Crynodeb

  1. Gŵyr: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 02:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Gŵyr
    1. Llafur - Tonia Antoniazzi, 20,480
    2. Ceidwadwyr - Marc Jenkins, 8,913
    3. Reform UK - Catrin Thomas, 8,530
    4. Plaid Cymru - Kieran Pritchard, 3,942
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Franck Banza, 2,593
    6. Y Blaid Werdd - Chris Evans, 2,488
    7. Annibynnol - Wayne Erasmus, 283
  2. Torfaen: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 02:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Torfaen
    1. Llafur - Nick Thomas-Symonds, 15,176
    2. Reform UK - Ian Williams, 7,854
    3. Ceidwadwyr - Nathan Edmunds, 5,737
    4. Plaid Cymru - Matthew Jones, 2,571
    5. Y Blaid Werdd - Philip Davies, 1,705
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Brendan Roberts, 1,644
    7. Annibynnol - Lee Dunning, 881
    8. Plaid Treftadaeth - Nikki Brooke, 137
  3. Agosach na'r disgwyl yng Nghanol a De Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 02:39 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Aled Scourfield
    Gohebydd BBC Cymru yn Hwlffordd

    Mae hi’n llawer agosach na’r disgwyl yma yn y cyfrif ar gyfer Canol a De Sir Benfro.

    Mae'n ymddangos bod Reform wedi perfformio yn dda yma.

    Does neb yn dathlu nac yn fodlon ildio eto, ond mae'n edrych yn fwy tebygol y bydd y sedd yn mynd i Lafur.

  4. Cyn-Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi colli ei seddwedi ei gyhoeddi 02:38 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Alun Cairns
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Alun Cairns wedi cynrychioli Bro Morgannwg ers 2010

    Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi colli ei sedd, ar ôl cynrychioli Bro Morgannwg ers 2010.

    Mae Kanishka Narayan o’r Blaid Lafur wedi ennill y sedd, gan ddod yn AS cyntaf erioed Cymru o leiafrif ethnig.

    Enillodd Mr Narayan i Lafur gyda mwyafrif o 4,216.

    Kanishka NarayanFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Enillodd Mr Narayan i Lafur gyda mwyafrif o 4,216

  5. Wrecsam: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 02:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Wrecsam
    1. Llafur - Andrew Ranger, 15,836
    2. Ceidwadwyr - Sarah Atherton, 9,888
    3. Reform UK - Charles Dodman, 6,915
    4. Plaid Cymru - Becca Martin, 4,138
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Tim Sly, 1,777
    6. Y Blaid Werdd - Tim Morgan, 1,339
    7. Plaid Diddymu'r Cynulliad - Paul Ashton, 480
  6. Pontypridd: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 02:31 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Pontypridd
    1. Llafur - Alex Davies-Jones, 16,225
    2. Reform UK - Steve Bayliss, 7,823
    3. Plaid Cymru - Wil Rees, 5,275
    4. Ceidwadwyr - Jack Robson, 3,775
    5. Annibynnol - Wayne Owen, 2,567
    6. Y Blaid Werdd - Angela Karadog, 1,865
    7. Y Democratiaid Rhyddfrydol - David Mathias, 1,606
    8. Annibynnol - Joe Biddulph, 198
    9. Annibynnol - Jonathan Bishop, 44
  7. Gorllewin Abertawe: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 02:26 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Gorllewin Abertawe
    1. Llafur - Torsten Bell, 14,761
    2. Reform UK - Patrick Benham-Crosswell, 6,246
    3. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Michael O'Carroll, 4,367
    4. Plaid Cymru - Gwyn Williams, 4,105
    5. Ceidwadwyr - Tara-Jane Sutcliffe, 3,536
    6. Y Blaid Werdd - Peter Jones, 2,305
    7. Trade Unionist and Socialist Coalition - Gareth Bromhall, 337
  8. Newid ffiniau yn 'broblem' i Blaid Cymruwedi ei gyhoeddi 02:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd y cyn AS Hywel Williams fod y newidiadau sydd wedi bod i ffiniau etholaethau yng Nghymru wedi bod yn "broblem i ni mewn sawl ffordd i ddweud y gwir".

    Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "newid go anodd i ddweud y gwir heb sôn am y ffaith fod cynrychiolaeth Cymru yn mynd lawr o 40 sedd i 32".

    "Mae o'n etholiad eithriadol o anodd i ni fel yr oedd pan oedd 'na don enfawr i'r Blaid Lafur o'r blaen yn '97," meddai.

    Wrth gyfeirio at seddi darged Plaid Cymru, dywedodd: "Fyddan ni'n hapus iawn os 'da ni'n cadw dwy sedd, hapusach fyth os 'da ni'n ennill tair neu bedair, ond maen nhw'n frwydrau anodd iawn iawn i ni."

    Disgrifiad,

    Hywel Williams, cyn-AS yn siarad ag Annell Dyfri

  9. 'Addawol' i Blaid Cymru yng Nghaerfyrddinwedi ei gyhoeddi 02:20 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Ellis Roberts
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Caerfyrddin

    Mae aelod o staff Plaid Cymru yn dweud bod pethau’n edrych yn “addawol” yng Nghaerfyrddin.

    Mae'n cydnabod ei bod hi’n gynnar, ond mae hanner gwên ar ei wyneb wrth iddo ychwanegu: “Dwi 'di bod yn gwneud y spreadsheet!”

  10. Seddi i'w gwylio: Canolbarth a gorllewinwedi ei gyhoeddi 02:18 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae Caerfyrddin yn un o’r brwydrau tair ffordd go iawn, er efallai yn frwydr rhy bell i brif chwip y Ceidwadwyr, Simon Hart.

    Pe bai'n colli, byddai'n un o ergydion mawr y noson i'r Torïaid.

    Mae ffermio a pheilonau - cyfrifoldeb llywodraeth Lafur Cymru - wedi bod yn faterion lleol mawr, y mae Plaid Cymru wedi bod yn ceisio manteisio arnynt. Mae'r ddwy blaid wir eisiau ennill y sedd hon.

    Mae Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn frwydr tair ffordd arall. Mae’n cael ei hamddiffyn gan Weinidog y Ceidwadwyr yn Swyddfa Cymru, Fay Jones gyda Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hyderus o’u siawns.

    A oes gormod o dybiaeth ynghylch natur Llafur-gefnogol Cwm Tawe, wedi'i hychwanegu at yr etholaeth o dan newidiadau ffiniau? Neu a fydd pleidleiswyr yng Nghwm Tawe yn gwneud dewis gwahanol ar ôl blynyddoedd o fyw mewn sedd Lafur ddiogel?

    Cadwch lygad ar Ganol a De Sir Benfro, lle mae cyn-Ysgrifennydd Cymru Ceidwadol arall, Stephen Crabb yn gweithio i ddychwelyd i San Steffan. Mae Llafur wedi dewis ymgeisydd nad yw'n lleol sydd wedi cefnogi Vaughan Gething yn gyhoeddus.

    Mae safle tirlenwi dadleuol Withyhedge, sy'n eiddo i roddwr ariannol dadleuol i'r prif weinidog, yn yr etholaeth - ffaith y mae Mr Crabb wedi'i defnyddio dro ar ôl tro wrth ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Ar bapur, Maldwyn a Glyndŵr yw sedd Gymreig fwyaf diogel y Torïaid, ond pwy a ŵyr ar ôl i’w hymgeisydd Craig Williams gael ei ddal yn y sgandal gamblo. Nid yw Llafur erioed wedi cipio’r sedd hon, hyd yn hyn.

    WithyhedgeFfynhonnell y llun, Colin Barnett
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae safle tirlenwi dadleuol Withyhedge yn etholaeth Canol a De Sir Benfro

  11. Bro Morgannwg: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 02:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Bro Morgannwg
    1. Llafur - Kanishka Narayan, 17,740
    2. Ceidwadwyr - Alun Cairns, 13,524
    3. Reform UK - Toby Rhodes-Matthews, 6,973
    4. Plaid Cymru - Ian Johnson, 3,245
    5. Y Blaid Werdd - Lynden Mack, 1,881
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Steven Rajam, 1,612
    7. Plaid Diddymu'r Cynulliad - Stuart Field, 669
    8. Annibynnol - Steven Sluman, 182
  12. Pen-y-bont: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 02:04 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Pen-y-bont
    1. Llafur - Chris Elmore, 16,516
    2. Reform UK - Caroline Jones, 7,921
    3. Ceidwadwyr - Anita Boateng, 6,764
    4. Plaid Cymru - Iolo Caudy, 3,629
    5. Annibynnol - Mark John, 3,338
    6. Y Blaid Werdd - Debra Cooper, 1,760
    7. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Claire Waller, 1,446
  13. Seddi i'w gwylio: Gogleddwedi ei gyhoeddi 01:53 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Aeth gogledd Cymru o goch i las yn bennaf yn 2019, ond mae 'na dipyn o wyrdd Plaid Cymru ar waith hefyd.

    Mae Ynys Môn yn frwydr dair ffordd wirioneddol rhwng y Ceidwadwr Virginia Crosbie, sydd wedi bod yn ymgyrchu’n galed ar ei record ar Wylfa; arweinydd Plaid Cymru y cyngor lleol Llinos Medi; ac Ieuan Môn Williams sy'n gobeithio cipio sedd a gollwyd gan Lafur bum mlynedd yn ôl. Mae’r sedd yn un o dargedau mawr Plaid Cymru.

    Gallai Dwyrain Clwyd fod yn faes brwydr go iawn gyda phleidlais Dorïaidd a allai fod yn deyrngar a materion yn ymwneud â chasglu biniau ar gyfer cyngor Llafur Sir Ddinbych, tra bod Llafur yn ymladd i adennill Wrecsam ac ennill sedd newydd Bangor Aberconwy.

    Ieuan Môn Williams (Llafur), Virginia Crosbie (Ceidwadwyr), a Llinos Medi (Plaid Cymru)
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Ieuan Môn Williams (Llafur), Virginia Crosbie (Ceidwadwyr), a Llinos Medi (Plaid Cymru) yn brwydro dros Ynys Môn

  14. Seddi i'w gwylio: Dewedi ei gyhoeddi 01:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae Ysgrifennydd Cymru David TC Davies yn un o ychydig o weinidogion cabinet sy'n brwydro i achub eu seddi, yn Sir Fynwy.

    Mae Catherine Fookes o'r Blaid Lafur - a gafodd hwb gan ymweliad gan Syr Keir Starmer yn gynharach yn yr ymgyrch - yn gweithio'n galed i'w chipio.

    Yn y cyfamser fe allai cyn-Ysgrifennydd Cymru fod dan fygythiad ym Mro Morgannwg, lle mae Alun Cairns yn wynebu Kanishka Narayan o'r blaid Lafur.

    Mae polau piniwn wedi awgrymu y gallai Pen-y-bont newid yn ôl i Lafur. Yn y cyfamser, a allai Reform weld eu perfformiad gorau yng Nghymru mewn seddi fel Blaenau Gwent a Rhymni, lle perfformiodd plaid Brexit yn dda yn 2019?

    David TC Davies
  15. Y Ceidwadwyr wedi 'gwneud smonach ryfeddol o'r ymgyrch'wedi ei gyhoeddi 01:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Yn siarad ar S4C dywedodd Dafydd Trystan, cyn-gadeirydd a phrif weithredwr Plaid Cymru, ei fod wedi betio ychydig bach o arian ar ambell etholaeth.

    “Mae gen i arian ar y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill Brycheiniog, a dwi’n eitha’ ffyddiog erbyn hyn yn ôl yr arolwg.

    "Mae gen i arian hefyd ar y Ceidwadwyr i ennill 150-300 o seddi, ac fel ystadegydd gwleidyddol o’n i’n meddwl fod hwnna’n fet eitha’ diogel, ond mae’n ymddangos yn sgil cyflafan etholiadol y Ceidwadwyr, fod hynny heb fod cweit cystal...

    “Mi roedd yna resymeg dwi’n tybio i’r Ceidwadwyr gynnal etholiad cyn yr haf... roedden nhw wedi cymryd penderfyniad oedd falle yn gwneud sens, ond fe wnaed y smonach mwyaf rhyfeddol o’r ymgyrch.”

    dafydd trystan
  16. Ceidwadwyr Cymru 'angen pellhau ein hunain' o'r blaid ar draws y DUwedi ei gyhoeddi 01:37 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Aimee Thomas
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Ceredigion Preseli

    Mae Aled Thomas, ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion Preseli yn dweud bod angen creu pellter rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a’r Ceidwadwyr yn San Steffan.

    Dywedodd wrth raglen etholiad S4C: “Mae’n noson anodd hyd yn hyn i’r Ceidwadwyr.

    "Fi’n credu bod Andrew RT yn 'neud jobyn dda yma yng Nghymru, ond mae'n rhaid i ni ddechrau ailadeiladu’r blaid yma yn barod am etholiad [y Senedd] 2026.

    “Fi’n credu bod angen distancio ein hunain bach o’r blaid yn San Steffan, fel mae’r Alban wedi'i wneud. Mae’n rhaid i ni gael mwy o identity Cymraeg ar y blaid.”

  17. Drakeford: 'Anodd dweud pwy sy'n mynd i ennill Caerfyrddin'wedi ei gyhoeddi 01:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford "ar hyn o bryd ry'n ni y Blaid Lafur yn teimlo'n optimistig ar ôl popeth ni wedi ei weld dros yr wythnosau diwethaf ond mae noson eithaf hir o'n blaen ni eto."

    Er bod ffynonellau yng Nghaerdydd yn dweud nad yw Llafur wedi cipio seddi Caerfyrddin ac Ynys Môn, roedd Mark Drakeford o'r farn ei fod "yn mynd i fod yn anodd i ddweud pwy sy'n mynd i ennill Caerfyrddin".

    "Dwi wedi bod yng Nghaerfyrddin heddiw a ddoe ac mae Plaid Cymru a'r Blaid Lafur i gyd mas" ond aeth ymlaen i ddweud fod yr etholaethau newydd yn golygu y bydd hi'n "anodd gweld ble fydd cryfder Llafur, Plaid Cymru neu'r Ceidwadwyr".

    Disgrifiad,

    Mark Drakeford yn siarad ag Annell Dyfri

  18. Neil Kinnock: 'Llawenhewch, llawenhewch'wedi ei gyhoeddi 01:19 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae cyn-arweinydd Llafur y DU, yr Arglwydd Neil Kinnock wedi dweud wrth y BBC: "Llawenhewch, llawenhewch".

    "Ond mae hyd yn oed y gorfoledd yn cyd-fynd â phryder am yr hyn y bydd ein llywodraeth newydd yn ei wynebu. Ac mae hynny'n sobreiddiol.

    "Rydw i'n mynd i roi noson o ecstasi pur i mi fy hun a does dim byd yn rhwystro hynny. Byddaf yn canu ac yn dawnsio.

    "Ond yna bydd y canu a'r dawnsio yn dod i ben a bydd y llywodraethu yn dechrau".

    yr Arglwydd Neil KinnockFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Profiad 'cyffrous' o bleidleisio am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 01:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae nifer yn pleidleisio am y tro cyntaf yn yr etholiad hwn.

    Yn gynharach bu rhai yn rhannu eu profiadau â Rhodri Llywelyn.

    Disgrifiad,

    Pledleiswyr ifanc yn sôn am y profiad o bleidleisio am y tro cyntaf mewn Etholiad Cyffredinol. Fideo: S4C

  20. Reform yn hyderus o fod yn ail yn seddi'r gogleddwedi ei gyhoeddi 01:08 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Carl Roberts
    Gohebydd BBC Cymru yn Wrecsam

    Mae Llafur yn hyderus y byddan nhw'n cipio sedd Wrecsam oddi ar y Ceidwadwyr, ond nid nhw yw'r unig blaid sy'n hyderus yma heno.

    Mae ymgeisydd Reform, Charles Dodman yn dweud fod "pethau'n edrych yn dda" arnyn nhw i ddod yn ail.

    Mae'r holl flychau pleidleisio wedi cyrraedd a 57.6% sydd wedi pleidleisio yma - tipyn llai na'r 67% yn Wrecsam yn 2019, er, mae'r ffiniau wedi ehangu ers hynny.

    Mae ymgeisydd Reform yn Alun a Glannau Dyfrdwy, Vicky Roskams hefyd yn obeithiol o orffen yn ail y tu ôl i Lafur.