddi canlyniad yn Etholiad Senedd 2021.

    Dyma'r foment....

    Disgrifiad,

    Cyhoeddiad cyntaf Etholiad Senedd 2021 - Maldwyn

  14. Canlyniad rhanbarthol i gyrraedd... yfory?wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Gohebydd BBC Cymru ar Twitter

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Wrecsam a De Clwydwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dwy o seddau 'wal goch' Llafur yn cael eu cyfri yn Wrecsam - dwy sedd a gipiwyd gan y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2019.

    Sian Elin Dafydd yw'r gohebydd yno...

    Un ffaith ry'n ni'n gwybod yn barod yw bod mwy o bobl De Clwyd wedi pleidleisio'r tro hwn - yn 2016 fe wnaeth 40.9% o'r rhai oedd yn gymwys fwrw'u pleidlais, ond yn 2021 mae'r ffigwr yna wedi codi i 44%.

    Disgrifiad,

    Sian Elin Dafydd - Wrecsam

  16. Barn gweinidog: Be' fydd yn ganlyniad da i'r Ceidwadwyr?wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dywedodd David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru ac AS Ceidwadol dros Fynwy ers 2005. “os ‘da ni’n gallu sicrhau bod Llafur ddim yn cael mwyafrif mawr, a’i bod yn bosib i’w dal nhw i gyfrif fwy yn y dyfodol, bydd hynny yn ganlyniad da”.

    Ar Radio Cymru hefyd roedd Dafydd Iwan, cyn-lywydd Plaid Cymru, yn awyddus i longyfarch Elwyn Vaughan am ddod yn ail ym Maldwyn – y tro cyntaf i’r blaid ddod yn ail yno. “Mae wedi bod yn etholaeth anodd i ni ers blynyddoedd oherwydd bod pleidleisiau yn cael eu benthyca,” meddai.

    David TC Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    David TC Davies

  17. Gorllewin Caerdydd yn ddiddorolwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dwy etholaeth yn cael eu cyfri yma hefyd - etholaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford - Gorllewin Caerdydd - ac etholaeth y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething - De Caerdydd a Phenarth.

    Dan Davies yw'r gohebydd sy'n ystyried gobeithion y ddau...

    Disgrifiad,

    Dan Davies - Gorllewin Caerdydd

  18. Vaughan Roderick: 'Un o ddau beth yn mynd i ddigwydd'wedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Quote Message

    Mae’n gynnar o hyd ond yn sgil canlyniadau o Loegr mae un o ddau beth yn debyg o ddigwydd yng Nghymru. Naill ai y bydd record Mark Drakeford yn ystod y pandemig yn fodd i insiwleddio Llafur yng Nghymru yn erbyn y llif neu fe fydd yr hinsawdd Brydeinig yn arwain at don Geidwadol yma yng Nghymru.

  19. Llafur yn wynebu 'problem Seisnig'wedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Richard Wyn Jones
    Athro Gwleidyddiaeth Cymru

    Wrth siarad ar raglen Etholiad 2021 ar S4C, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones fod gan y Blaid Lafur "broblem Seisnig".

    "Ma' pobl sydd efo hunaniaeth Seisnig yn tyrru i bleidleisio i'r Ceidwadwyr.

    "Maen nhw'n mynd i 'neud yn dda lle ma' pobl yn teimlo'n fwy Prydeinig; yn y dinasoedd mawr efo pobl ifanc sydd efo addysg, ma' nhw'n mynd i 'neud yn grêt.

    "Ond mae ganddyn nhw broblem Seisnig - a lle ma' hynna'n cysylltu efo Cymru ydy mae 'na rannau o Gymru wedi Seisnigo. Ma' tua 20% o etholwyr Cymru yn teimlo hunaniaeth Seisnig cryf. Ma' Llafur yn gwneud yn drychinebus ymysg y bobl yna.

    "Ac mae nhw wedi'u cronni yn ddaearyddol felly'r broblem neu'r bygythiad i Lafur ydy llefydd fel y gogledd-ddwyrain.

    "Ond yr achubiaeth o bosib ydy, yn gynta', a fyddan nhw'n pleidleisio? Ac hefyd ma' Llafur wedi targedu pleidlais Plaid Cymru yn effeithiol iawn dwi'n meddwl."

  20. Y marc cyntaf ar y mapwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Etholiad 2021

    Mae'r etholaeth gyntaf ar y map - Maldwyn yn aros yn las i'r Ceidwadwyr.

    Dim ond 39 arall i fynd, ac 20 sedd ranbarthol...

    Map