Crynodeb

  • Perfformiad da gan Lafur wrth iddyn nhw ennill 30 sedd hyd yma yn etholiad Senedd 2021

  • Leanne Wood yn colli sedd Plaid Cymru yn y Rhondda

  • Y Ceidwadwyr yn cipio Dyffryn Clwyd oddi ar y Blaid Lafur a Brycheiniog a Sir Faesyfed gan y Dem Rhydd

  • Jane Dodds yn ennill sedd ranbarth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Canlyniad dau ranbarth yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn

  1. Plaid Cymru'n targedu dwy etholaeth mewn un cyfriwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ac hefyd Llanelli yw'r etholaethau sy'n cael eu cyfri yng nghanolfan clwb rygbi Athletic Caerfyrddin.

    David Grundy yw'r gohebydd...

    Disgrifiad,

    David Grundy - Llanelli

  2. Noson hwyr?wedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    BBC Radio Cymru

    Mae'r canlyniad cyntaf yn Etholiad 2021 wedi cyrraedd felly, ond pryd fydd y canlyniad olaf?

    Ddim yn rhy fuan yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis fu'n siarad ar BBC Radio Cymru'n gynharach.

    Disgrifiad,

    Y Sylwebydd Gwleidyddol Theo Davies-Lewis yn rhagweld noson hwyr o bosib

  3. Ceidwadwyr yn cadw Sir Drefaldwynwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021
    Newydd dorri

    Ceidwadwyr Cymreig

    Russell George sy'n cadw'r sedd i'r Ceidwadwyr

    Maldwyn
  4. Gwyn Loader yw'r gohebydd yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Beth yw'r rhagolygon am etholaeth Ceredigion?

    Disgrifiad,

    Gwyn Loader - Ceredigion

  5. 'Chydig wedi pleidleisio ym Merthyrwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Gyda'r ffigyrau newydd eu cyhoeddi, dim ond 35% o'r rhai sy'n gymwys wnaeth fwrw'u pleidlais yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni.

  6. Ynys Môn yn etholaeth ddifyr....wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Plaid Cymru fu'n cynrychioli'r Ynys yn y Senedd ddiwethaf.

    Roedd Llafur yn ail iddyn nhw yn 2016.

    Ond y Ceidwadwyr gipiodd y sedd yn San Steffan yn etholiad cyffredinol 2019.

    Felly pwy sydd am ennill? Nia Thomas yw'r gohebydd yno...

    Disgrifiad,

    Nia Tomos - Ynys Mon

  7. Gwirio yng Nghastell-neddwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Dafydd Pritchard
    Castell-nedd

    Mae etholiadau weithiau yn gallu teimlo fel arddangosfeydd o ganolfannau hamdden Cymru.

    Yn eu plith mae Canolfan Chwaraeon Castell-nedd, lle mae'r broses gwirio dal i fynd yn ei blaen ac mae trefnwyr yn disgwyl canlyniad rhwng 16:00 a 17:00.

    Jeremy Miles (Llafur), y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, sydd wedi cynrychioli etholaeth Castell-nedd ers 2016.

    Canolfan Chwaraeon Castell-nedd
  8. Bocsys yn cyrraedd a'r cyfri'n cychwyn yn Y Barriwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Disgrifiad,

    Mae'r cyfri ar y gweill yn y Barri...

  9. Cyngor i diolch am amynedd trigolionwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Wrth ymateb i'r ciwiau hir a welwyd y tu allan i nifer o orsafoedd pleidleisio yn y ddinas neithiwr, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Fel llawer o ardaloedd eraill ledled y wlad fe welsom giwiau hir yn rhai o'n gorsafoedd pleidleisio.

    "Roedd y rhan fwyaf o bobl yn deall yn iawn ac rydym am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu hamynedd.

    "Mae cynnal etholiad yn ystod pandemig yn her logistaidd eithriadol, ac aethwyd i'r afael â'r materion a gododd drwy ddod â staff ychwanegol i'r gorsafoedd pleidleisio yr effeithiwyd arnynt.

    "Ar y cyfan roedd pobl yn deall bod yn rhaid dilyn rheoliadau cadw pellter cymdeithasol a byddai llawer wedi gweld y cyngor rydyn ni wedi'i roi yn yr wythnosau yn arwain at yr etholiad, ac ar y diwrnod ei hun, yn cynghori pobl i ddisgwyl ciwiau.

    "Roedd unrhyw un a oedd mewn ciw mewn gorsaf bleidleisio cyn 10pm wedi gallu bwrw eu pleidlais ac unwaith eto, hoffem ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd."

    lecwydd
  10. Covid a'r Cardis....wedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Llafur yn hyderus yn Rhonddawedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae Aelod Seneddol Llafur Rhondda, Chris Bryant, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn "hyderus iawn" y bydd Llafur yn adennill y sedd yn y Senedd.

    Dyma oedd yr unig etholaeth i newid dwylo yn 2016 pan gipiodd Leanne Wood y sedd i Blaid Cymru.

  12. Hanner pobl Trefaldwyn wedi bwrw pleidlaiswedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae'r broses ddilysu wedi dod i ben yn etholaeth Sir Drefaldwyn, gyda Chyngor Powys yn dweud mai 50% o'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio yno wnaeth wneud hynny.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Ar Radio Cymru nawr....wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    BBC Radio Cymru

    Mae BBC Radio Cymru newydd ddechrau darlledu am ganlyniadau'r etholiad.

    Elliw Mai a Dafydd Morgan sydd wrth y llyw gyda'r rhaglen 'Wrth I Ni Aros' - clicwch y linc yma neu ar frig y dudalen i wrando

    elliw a daf
  14. Mae pawb angen bwyta!wedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Cyfri gwahanol y tro hwnwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Mae rheolau coronafeirws wedi gwneud y broses o gyfri pleidleisiau yn wahanol iawn yn yr etholiad hwn.

    Dyma'r olygfa yn y cyfri yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn Nolgellau heddiw.

    dolgellau
  16. Llai, fel arfer, yn pleidleisio yn etholiadau'r Seneddwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Yn draddodiadol mae'r niferoedd sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd yn is - ychydig dros 45% a bleidleisiodd yn yr etholiad diwethaf yn 2016.

    Eleni roedd yna ofnau y gallai'r pandemig fod wedi effeithio ar nifer y pleidleiswyr.

    Fe wnaeth 71.1% o'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio yng Nghymru fwrw pleidlais yn y refferendwm ar adael y DU ac yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019 fe wnaeth 66.6% bleidleisio.

    Disgrifiad,

    Y gohebydd gwleidyddol James Williams yn pwyso a mesur faint fyddai'n pleidleisio

  17. Miloedd o bobl ifanc ddim wedi pleidleisiowedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Fe wnaeth oddeutu 1,020,000 miliwn o bobl bleidleisio yn yr etholiad diwethaf yn 2016.

    Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, dolen allanol roedd 2.25 miliwn o oedolion yn gymwys i bleidleisio ar y pryd ac felly nodwyd bod canran y rhai a bleidleisiodd yn 45.2%.

    Roedd cynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor yn ychwanegu 103,000 posib at y gofrestr bleidleisio.

    Mae ffigyrau gan y BBC yn awgrymu bod 53% o bobl ifanc ddim wedi pleidleisio wedi iddynt beidio cofrestru.

    Dywedodd Jess Blair o Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru: "Mae'n siomedig, ond ddim yn syndod efallai, bod cyn lleied o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cofrestru ar gyfer yr etholiad yr wythnos hon."

    blwch pleidleisioFfynhonnell y llun, Getty
  18. Pwy sy’n perthyn i bwy?wedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Etholiad 2021

    A yw gwleidyddiaeth yn y gwaed tybed?

    Mae Natasha Asghar sydd yn ail ar restr y Ceidwadwyr ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru, yn ferch i’r diweddar AS Ceidwadol Mohammad Asghar a fu farw ym Mehefin 2020.

    Mae Rhys ab Owen sydd yn sefyll ar ran Plaid Cymru yn sedd Gorllewin Caerdydd ac ar frig rhestr Plaid Cymru yn rhanbarth Canol De Cymru yn fab i Owen John Thomas a fu’n cynrychioli yr un rhanbarth yn y cynulliad o 1999-2001.

    Mae Calum Davies sy’n sefyll ar ran y Ceidwadwyr yn sedd Canol Caerdydd ac yn drydydd ar restr y Ceidwadwyr yn rhanbarth Canol De Cymru yn fab i Suzy Davies gafodd ei hethol yn 2016 fel yr ymgeisydd ar frig rhestr ranbarthol y Ceidwadwyr Cymreig yng Ngorllewin De Cymru.

    Mae Mabon ap Gwynfor sy’n sefyll ar ran Blaid Cymru yn ŵyr i Gwynfor Evans, AS cyntaf Plaid Cymru yn San Steffan.

    Mae Richard Grigg sy’n sefyll ar ran Plaid Cymru ym Mro Morgannwg yn fab-yng-nghyfraith i Cynog Dafis, cyn AS Ceredigion a bu hefyd yn Aelod Cynulliad tan 2003 gan gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ar ran Plaid Cymru.

    Owen John a RhysFfynhonnell y llun, Llun teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Owen John Thomas, ei wraig Sian, Manon (gwraig Rhys) a Rhys ab Owen

  19. Oedi ar Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Gan bod dau etholiad cyngor sir ac un cyngor cymuned hefyd yn digwydd ar Ynys Môn heddiw, mae ychydig o oedi yn y broses o gyfri pleidleisiau etholiad y Senedd.

    Newydd ddechrau mae'r broses o ddilysu'r pleidleisiau Senedd...

    ynys mon
  20. Etholiad Senedd Cymru eleni yn hytrach na’r Cynulliadwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mai 2021

    Hwn yw chweched etholiad y Senedd ers sefydlu'r sefydliad ym 1999.

    Ym mis Gorffennaf 2016, cafodd y Cynulliad ddadl ynghylch a ddylai newid ei enw.

    Cytunwyd y dylai enw’r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

    Cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017.

    Roedd 61 y cant o'r rhai a ymatebodd yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.

    Cafodd y newid ei gyflwyno ar ôl i ddeddf newydd ddod yn gyfraith fis Ionawr 2020.

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Senedd yw'r enw swyddogol ers Ionawr 2020