Crynodeb

  • Y Ceidwadwyr yn colli rheolaeth Mynwy

  • Plaid Cymru yn cipio mwyafrif yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr

  • Llafur yn cipio rheolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr ond yn colli rheolaeth ar Gastell-nedd Port Talbot

  • Arweinwyr cynghorau Powys, Caerffili a Chaerfyrddin yn colli eu seddi

  • Y Blaid Werdd yn cipio'i seddi cyntaf yn Sir Ddinbych a Chasnewydd

  • Enillion bychan i'r Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Ceidwadwyr yn barod i drafod clymbleidio ym Mhowyswedi ei gyhoeddi 19:31 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dywedodd Aled Davies, arweinydd y grŵp Ceidwadol ym Mhowys, eu bod ychydig yn siomedig ar ôl colli "un neu ddau o gynghorwyr arbennig o dda".

    "Ond 'da ni wedi ennill ambell i sedd hefyd," meddai, gan ei disgrifio fel sefyllfa gymysg i'r blaid, er iddyn nhw golli pedair sedd o'i gymharu â 2017.

    Ychwanegodd ei fod yn barod i drafod clymbleidio gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i reoli'r cyngor dros y blynyddoedd nesaf.

    Disgrifiad,

    Ymateb Aled Davies.

  2. Arweinydd Sir y Fflint yn 'cefnogi'n llwyr' yr ailgyfrifwedi ei gyhoeddi 19:21 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dywedodd Ian Roberts, arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac arweinydd y grŵp Llafur, ei fod yn "cefnogi'n llwyr" y penderfyniad i ohirio'r ailgyfrif ar gyfer dwy ward aml-aelod tan y bore.

    Hyd yma mae Llafur wedi ennill 29 o seddi, un yn fwy na'r holl aelodau annibynnol, ond ni fydd yr un garfan yn gallu hawlio mwyafrif ar y cyngor.

    Roedd drama'r diwrnod yng Nghei Connah, wrth i'r cyn-Lafurwr amlwg Bernie Attridge arwain ymgyrch lwyddiannus gyda sawl ymgeisydd annibynnol arall.

    Ond mae Mr Roberts yn credu bod "gweledigaeth bositif" Llafur wedi argyhoeddi pobl mewn rhannau eraill o'r sir, a dywedodd ei fod yn "hyderus mai ni fydd y grŵp unigol mwyaf ar y cyngor".

    "Yn Sir y Fflint mae wedi bod yn ymgyrch galed, ac roedd her gref iawn gan ymgeiswyr annibynnol," meddai.

    "Byddai'n well gen i heddiw siarad am y pethau positif.

    "Hoffwn siarad am lwyddiant Llafur yn ennill pedair sedd yn Yr Wyddgrug am y tro cyntaf, am adennill sedd yn y Fflint fel bod gennym ni bum aelod Llafur yno, ac am ein henillion mewn llefydd na fyddwn i fyth wedi disgwyl fel Helygain a Brynffordd ac Ewlo Aston."

    Bydd y papurau pleidleisio ar gyfer Bwcle Gorllewin Bistre a De Cei Connah yn cael eu hailgyfrif am 09:00 yfory.

    Ian Roberts
  3. Llafur yn colli rheolaeth o Gyngor Castell-nedd Port Talbotwedi ei gyhoeddi 19:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Mae Llafur wedi colli eu gafael yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot.

    Hyd yma mae ganddyn nhw 25 o'r 60 sedd ar yr awdurdod lleol, gyda'r cyfrif wedi dod i ben am y diwrnod.

    Oherwydd marwolaeth un o'r ymgeiswyr, does dim etholiad ar un ward nes 23 Mehefin, sy'n golygu na fydd canlyniadau llawn yn cael eu cyhoeddi tan hynny.

    Ond hyd yn oed pe bai Llafur yn ennill y ddwy sedd sydd ar gael yn y ward honno ni fyddai ganddyn nhw fwyafrif.

    Fe enillon nhw 37 sedd ar y cyngor yn 2017.

  4. Ceidwadwyr: 'Canlyniadau siomedig ond 100% ffydd yn Boris'wedi ei gyhoeddi 19:10 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Post Prynhawn
    BBC Radio Cymru

    Ar raglen y Post Prynhawn dywedodd David TC Davies - gweinidog yn Swyddfa Cymru ac yn AS Mynwy - fod y canlyniadau yn hynod o siomedig i'r Blaid Geidwadol ond bod ei ffydd yn y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn parhau i fod yn 100%.

    "'Dan ni wedi cael diwrnod siomedig iawn - ma' hyn yn digwydd fel arfer pan chi wedi bod mewn llywodraeth ers sbel," meddai.

    "Ma' pobl yn poeni am gostau byw a dwi'n deall hynny, ac mae Llafur hefyd wedi colli seddau, ond allai'm gwadu bo' ni wedi cael diwrnod siomedig.

    "Mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar y rhesymau y tu ôl i hynny.

    "Yn fy marn i mae angen canolbwyntio ar y ffaith ein bod yn wlad sydd wedi dod allan o Covid cyn gwledydd eraill, wedi anfon equipment milwrol i Wcráin cyn gwledydd eraill - ma' da' fi ffydd 100% yn Boris.

    "Os chi'n edrych ar y sefyllfa mae e wedi'i hwynebu mae e wedi 'neud swydd arbennig o dda."

    David tc
  5. Y wên yn dweud y cyfan yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 19:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Roedd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, wrth ei fodd wrth i ganlyniad Sblot gael ei gyhoeddi.

    Fe gynyddodd ef a'r ddau gynghorydd arall Jane Henshaw ac Edward Stubbs eu mwayfrif.

    Huw ThomasFfynhonnell y llun, Huw Thomas
  6. Pwyll piau hi ym Mro Morgannwg...wedi ei gyhoeddi 19:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dim ond 22 o'r 54 sedd ar Gyngor Bro Morgannwg sydd wedi cael eu cyhoeddi hyd yma.

    Dyma'r sefyllfa ar hyn o bryd:

    • Llafur - 9
    • Ceidwadwyr - 8
    • Annibynnol - 4
    • Plaid Cymru - 1
  7. 'Llafur a'r Gwyrddion i gydweithio ym Mynwy'wedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae gan y blaid Lafur 22 o gynghorwyr yn Sir Fynwy, yn brin o fwyafrif llwyr.

    Ond mae ein gohebwyr yn y cyfri' wedi clywed y bydd y blaid yn cydweithio gyda'r blaid Werdd er mwyn rheoli'r cyngor.

    Nid yw hynny wedi ei gadarnhau'n swyddogol.

    Mae'r Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth o'r cyngor heddiw.

  8. Tad a merch i gynrychioli'r Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 18:48 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae tad a merch - Richard Lewis a Francesca o’Brien - wedi eu hethol ar ran y Ceidwadwyr i gynrychioli Y Gŵyr a'r Mwmbwls.

    Mae Francesca yn un o gynghorwyr newydd y Ceidwadwyr a'i thad yn un o'r rhai hynaf - mae e wedi bod yn gynghorydd ers 49 o flynyddoedd.

    merch a thad
  9. Pedwar awdurdod lleol i fynd...wedi ei gyhoeddi 18:45 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Ond ni fydd canlyniad yn Sir y Fflint heno oherwydd ail gyfrif mewn dwy ward, fydd yn ailddechrau bore 'fory.

    18
  10. Llafur a Phlaid Cymru yn sicrhau enillionwedi ei gyhoeddi 18:37 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    O edrych ar y map o Gymru, yr enillwyr amlwg heddiw hyd yma ydy Llafur a Phlaid Cymru.

    Mae gan Lafur reolaeth o saith cyngor hyd yn hyn, gyda Phlaid Cymru'n rheoli pedwar.

    Mae'r Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth ar yr unig gyngor oedd ganddyn nhw - Sir Fynwy.

    Map
  11. Sir Gaerfyrddin: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 18:28 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Sir Gaerfyrddin

    Plaid Cymru - 38

    Llafur - 23

    Annibynnol/Arall - 14

  12. Ceredigion: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 18:27 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Ceredigion

    Plaid Cymru - 20

    Annibynnol/Arall - 10

    Democratiaid Rhyddfrydol - 7

    Llafur - 1

  13. Plaid Cymru'n ennill rheolaeth o Gyngor Sir Gârwedi ei gyhoeddi 18:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    O drwch blewyn, mae gan Blaid Cymru fwyafrif, o un sedd yn unig.

  14. Ymgyrch 'galed iawn' i annibynwyr Gwyneddwedi ei gyhoeddi 18:22 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dywedodd Angela Russell, arweinydd y grŵp annibynnol ar Gyngor Gwynedd, ei bod wedi bod yn ymgyrch "galed iawn".

    Ond dywedodd ei bod yn "relieved" ei bod wedi cadw ei sedd yn Llanbedrog gyda Mynytho a'i bod yn edrych 'mlaen at wneud ei gorau dros y boblogaeth yno.

    Disgrifiad,

    Ymateb Angela Russell

  15. Mwyafrif i Blaid Cymru yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 18:13 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
    Newydd dorri

    Dyma'r tro cyntaf erioed i'r blaid gael mwyafrif ar y cyngor, medd ymgyrchwyr Plaid Cymru yn y cyfrif.

    Gydag un ward eto i gyhoeddi, dyma'r sefyllfa:

    Plaid Cymru - 20

    Annibynnol/Arall - 9

    Democratiaid Rhyddfrydol - 6

    Llafur - 1

    Gwlad - 1

  16. Abertawe: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 18:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Abertawe

    Llafur - 45

    Democratiaid Rhyddfrydol - 11

    Annibynnol/Arall - 11

    Ceidwadwyr - 7

    Gwyrddion - 1

  17. Sir Fynwy: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 18:06 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mynwy

    Llafur - 22

    Ceidwadwyr - 18

    Annibynnol/Arall - 5

    Gwyrddion - 1

  18. Chwarter y seddi wedi'u cyhoeddi ym Mro Morgannwgwedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae hi'n argoeli i fod yn noson hwyr ym Mro Morgannwg.

    Dim ond 13 sedd o'r 54 sydd ar gael sydd wedi cael eu cyhoeddi hyd yma.

    O'r rheiny, mae chwech wedi mynd i Lafur, pump i'r Ceidwadwyr a dau i ymgeiswyr annibynnol.

  19. Pen-y-bont yn crynhoi'r diwrnod i Lafur a'r Torïaidwedi ei gyhoeddi 17:53 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Llafur wedi cymryd rheolaeth o Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr felly - canlyniad sy'n crynhoi'r diwrnod yng Nghymru.

    Yma, fe wnaethon nhw gipio 10 sedd, tra bo'r Ceidwadwyr wedi colli 12.

  20. Pen-y-bont ar Ogwr: Y canlyniadau'n llawnwedi ei gyhoeddi 17:51 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Pen-y-bont ar Ogwr

    Llafur - 27

    Annibynnol/Arall - 21

    Plaid Cymru - 2

    Ceidwadwyr - 1