Crynodeb

  1. Diolch Vaughan!wedi ei gyhoeddi 06:47 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Wrth gyfarch y dorf ar ôl colli ei sedd, dymunodd David TC Davies air o ddiolch i rai newyddiadurwyr am ofyn cwestiynau caled iddo dros y blynyddoedd ac am ddal gwelidyddion i gyfrif.

    Ymysg y rhai a gafodd eu henwi yr oedd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, ac er ei syndod, dyma ei ymateb.

    Disgrifiad,

    Ymateb Vaughan Roderick ar ôl cael ei enwi yn araith ddiolch David TC Davies

  2. Plaid Cymru wedi gwneud 'y gorau y bydden nhw wedi gallu disgwyl'wedi ei gyhoeddi 06:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Yn siarad ar Dros Frecwast bu golygydd materion Cymreig y BBC Vaughan Roderick yn trafod llwyddiant Plaid Cymru.

    Dywedodd eu bod wedi gwneud "y gorau y bydden nhw wedi gallu disgwyl" trwy ennill pedair sedd, a gwneud yn well na'r disgwyl mewn sawl sedd arall.

    Dywedodd fod y bleidlais i'r Blaid Werdd hefyd wedi bod yn "barchus".

    Disgrifiad,

    Vaughan Roderick fu'n trafod perfformiad Plaid Cymru a'r Gwyrddion

  3. Ann Davies 'wrth fy modd'wedi ei gyhoeddi 06:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Ar ôl i Ann Davies ennill ei sedd i Blaid Cymru yng Nghaerfyrddin, dywedodd: "Dwi wrth fy modd fod hyn wedi digwydd, ni 'di gweithio mor galed, mae'r ymgyrch wedi bod mor bositif, ac mae cymaint wedi dod mas i'n helpu ni - pobl ar lawr gwlad, pobl Sir Gâr wedi'n helpu ni".

    Aeth ymlaen i ddweud fod yr ymgyrchu wedi bod yn "brofiad positif tu hwnt" a'i bod yn falch "bo' ni wedi cael y canlyniad ry' ni'n haeddu".

    Disgrifiad,

    Ann Davies: 'Wrth fy modd". Fideo: S4C

  4. Llwyddiant Plaid Cymru yn 'hwb i ferched'wedi ei gyhoeddi 06:18 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Heledd Fychan, ei bod yn gobeithio y bydd llwyddiant menywod y blaid yn "hwb i fwy o ferched" roi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr yn y dyfodol.

    Mae 75% o Aelodau Seneddol Plaid Cymru bellach yn fenywod, gyda Liz Saville Roberts, Ann Davies a Llinos Medi wedi cael eu hethol i gynrychioli'r blaid.

    Disgrifiad,

    Heledd Fychan ar Dros Frecwast

  5. Pwy sydd wedi ennill yn fy etholaeth i?wedi ei gyhoeddi 06:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Rhowch eich cod post yn y blwch i ganfod pwy enillodd yn eich etholaeth chi.

    Read More
  6. Beth allwn ni ei ddisgwyl gan Keir Starmer?wedi ei gyhoeddi 06:07 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Fe allai'r blaid Lafur ennill dros 400 o seddi erbyn diwedd y cyfrif. Betsan Powys fu'n dadansoddi'r heriau sy'n wynebu Keir Starmer ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru.

    Disgrifiad,

    Ymgyrch 'ddisgybledig' gan Lafur yn ôl Betsan Powys

  7. Cyfanswm a chyfran y bleidlais yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 06:03 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Dyma gyfanswm, a chyfran y bleidlais yng Nghymru wedi i'r holl seddi gael eu cyhoeddi.

    1. Llafur - 487,636 - 37%
    2. Ceidwadwyr - 240,003 - 18.2%
    3. Reform UK - 223,018 - 16.9%
    4. Plaid Cymru - 194,811 - 14.8%
    5. Democratiaid Rhyddfrydol - 85,911 - 6.5%
    6. Y Blaid Werdd - 61,662 - 4.7%
  8. Niferoedd pleidleisiau Llafur a'r Ceidwadwyr yn gostwng, Plaid ar gynnyddwedi ei gyhoeddi 06:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Sut mae'r gefnogaeth i'r pleidiau yng Nghymru'n cymharu â phum mlynedd yn ôl?

    Mae'r niferoedd o bleidleisiau i Lafur, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gostwng yn y pum mlynedd dwetha' ond roedd pleidleisiau Plaid Cymru ar gynnydd. Roedd Reform UK yn sefyll am y tro cyntaf.

    Llafur (27 Sedd)

    2019 - 632,035

    2024 - 487,636

    Plaid Cymru (4 sedd)

    2019 - 153,265

    2024 - 194,811

    Y Democratiaid Rhyddfrydol (1 sedd)

    2019 - 92,171

    2024 - 85,911

    Y Ceidwadwyr (0 sedd)

    2019 - 557,234

    2024 - 240,003

    Reform UK (0 Sedd)

    2024 - 223,018

    Y Gwyrddion (0 sedd)

    2019 - 15,828

    2024 - 61,662

  9. Diffyg sylw i gostau byw yn yr etholiad yn 'drawiadol'wedi ei gyhoeddi 06:00 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Wrth adlewyrchu ar yr ymgyrch etholiadol, fe ddywedodd Steffan Evans, pennaeth polisi a thlodi Sefydliad Bevan ei bod hi'n "drawiadol... cyn lleied o sôn sydd wedi bod gan y pleidiau am gostau byw a ni'n gwybod bod y pwysau yna ddim am fynd i unman".

    Aeth ymlaen i ddweud fod "lot o sylw yn mynd i fod yn ystod yr wythnosau nesaf i weld a oes 'na addewidion yn mynd i fod ac a oes 'na newid polisïau yn mynd i fod sy'n mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl".

    Disgrifiad,

    Steffan Evans: "Angen sylw i gostau byw"

  10. David TC Davies yn 'siomedig iawn'wedi ei gyhoeddi 05:47 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    "Mae'n bwysig iawn i dderbyn y canlyniad - mae'r cyhoedd eisiau newid," meddai David TC Davies wrth iddo golli ei sedd yn Sir Fynwy.

    Disgrifiad,

    David TC Davies yn ymateb wedi iddo golli ei sedd

  11. Dem Rhydd: 'Falch o ennill sedd yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 05:44 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, wedi dweud ei bod hi'n falch bod ei phlaid wedi ennill sedd a hynny ar ôl i'r blaid gipio sedd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.

    Disgrifiad,

    Jane Dodds: 'Balch bod fy mhlaid wedi ennill sedd' Fideo:S4C

  12. Mae'r map yn gyflawn!wedi ei gyhoeddi 05:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Dyma'r map terfynol o seddi yng Nghymru felly.

    27 sedd i Lafur, pedair sedd i Blaid Cymru ac un i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Y tro cyntaf ers 2001 i las y Ceidwadwyr ddiflannu o'r map yng Nghymru.

    Map
  13. Sir Fynwy: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 05:29 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Sir Fynwy
    1. Llafur - Catherine Fookes, 21,010
    2. Ceidwadwyr - David TC Davies, 17,672
    3. Reform UK - Max Windsor-Peplow, 5,438
    4. Y Blaid Werdd - Ian Chandler, 2,357
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - William Powell, 2,279
    6. Plaid Cymru - Ioan Bellin, 1,273
    7. Annibynnol - Owen Lewis, 457
    8. True & Fair Party - June Davies, 255
    9. Plaid Treftadaeth - Emma Meredith, 103
  14. Starmer: 'Mae'r newid yn dechrau nawr'wedi ei gyhoeddi 05:23 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    ‘Gobaith’ oedd prif neges Keir Starmer wrth iddo annerch ei gefnogwyr.

    “Mae’r newidiadau rydyn ni wedi eu gwneud yn barhaol, a dydyn ni ddim am droi nôl, ac mae’n rhaid i ni ddal i fynd. 'Nathon ni redeg fel Plaid Lafur sydd wedi ei thrawsnewid, ac fe wnawn ni lywodraethu fel Plaid Lafur sydd wedi ei thrawsnewid.”

    starmer
  15. Plaid Cymru'n dathlu canlyniad 'rhagorol'wedi ei gyhoeddi 05:17 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Ar ôl cadw dwy sedd (Dwyfor Meirionnydd a Ceredigion Preseli) a chipio dwy (Caerfyrddin ac Ynys Môn), mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod "wrth fy modd".

    "Dyma ganlyniad gorau’r blaid erioed mewn etholiad cyffredinol – sy’n cynrychioli’r gyfran fwyaf o seddi a enillwyd," meddai

    "Safodd Plaid Cymru ar lwyfan positif ac uchelgeisiol o degwch i Gymru ac rwyf wrth fy modd bod pobl wedi rhoi eu ffydd mewn pedwar ymgeisydd rhagorol i’w cynrychioli yn San Steffan.

    "Bydd Liz, Ben, Llinos ac Ann yn gweithio’n ddiflino i sicrhau na fydd llais Cymru byth yn cael ei anwybyddu gan y llywodraeth Lafur newydd.

    "Mae’r canlyniad hwn yn dangos mai Plaid Cymru yw’r dewis amgen clir i Lafur yng Nghymru ac mae ein ffocws bellach yn symud at gyflwyno gweledigaeth y gall mwy o bobl ei chefnogi yn Etholiad y Senedd yn 2026.”

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Nia Griffith: Her i ailadeiladu hyder yn y system wleidyddolwedi ei gyhoeddi 05:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Yn ogystal â thwf yr economi mae Nia Griffith AS Llanelli yn pwysleisio'r pwysigrwydd a'r sialens o ailadeiladu hyder yn y system wleidyddol.

    Fe gipiodd hi'r sedd o 1,504 pleidlais. Plaid Reform oedd yn ail.

    Disgrifiad,

    Nia Griffith AS Llanelli. Fideo: S4C

  17. Jacob Rees-Mogg wedi colli ei seddwedi ei gyhoeddi 05:14 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae Jacob Rees-Mogg - y cyn-ysgrifennydd busnes a gweinidog Brexit - wedi colli sedd Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf a Hanham i Lafur.

    Jacob Rees-MoggFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe: Dem. Rhydd. yn cipiowedi ei gyhoeddi 05:11 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe
    1. Y Democratiaid Rhyddfrydol - David Chadwick, 13,736
    2. Ceidwadwyr - Fay Jones, 12,264
    3. Llafur - Matthew Dorrance, 9,904
    4. Reform UK - Adam Hill, 6,567
    5. Plaid Cymru - Emily Durrant-Munro, 2,280
    6. Y Blaid Werdd - Amerjit Kaur-Dhaliwal, 1,188
    7. Plaid Diddymu'r Cynulliad - Jonathan Harrington, 372
    8. Monster Raving Loony Party - Lady Lily The Pink, 237
  19. Llafur yn ennill mwyafrifwedi ei gyhoeddi 04:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Mae Llafur wedi croesi'r trothwy o 326 o seddi sydd eu hangen i gael mwyafrif yn Senedd San Steffan.

  20. Dros Frecwast ymlaen am 05:00wedi ei gyhoeddi 04:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Bydd Dros Frecwast ymlaen am 05:00 ar BBC Radio Cymru lle bydd Kate Crockett a Gwenllian Grigg yn ymateb i holl ganlyniadau yr etholiad cyffredinol.

    Disgrifiad,

    Dros Frecwast ar Radio Cymru cyn hir