Crynodeb

  1. 'Cyfiawnhad enfawr'wedi ei gyhoeddi 23:13 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae llefarydd y blaid Lafur ar Gymru yn San Steffan, Jo Stevens wedi dweud wrth BBC Cymru bod yr arolwg ymadael, os yw'n gywir, yn dangos "buddugoliaeth enfawr a chyfiawnhad enfawr i Keir Starmer".

    "Roedd Keir yn edrych fel ei fod wedi mwynhau'r ymgyrch yn fawr, roedd yn hyderus ac yn hapus, ac fe aethon ni allan gyda maniffesto positif, ac os yw'r arolwg ymadael yn gywir, mae'n edrych fel bod pobl yn ei hoffi".

    Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Andrew RT Davies yn 'ddig'wedi ei gyhoeddi 23:06 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, yn dweud ei fod yn "ddig" am ymgyrch etholiadol y blaid.

    "Does gen i ddim geiriau all ddisgrifio fy rhwystredigaeth ar rai adegau yn yr ymgyrch", meddai wrth raglen ganlyniadau BBC Cymru.

    "Fe welwch fy nicter yng nghyfarfod bwrdd y blaid (Geidwadol) Gymreig yfory", meddai.

    Dywedodd fod y blaid wedi talu pris am yr "helbulon dros y pum mlynedd diwethaf".

    Ychwanegodd, "o fy nealltwriaeth i doedd y blaid ddim yn barod am yr ymgyrch – dyna un fantais sydd gan blaid mewn grym.

    "Y tro cyntaf i mi glywed am yr etholiad oedd wrth yrru ar y bore Mercher hwnnw, darllen ar y cyfryngau cymdeithasol ac yna clywed y prif weinidog yn cyhoeddi am 5 y nos.”

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Ffeithiau am enillion y Blaid Lafur yn y gorffennolwedi ei gyhoeddi 23:03 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae'n 27 mlynedd ers i Lafur ennill etholiad cyffredinol o fod yn wrthblaid.

    Mae 19 mlynedd ers iddyn nhw ennill etholiad cyffredinol o gwbl.

  4. Arweinwyr y pleidiau wedi pleidleisio yn gynnarwedi ei gyhoeddi 22:55 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae gan bawb bleidlais, gan gynnwys arweinwyr y pleidiau - ac roedd yna gamerâu yn eu dilyn fore Iau wrth i'r gorsafoedd bleidleisio agor.

    Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Yng ngogledd Llundain y gwnaeth arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer a'i wraig Victoria bleidleisio

    Rishi SunakFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe fu'r Prif Weinidog Rishi Sunak a'i wraig Akshata Murthy yn pleidleisio yn Sir Gogledd Efrog

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Aeth arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth i bleidleisio ar Ynys Môn fore Iau

    Ed DaveyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Aeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Ed Davey i bleidleisio gyda'i wraig Emily Gasson yn ne Llundain

    Nigel FarageFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r BBC ar ddeall bod Nigel Farage, arweinydd Reform UK, wedi dewis pleidleisio drwy'r post

  5. Noson 'drychinebus' i'r SNP?wedi ei gyhoeddi 22:49 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Dim ond 10 sedd mae’r arolwg ymadael yn awgrymu bydd yr SNP yn eu hennill. Byddai hynny'n "ganlyniad trychinebus" i'r blaid yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones ar raglen S4C.

    “Byddai’n golygu mai yr un blaid yw'r blaid fwyaf yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr am y tro cyntaf ers 2005, o ran Aelodau Seneddol.

    "Os ydy hynny'n wir, fe fyddai’n ganlyniad gwirioneddol wael i'r SNP.”

    SNPFfynhonnell y llun, Getty
  6. 'Y wlad eisiau newid'wedi ei gyhoeddi 22:43 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae Llywydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Rishi Sunak wedi cael trafferth gyda neges Llafur yn galw am “newid” llywodraeth.

    Dywedodd Glyn Davies, cyn Aelod o'r Senedd, fod y wlad eisiau “newid” ac na allai’r prif weinidog symud y ddadl oddi wrth hynny.

    Dywedodd fod yr arolwg ymadael yn rhagweld canlyniad oedd yn “fwy siomedig” nag yr oedd yn ei ddisgwyl.

    “Ni fydd llawer o ffrindiau da i mi, a llawer o Geidwadwyr da, yn ennill ond mae’n rhaid i ni dderbyn bod y wlad wedi penderfynu ei bod am newid llywodraeth”.

    Glyn Davies
  7. Croeso i Dŷ'r Cyffredin!wedi ei gyhoeddi 22:36 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Daniel Davies, Gohebydd Gwleidyddol y BBC, sy'n rhoi cipolwg i ni ar sut, o bosib, y bydd Tŷ'r Cyffredin yn edrych os yw'r arolwg ymadael yn gywir.

    Disgrifiad,

    Fel hyn o bosib y bydd Tŷ'r Cyffredin yn edrych os yw'r arolwg ymadael yn gywir

  8. David TC Davies yn siŵr y bydd yn colli ei seddwedi ei gyhoeddi 22:29 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi dweud wrth BBC Cymru na fydd yn y Senedd ar ddiwedd noson yr etholiad.

    “Ar sail yr arolwg ymadael, does dim siawns y byddwn ni’n ennill, sy’n siomedig.

    "Rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan y gymdeithas leol, ond y ffaith yw, roedd pobl eisiau newid.

    "Dyna'r ffordd y mae'n mynd mewn democratiaeth.

    "Fi fydd y cyntaf i gydnabod y bydd buddugoliaeth enfawr i Lafur ac yn sicr ni fyddaf yn y Senedd ar ddiwedd y noson a byddaf yn rhoi hynny ar gofnod”.

    David TC DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Cadeirydd Ceidwadwyr Cymru: 'Yn amlwg mae 'na ddicter mawr'wedi ei gyhoeddi 22:26 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Tomos Dafydd
    Ceidwadwr

    Wrth siarad ar S4C dywedodd Tomos Dafydd Davies, Cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru:

    “Os 'di’r darogan yn gywir mae’n amlwg am fod yn noson andros o siomedig i’r Blaid Geidwadol, a noson andros o heriol i’r blaid yma yng Nghymru...Dwi’n mawr obeithio y medrwn ni gynnal presenoldeb yma yng Nghymru, dwi ddim yn barod i ddarogan gwae – wedi’r cyfan does 'na yr un bleidlais wedi’i chyfri eto, dim canlyniad wedi’i gyhoeddi.

    "Mae wedi bod yn ymgyrch hynod o heriol i’r Blaid Geidwadol, ac mae’n werth cofio bod y llywodraeth yma wedi bod mewn grym ers 14 mlynedd ac yn ceisio ennill etholiad a ffurfio llywodraeth am y pumed tro o'r bron, rhywbeth a fyddai wedi bod yn gwbl ddigynsail. Ond dwi’n cydnabod bod hi wedi bod yn ymgyrch andros o heriol – yn amlwg mae yna ddicter mawr ac anniddigrwydd, ac mae yna ddyhead am newid.”

  10. Cymhariaeth â 1997wedi ei gyhoeddi 22:21 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Yn ôl yr Athro Syr John Curtice, "mae'n debyg bod Llafur wedi sicrhau eu buddugoliaeth ysgubol ddisgwyliedig, er efallai eu bod nhw ychydig yn brin o'r mwyafrif enillodd Tony Blair yn Etholiad Cyffredinol 1997.

    "Ond fe allai’r blaid hefyd gyflawni hyn ar gyfran lai o’r bleidlais na’r hyn a sicrhaodd y cyn arweinydd Jeremy Corbyn yn 2017".

    Syr John Curtice
  11. 131 o seddi yn 'drychinebus' i'r Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 22:19 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Richard Wyn Jones
    Athro Gwleidyddiaeth Cymru

    Ymateb yr Athro Richard Wyn Jones ar ôl clywed mai 131 o seddi o bosib y caiff y Ceidwadwyr wrth i'r cyfrif fynd yn ei flaen.

    Disgrifiad,

    Ymateb yr Athro Richard Wyn Jones. Fideo: S4C

  12. Darogan mwyafrif ysgubol i Lafurwedi ei gyhoeddi 22:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Ar sail arolwg ymadael a gafodd ei gynnal gan Ipsos, gan gyfweld â dros 20,000 o bobl mewn 133 o orsafoedd pleidleisio ledled Prydain, mae’r BBC, ITN a Sky News yn rhagweld mai canlyniad yr etholiad cyffredinol fydd:

    Mwyafrif ysgubol i'r Blaid Lafur gyda mwyafrif o 170 o seddi.

    Mae'r arolwg yn rhagweld y bydd gan y Ceidwadwyr 131 o seddi, Y Democratiaid Rhyddfrydol 61 o seddi, Plaid Cymru gyda phedair sedd, a'r Gwyrddion gyda dwy.

  13. Cyn hir - canlyniad yr arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisiowedi ei gyhoeddi 21:48 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae’r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio (exit poll) yn amcangyfrif canlyniad yr etholiad cyn i'r holl bleidleisiau gael eu cyfrif.

    Mae’n cael ei ryddhau wrth i'r gorsafoedd gau a’r pleidleisio ddod i ben.

    Cynhelir yr arolwg barn gan y cwmni pleidleisio Ipsos, ar gyfer adrannau newyddion y BBC, ITV a Sky ar y cyd.

    Gofynnir i bleidleiswyr mewn rhai gorsafoedd pleidleisio wrth iddyn nhw adael i lenwi papur pleidleisio ffug i nodi sut y gwnaethon nhw bleidleisio.

    Mae’r canlyniadau’n caniatáu i ddadansoddwyr y BBC ddarogan tua faint o seddi y mae pob plaid wedi’u hennill ledled Prydain.

    Does dim rhagolygon seddi ar gyfer pleidiau Gogledd Iwerddon.

    Big BenFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Sut mae etholiad heddiw yn effeithio arnom ni?wedi ei gyhoeddi 21:39 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Ers i'r Prif Weinidog Rishi Sunak gyhoeddi dyddiad yr etholiad ar 22 Mai mae pob plaid wedi bod yn brysur yn ymgyrchu.

    Ond sut mae'r etholiad yn effeithio arnom ni? Ein gohebydd Dafydd Morgan sy'n esbonio.

    Disgrifiad,

    Beth yw etholiad a sut mae’n effeithio arnom ni?

  15. Croeso i noson canlyniadau etholiad cyffredinol 2024wedi ei gyhoeddi 21:05 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Am 22:00 bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau wedi iddyn nhw agor am 07:00 bore 'ma

    Mae cyfanswm o 235 o ymgeiswyr yn sefyll ar draws 32 o etholaethau Cymru, gyda phob un ac eithrio sedd Ynys Môn yn cael ei hymladd o dan ffiniau newydd.

    Mae gohebwyr BBC Cymru ymhob un o'r canolfannau cyfrif ac fe fydd y newyddion a'r canlyniadau diweddaraf i'w weld yma.

    Arhoswch gyda ni gydol y nos.

    gorsaf