Crynodeb

  1. Diolch am ddilyn!wedi ei gyhoeddi 14:05 5 Gorffennaf

    Dyna'r cyfan gan ein criw ar y llif byw arbennig o ganlyniadau'r etholiad cyffredinol yng Nghymru eleni.

    Y canlyniadau'n llawn felly - 27 sedd i Lafur, pedair i Blaid Cymru ac un i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Y tro cyntaf ers dros ugain mlynedd i las y Ceidwadwyr ddiflannu o'r map yng Nghymru - ar noson drychinebus i'r blaid ledled y DU.

    Noson dda iawn i Lafur a Phlaid Cymru, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ôl ar y map, ac fe welodd Reform dwf mawr yng Nghymru hefyd.

    Diolch yn fawr am ddilyn, a hwyl am y tro!

    Map
  2. Canlyniad 'hanesyddol' i Blaid Cymruwedi ei gyhoeddi 14:02 5 Gorffennaf

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth mai nawr mae gwaith y blaid wir yn dechrau.

    "Mae 'na rywbeth addas yndoes am fod fan hyn yn sgwâr Caerfyrddin lle gafodd Gwynfor Evans ei ethol am y tro cyntaf yn 1966 a dyma ni unwaith eto yn dathlu un o fuddugoliaethau enwog Plaid Cymru," meddai.

    "Ond wrth gwrs, nid ond yma yng Nghaerfyrddin ond yn Ynys Môn hefyd a chynyddu mwyafrif yng Ngheredigion a Dwyfor Meirionnydd a'r cynnydd yn y bleidlais gan ein hymgeiswyr gwych ar draws Cymru.

    "Ma' hon di bod yn etholiad lle oeddan ni'n gwybod fod gennym ni neges glir a phositif ac mae'r canlyniad yn un hanesyddol.

    "Mae o'n deimlad da, ond nid mater o gyfri' etholaethau ydi hyn ond ceisio sicrhau'r gynrychiolaeth orau i Gymru, a dwi'n gwybod rŵan, drwy'r pedwar yma y bydd gan Gymru lais ac mi fydda nhw'n effeithiol wrth sicrhau fod y llais yn cael ei glywed."

  3. Angen 'adfer ffydd mewn gwleidyddiaeth'wedi ei gyhoeddi 13:49 5 Gorffennaf

    Daeth Reform o fewn trwch blewyn i gipio sedd Llanelli, ond fe lwyddodd Llafur i gadw gafael ar y sedd gyda mwyafrif o 1,504.

    Fe gafodd Nia Griffith ei hethol unwaith eto, ond mae maint y mwyafrif yn rhywbeth all beri pryder i'r blaid Lafur.

    Ar raglen Dros Ginio, dywedodd fod rhaid i'r Blaid Lafur geisio "adfer ffydd" y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth.

  4. Reform 'am fod yn rym wleidyddol pwerus yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 13:46 5 Gorffennaf

    Oliver Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Enillodd Oliver Lewis 20.6% o'r bleidlais ym Maesyfed a Glyndŵr

    Mae cyfle unigryw gan y blaid Reform i dyfu yng Nghymru, yn ôl eu hymgeisydd a ddaeth yn ail yn sedd Maesyfed a Glyndŵr.

    "Cofiwch fod system cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau’r Senedd," medd Oliver Lewis, "ac felly mae pob pleidlais wirioneddol yn cyfrif."

    "Felly mae cyfle go iawn i ni fod yn rym wleidyddol pwerus iawn yng Nghymru, a 'dw i’n hyderus y gwnawn ni’n dda iawn yn 2026."

    Ychwanegodd bod datganoli'n rhoi mantais bellach i'r blaid.

    "Achos mae etholwyr yn teimlo nad ydy Llafur yn llwyddo yma yng Nghymru, nac y chwaith y Ceidwadwyr wedi llwyddo dros y 14 mlynedd diwethaf yn San Steffan."

    Fe ddaeth Reform yn ail yn 13 o'r 32 etholaeth, gan sicrhau 16.9% o'r holl bleidleisiau yng Nghymru - cyfanswm o 223,018.

  5. Llai wedi pleidleisio yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:36 5 Gorffennaf

    Dim ond 56.2% o’r rheiny oedd yn gymwys wnaeth bleidleisio yng Nghymru, o’i gymharu â 60% ar draws y DU – ond gyda dwy sedd yn weddill.

    Roedd y ffigwr yng Nghymru dros 10% yn is na'r etholiad yn Rhagfyr 2019, ac roedd gostyngiad ym mhob etholaeth.

  6. 'Gwirion' i ddweud mai colli i'r dde y gwnaeth y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 13:23 5 Gorffennaf

    Guto HarriFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Guto Harri yn bennaeth cyfathrebu Rhif 10 pan oedd Boris Johnson yn brif weinidog

    Mae'n "wirion" dweud mai colli i'r asgell dde y gwnaeth y Ceidwadwyr nos Iau, yn ôl cyn-gynorthwyydd i Boris Johnson.

    Wedi'i holi ynglŷn â pha gyfeiriad y dylai'r Blaid Geidwadol droi yn sgil ei cholledion ar BBC 5Live, fe ddywedodd Mr Harri:

    "Mae'n glir i mi i ba le mae'n rhaid iddyn nhw fynd achos, y seddi a gafodd eu colli, yn gyffredinol doedden nhw heb eu colli i'r dde.

    "Wedi'u colli i'r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur oedden nhw. Mae unrhyw un sy'n dweud i'r gwrthwyneb yn gwbl wirion."

    Ychwanegodd y bydd yn rhaid i'r Blaid Lafur wynebu sawl her cyn gynted â bydd ei llywodraeth wedi'i ffurfio.

    "'Dw i'n edrych ymlaen at weld yr esgid ar y droed arall a gofyn [i'r llywodraeth Lafur]: Beth y'ch chi'n mynd i wneud am hyn i gyd?"

  7. 'Araith wirioneddol ddiddorol' - ymateb yr Athro Richard Wyn Jones i araith gyntaf Starmerwedi ei gyhoeddi 13:17 5 Gorffennaf

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

  8. Noson 'galonogol' i'r pleidiau llai yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:09 5 Gorffennaf

    Rhodri Lewis
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Wrth sylwi ar yr ornest fawr rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr, gwell peidio anghofio stori’r pleidiau llai hefyd.

    Mae Plaid Cymru ar ben ei digon, wedi dyblu eu seddi wrth gipio dwy sedd ychwanegol yn y Senedd newydd, sef Caerfyrddin ag Ynys Môn.

    Mae’n amlwg bod y blaid wedi targedu’r rhain, ac mae e wedi talu ffordd.

    Targedu hefyd wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, a hynny er mwyn ennill sedd Aberhonddu, Maesyfed a Chwmtawe.

    A siarad yn blaen, dyma’r unig sedd oedd o fewn eu cyrraedd, ac fe lwyddon nhw, a dod 'nôl ar y map gwleidyddol Cymreig i mewn i’r fargen.

    Sylwch hefyd ar Reform; dim aelodau o Gymru yn y Senedd newydd, ond yn perfformio’n gryf mewn sawl lle, fel Llanelli er enghraifft, lle enillodd y Fonesig Nia Griffith gyda mwyafrif o ond ryw 1,500 o bleidleisiau drostyn nhw.

    Pob plaid felly wedi’u calonogi, ac yn gobeithio adeiladu ar y canlyniadau hyn yn yr etholiad ar gyfer Senedd Cymru yn 2026.

  9. 'Gweithio ar eich cyfer chi'wedi ei gyhoeddi 13:07 5 Gorffennaf

    Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media

    Ychwanegodd Syr Keir Starmer: "Fesul bric, fe fyddwn yn ailadeiladu seilwaith o gyfleoedd.

    "Yr ysgolion o'r safon uchaf, y tai fforddiadwy, dyma'r pethau fydd yn cynnig gobaith i bobl gyffredin.

    "Os fyswn i'n gofyn i chi nawr, a ydych chi'n credu y bydd Prydain yn le gwell i'ch plant, dwi'n gwybod y byddai gormod ohonoch yn dweud na - ac oherwydd hynny fe fyddwn ni'n brwydro bob dydd i adfer eich ffydd.

    "O hyn ymlaen, mae'r llywodraeth yma yn benderfynol o weithio ar eich cyfer chi.

    "Rydych chi wedi rhoi mandad clir i ni, ac ry'n ni am ddefnyddio hynny i sbarduno newid.

    "Hoffwn eich gwahodd chi gyd i ymuno a'r llywodraeth yma o wasanaethu wrth i ni fwrw 'mlaen ag adferiad cenedlaethol."

  10. 'Y wlad sy'n dod gyntaf, a'r blaid yn ail'wedi ei gyhoeddi 13:00 5 Gorffennaf

    Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media

    "Fe fydd fy llywodraeth i yn eich gwasanaethu chi," meddai'r Prif Weinidog newydd.

    "Mae modd i wleidyddiaeth fod yn rhywbeth gwerthfawr, ac fe wnawn ni ddangos hynny.

    "Ry'n ni wedi newid y blaid ac wedi blaenoriaethu'r syniad o wasanaethu. Y wlad sy'n dod gyntaf, a'r blaid yn ail.

    "Am rhy hir, ry'n ni wedi anwybyddu'r ffaith fod miliynau o bobl yn wynebu ansicrwydd - nyrsys, doctoriaid, adeiladwyr, gyrwyr, gofalwyr - i gyd yn gweithio'n galed bob dydd.

    "Ond unwaith mae'r camerâu yn diffodd, maen nhw'n cael eu hanwybyddu.

    "Fy neges i'r bobl yna yw - dim y tro hwn."

  11. 'Rhaid symud ymlaen gyda'n gilydd'wedi ei gyhoeddi 12:51 5 Gorffennaf

    Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media

    Yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog, dywedodd Syr Keir Starmer fod "rhaid i ni symud ymlaen gyda'n gilydd".

    "Yr unig ffordd i adfer ffydd, a thrin y clwyf, yw drwy weithredu," meddai.

    "Dim gyda geiriau y mae gwneud hynny, dwi'n deall hynny, ac mae modd i ni ddechrau ar hynny heddiw.

    "Mae cael gwasanaethu'r cyhoedd yn fraint."

  12. Syr Keir Starmer yw Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedigwedi ei gyhoeddi 12:30 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Cadarnhad swyddogol mai arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer yw Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig.

    Mae disgwyl iddo wneud araith y tu allan i rif 10 Downing Street yn y man.

  13. Syr Keir Starmer yn cwrdd â'r Brenin Charles ym Mhalas Buckinghamwedi ei gyhoeddi 12:20 5 Gorffennaf

    Syr Keir Starmer a'r Brenin CharlesFfynhonnell y llun, Palas Buckingham
  14. Noson 'ofnadwy' i'r SNPwedi ei gyhoeddi 12:14 5 Gorffennaf

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    John SwinneyFfynhonnell y llun, Getty Images

    Yn yr Alban, mae hi wedi bod yn noson anodd i'r SNP, gyda'r blaid yn colli 38 o seddi hyd yma.

    Yn ôl arweinydd yr SNP, John Swinney, dyma ganlyniad gwaethaf y blaid ers 2010.

    Dyma oedd ymateb ein gohebydd Steffan Messenger - sydd yn Glasgow - ar Dros Frecwast y bore 'ma: "Yr hyn sy'n taro rhywun yw bod Llafur wedi cipio seddi o'dd yn cael eu hystyried yn rai oedd yn mynd i fod yn fwy o her, ac yn fwy uchelgeisiol iddyn nhw.

    "Ychydig o gysur i'r SNP yw eu bod nhw wedi llwyddo i gadw gafael ar dde a gogledd Aberdeen.

    "Mae'n ganlyniad ofnadwy i'r SNP gan ystyried eu bod nhw am gadw wyth o'r 48 sedd roedden nhw'n amddiffyn.

    "Fe fydd Democratiaid Rhyddfrydol yn dathlu heddiw hefyd ar ôl cipio ac adennill sedd Mid Dunbartonshire.

    "Mae'r map etholaethol yma yn Yr Alban yn edrych yn wahanol iawn."

  15. 'Dim pwynt rhoi'r bai ar Craig Williams'wedi ei gyhoeddi 12:03 5 Gorffennaf

    Dywedodd y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Glyn Davies, fod yn "rhaid delio â'r noson ddrwg yma fel delio gyda noson dda - mae pethe fel 'ma'n digwydd".

    "Rhaid dweud pob lwc wrth y Blaid Lafur a gobeithio dod 'nôl tro nesa," meddai ar raglen Dros Frecwast.

    "Do'n i ddim yn disgwyl i'n pobl ni 'neud yn dda ond o'dd e'n fwy siomedig na beth o'n i'n disgwyl."

    Roedd yn gyndyn i feirniadu Craig Williams, a gollodd ei sedd ym Maldwyn a Glyndŵr yn sgil y sgandal betio diweddar.

    "Does dim pwynt rhoi bai ar unrhyw beth personol fel 'na," meddai.

    "Mae sawl etholaeth wedi colli sedd Geidwadol. Mae wedi bod yn noson ddrwg."

  16. Archesgob Cymru yn galw am fynd i'r afael â newid hinsawddwedi ei gyhoeddi 11:56 5 Gorffennaf

    Archesgob Cymru y Parchedicaf Andrew JohnFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

    Mae Archesgob Cymru wedi annog y llywodraeth newydd i fynd i'r afael â "her enfawr" newid hinsawdd.

    Fe wnaeth y Parchedicaf Andrew John hefyd ddweud bod angen adeiladu cymdeithas ddiogel a theg.

    “Mae tasg llywodraethu yn gyfrifoldeb aruthrol. Heddiw, rydym yn gweddïo dros ein gweinyddiaeth a'n gwrthblaid newydd," meddai mewn datganiad.

  17. Rishi Sunak wedi ymddiswyddo fel Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 11:40 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Mae Palas Buckingham wedi cadarnhau fod y Brenin wedi derbyn ymddiswyddiad Rishi Sunak.

    Mewn datganiad, dywedodd y palas: "Mae Mr Rishi Sunak AS wedi cyfarfod â'r Brenin y bore 'ma, ac wedi cyflwyno ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog ac Arglwydd y Trysorlys - rhywbeth gafodd ei dderbyn gan ei fawrhydi".

    Yn y man, mae disgwyl i Syr Keir Starmer gael ei wahodd i Balas Buckingham er mwyn ffurfio llywodraeth newydd.

  18. 'Diwrnod anodd, wedi nifer o ddiwrnodau anodd'wedi ei gyhoeddi 11:23 5 Gorffennaf

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Wedi 20 mis yn Downing Sreet mae Rishi Sunak wedi gadael Rhif 10 am y tro olaf - gan ddweud bod hwn yn “ddiwrnod anodd, wedi nifer o ddiwrnodau anodd".

    Wedi’r colledion etholiadol gwaethaf i’r Ceidwadwyr yn hanes y blaid, roedd ganddo air syml o ymddiheuriad i’w aelodau, ond hefyd i bobl Prydain: "Sori".

    Ond roedd yn awyddus i nodi rhai llwyddiannau hefyd, bod cost morgeisi yn dod lawr, chwyddiant lawr i darged banc Lloegr, a’r economi yn tyfu eto.

    Er ei fod yn camu lawr fel Prif Weinidog heddiw, dywedodd na fyddai’n camu lawr fel arweinydd ar unwaith, er mwyn i’r blaid gael cyfle i lunio’r broses o’i olynu.

    Ac yno mae’r perygl nesaf i’r Ceidwadwyr - a’r posibilrwydd go iawn y gallai’r ddadl dros sut i ymateb i chwalfa’r etholiad a bygythiad plaid Reform droi’n glwyfau agored, cas iawn, unwaith eto.

  19. Pryd fydd Sunak yn gadael ei rôl?wedi ei gyhoeddi 11:05 5 Gorffennaf

    Rishi SunakFfynhonnell y llun, Getty Images

    Er iddo gadarnhau y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol, does dim cadarnhad o ran pryd yn union fydd hynny'n digwydd.

    "Byddaf yn ymddiswyddo... ddim yn syth, ond unwaith bydd y prosesau ffurfiol o ran dewis arweinydd newydd yn eu lle," meddai.

    "Mae'n bwysig, wedi 14 mlynedd, fod y Blaid Geidwadol yn ail-adeiladu."

    Ychwanegodd ei fod yn falch o'r hyn y mae o wedi ei gyflawni fel Prif Weinidog, a'i fod yn credu bod y DU yn "fwy llewyrchus, tecach a gwydn nag yn 2010".

  20. 'Eich dyfarniad chi ydy'r unig un sy'n cyfrif'wedi ei gyhoeddi 10:49 5 Gorffennaf

    Rishi SunakFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywedodd Rishi Sunak yn ei araith ei fod yn "cymryd cyfrifoldeb" am golled y Ceidwadwyr.

    "Rwy'n ymddiheuro i'r wlad, rwyf wedi rhoi popeth sydd gennyf i'r swydd ond rydych wedi anfon neges glir fod rhaid i Lywodraeth y DU newid.

    "A'ch dyfarniad chi ydy'r unig un sy'n cyfrif," meddai.

    "Rwyf wedi clywed eich dicter, eich siom ac rwy'n cymryd cyfrifoldeb am y golled.

    "I bob ymgeisydd ac ymgyrchydd Ceidwadol a weithiodd yn ddiflino ond heb lwyddiant, mae'n ddrwg gen i nad oeddem yn gallu cyflawni beth oedd eich ymdrechion yn ei haeddu.

    "Mae'n loes meddwl faint o gydweithwyr a gyfrannodd cymaint i'w cymunedau a'n gwlad fydd nawr ddim yn eistedd yn Nhŷ’r Cyffredin.

    "Mae fy niolch yn fawr iddyn nhw."