Rishi Sunak i ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 10:42 5 GorffennafNewydd dorri
Mewn araith y tu allan i rif 10 Downing Street, mae Rishi Sunak wedi cadarnhau y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol.
Y Blaid Lafur wedi ennill yr etholiad gyda mwyafrif ysgubol ar noson drychinebus i'r Ceidwadwyr, sydd wedi colli pob un sedd yng Nghymru
Yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog, dywedodd Syr Keir Starmer fod "rhaid i ni symud ymlaen gyda'n gilydd"
Ffigyrau blaenllaw, gan gynnwys cyn-Ysgrifenyddion Cymru, Alun Cairns, Simon Hart a David TC Davies yn colli eu seddi
Rishi Sunak yn cadarnhau y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol
Craig Williams - a oedd yn rhan o'r sgandal betio - yn colli ei sedd ym Maldwyn a Glyndŵr
Plaid Cymru yn cipio seddi targed yn Ynys Môn a Chaerfyrddin oddi ar y Ceidwadwyr - ac yn cadw dwy arall ar noson lwyddiannus
Reform yn perfformio'n dda a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio sedd
Kanishka Narayan o'r Blaid Lafur yw'r AS Cymreig cyntaf erioed o gefndir ethnig lleiafrifol
Eglurhad o 'gadw' a 'chipio' seddi yn sgil y newid etholaethau
Mewn araith y tu allan i rif 10 Downing Street, mae Rishi Sunak wedi cadarnhau y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol.
Anaml iawn mae newyddiadurwyr a gwleidyddion yn diolch i’w gilydd ond mae wedi digwydd ddwywaith bore ‘ma.
Ar ôl i David TC Davies ddiolch yn ei araith wrth golli ei sedd i rai newyddiadurwyr am ofyn cwestiynau caled iddo dros y blynyddoedd, fe wnaeth un gafodd ei enw "dalu’r swllt yn ôl."
Dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru Vaughan Roderick ar Dros Frecwast: "Mae ‘na rai aelodau Ceidwadol yng Nghymru a etholwyd yn yr Etholiad Cyffredinol diwetha’ dydw i ddim wedi eu holi nhw unwaith yn enwedig rhai’r gogledd - lle mae David byth bythoedd yn fodlon dod fewn a dadlau ei achos.
"S'dim lot o bobl yn siarad Cymraeg yn Sir Fynwy so does dim ‘na lot o votes iddo yn Sir Fynwy mewn ymddangos ar raglenni Cymraeg - felly diolch iddo fe."
Wrth fethu ag ennill unrhyw sedd yng Nghymru, mae'r Ceidwadwyr wedi ailadrodd yr hyn welwyd yn etholiad cyffredinol 1997 pan ddaeth Tony Blair yn Brif Weinidog, ac eto yn 2001.
Ond ym mha ffordd mae'r canlyniad eleni yn wahanol i fuddugoliaeth Llafur yn 1997?
Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan fu'n trafod hynny ar Dros Frecwast.
Mae Golygydd Materion Cymreig y BBC yn dweud ei bod yn “eironig bod plaid o genedlaetholwyr Cymreig yn cystadlu yn aml iawn am yr un pleidleiswyr â phlaid o genedlaetholwyr Prydeinig".
Yn ôl Vaughan Roderick mae’n debyg bod nifer fyddai yn ystyried pleidleisio i Blaid Cymru - yn enwedig yng nghymoedd y de - wedi pleidleisio i Reform.
Dywedodd ar Radio Cymru: “Os y'ch chi'n anhapus â’r Torïaid ac wedi cael llond bol o Lywodraeth Cymru, wel pa blaid y'ch chi’n mynd atyn nhw? Reform neu Blaid Cymru.
“Dyw’r rhan fwya’ o bleidleiswyr Cymru ddim rili yn meddwl am Blaid Cymru fel plaid asgell chwith - maen nhw’n meddwl amdani fel plaid brotest. Mae’r un peth yn wir am Reform.”
Garry Owen
Gohebydd arbennig BBC Cymru yn Llundain
Dyma'r ymateb oedd yna i Rishi Sunak wrth iddo adael pencadlys y Ceidwadwyr yn Llundain fore Gwener.
Fe adawodd ar ôl treulio tua 40 munud yn siarad gydag aelodau staff yno.
Edrych yn ôl ar brif benawdau'r noson yng Nghymru:
Daniel Davies
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Ydy Llafur yn colli ar yr un pryd ag y mae hi’n ennill yr etholiad?
Mae’n fuddugoliaeth ysgubol i’r blaid sy’n rhoi mwyafrif mawr a mandad cryf i’r prif weinidog newydd, Syr Keir Starmer.
Mae e wedi newid ei blaid ers iddi ddioddef colledion trwm yn yr etholiad blaenorol, a'i wobr yw’r allwedd i Downing Street a’r cyfle i newid cyfeiriad Prydain. Ond mae’r darlun gwleidyddol yn gymhleth.
Wrth iddyn nhw ennill cynifer o seddi a gwthio’r Ceidwadwyr allan o Gymru, fe welodd Llafur gwymp yng nghanran ei phleidlais yng Nghymru.
Cafodd Llafur 37% o’r bleidlais yng Nghymru. Mae hynny’n gymharol isel – ac yn sicr yn isel i blaid sydd wedi ennill mwyafrif ysgubol.
Mewn llawer o lefydd 'naeth ymgeiswyr llwyddiannus Llafur Cymru ddenu llai o bleidleisiau eleni na’u ragflaenwyr aflwyddiannus yn 2019.
Ond fe fuon nhw’n lwcus, achos fe ddisgynnodd y bleidlais Geidwadol ymhellach, i 18%. Dyw hi ddim wedi bod mor isel â hynny ers 1918.
Yn gynnar yn y noson fe ddywedodd y cyn-brif weinidog Mark Drakeford y bydd 'na bethau i Lafur eu dysgu o’r canlyniadau yma. Mae hynny’n sicr yn wir wrth i’r etholiadau i Senedd Cymru agosáu.
Oedd, roedd y pleidleiswyr eisiau cael y Ceidwadwyr allan o'r llywodraeth. Mae hynny’n amlwg.
Ond ar ôl i’w dathliadau orffen bydd yn rhaid i Lafur asesu pa negeseuon eraill roedd y pleidleiswyr yn danfon yn yr etholiad hynod ddiddorol hwn.
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru roedd y sylw i arweinydd ei phlaid yn y DU wedi bod o fudd ar y stepen drws.
Wrth ddathlu buddugoliaeth David Chadwick yn Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe dywedodd bod proffil uwch Syr Ed Davey wedi helpu, yn enwedig gan fod ffiniau’r etholaeth wedi ehangu tu hwnt i gadarnle'r blaid.
Yn siarad ar Radio Cymru dywedodd: “Roedden ni’n cnocio’r drysau yn fanna (Cwm Tawe) - i ddweud y gwir roedden nhw wedi clywed yn enwedig am Ed Davey, efo’r stunts roedd o’n gwneud ac felly roedden ni’n cael dipyn bach o’r drws ar agor i siarad wedyn am y negeseuon mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll drostyn nhw.”
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ei bod yn falch o gael aelod o’i phlaid yn San Steffan.
“Fydd y ddau ohonon ni’n cyd-weithio a gweithio’n galed hefyd,” meddai.
Rhodri Lewis
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Petasai system cynrychiolaeth gyfrannol gyda ni, mi fyddai aelodau Ceidwadol wedi bod gyda ni yng Nghymru.
Y cwestiwn yw, i'r pleidiau i gyd, sut fath o argraff ma' nhw'n gallu gwneud tra bod gan Lafur cymaint o fwyafrif?
Ar lawr gwlad, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi twlu popeth sydd gyda nhw i ennill y sedd yng Nghymru.
Dwi wedi siarad gyda Cheidwadwr yn y Senedd a ddywedodd ei hun nad oedd y Ceidwadwyr yn barod am yr etholiad ac wedi dioddef yn sgil hynny.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth ar Dros Frecwast nad yw'n adnabod Syr Keir Starmer, ond ei fod wedi ei holi yn ei gyfnod fel newyddiadurwr rhai blynyddoedd yn ôl!
Ond dywedodd fod "yr arwyddion ddim wedi bod yn dda gan Lafur yn eu hagwedd tuag at Gymru.
"Mi fyddwn ni'n pwyso arnyn nhw i'n cymryd ni o ddifrif," meddai.
Yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Tom Giffard fu'n ymateb ar Dros Frecwast i'r newyddion bod Liz Truss wedi colli ei sedd yn Ne Orllewin Norfolk.
Dywedodd ei bod yn "siom" gweld cyn-brif weinidog yn colli ei sedd, ond bod "dim un person sy'n fwy cyfrifol am beth sydd wedi digwydd heno na Liz Truss".
Ledled Cymru, 56.2% o'r rheiny oedd yn gymwys wnaeth fwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol eleni.
Mae hynny dros 10% yn is na'r etholiad yn Rhagfyr 2019, ac roedd gostyngiad ym mhob etholaeth yng Nghymru.
Yn Sir Fynwy a Gogledd Caerdydd y gwnaeth y gyfran fwyaf o etholwyr cymwys fwrw eu pleidlais, gyda dros dau draean wedi pleidleisio yno.
Roedd y ffigwr isaf - 42.7% - ym Mlaenau Gwent a Rhymni, ac yma hefyd oedd y gostyngiad mwyaf ers 2019.
Yn cael ei holi ar Dros Frecwast dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi dysgu, yn ei etholiad cyntaf fel arweinydd Plaid Cymru, fod "ennill a dod â llwyddiannau mewn etholiad yn anodd".
"Nid ar chwarae bach y gwnaethon ni gael y buddugoliaethau yna neithiwr," meddai.
Mae gohebydd BBC Cymru, Garry Owen, yng nghanol y prysurdeb yn San Steffan wrth i Lafur ennill yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd: "Mae Keir Starmer yn ei araith gyntaf ar ôl i Lafur ennill yr etholiad cyffredinol wedi dweud fod y bennod nesaf yn dechrau nawr".
Bydd yn trafod y cyfan yn fyw ar BBC Radio Cymru.
Ewch draw i Facebook BBC Cymru Fyw, dolen allanol yn fuan lle bydd Dylan Ebenezer yn sgwrsio â Betsan Powys a Rhodri Lewis wrth iddyn nhw ddadansoddi canlyniadau'r etholiad cyffredinol.
Richard Wyn Jones
Sylwebydd gwleidyddol ar Dros Frecwast
"Dwi ddim yn meddwl bod Llafur wedi deall beth oedd yn mynd ymlaen ar lawr gwlad dros y rhan fwyaf o Gymru," meddai Richard Wyn Jones ar Dros Frecwast.
"Ma'r patrwm yng Nghymru yn annodweddiadol achos ar un ystyr ma' Llafur 'di cael chwip o ganlyniad yn ennill gymaint o seddi ond ma' nhw 'di 'neud hynny wrth golli pleidleisiau o gymharu efo 2019 felly ma' nhw lawr tua 4%, sydd yn nhermau hanesyddol Llafur yn isel iawn.
Ychwanegodd fod Plaid Cymru wedi cael yr "etholiad gorau yn eu hanes nhw yn nhermau San Steffan".
"Oedd Llafur yn lwcus iawn mewn lot o seddi.
"Taswn i yn y Blaid Lafur, mi faswn i'n bryderus iawn ar gyfer rhagolygon Mai 2026 [etholiadau Senedd Cymru]," meddai.
O ran y Ceidwadwyr, dywedodd fod "braidd neb o dan hanner cant yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr bellach - mae'n ddifrifol wael iddyn nhw".
Ychwanegodd fod data newydd yn dangos fod "mwy o bobl ifanc yn uniaethu fel Cymry ac nid fel Prydeinwyr".
Gohebydd y BBC, Garry Owen, sy'n dod â'r diweddaraf o San Steffan.
"Fe fydd golwg wahanol iawn i'r adeilad yma y tu ôl i fi ar ôl heddiw, nifer o wynebau cyfarwydd yn diflannu o San Steffan a nifer o wynebau newydd gan gynnwys nifer o Gymru yn dod yma am y tro cyntaf," meddai.
Rydym eisoes yn gwybod y bydd mwy o fenywod yn cael eu hethol i Dŷ'r Cyffredin nag erioed o'r blaen.
Mae tua 242 o fenywod wedi eu hethol eisoes - ac nid yw'r cyfri ar ben eto.
Yr uchaf cyn eleni oedd yn 2019, lle gwelwyd 220 o fenywod yn cael eu hethol.
Ar Dros Frecwast mae'r criw wedi bod yn trafod beth fydd blaenoriaethau Syr Keir Starmer.
Yn ôl Owain Williams o'r Blaid Lafur, yr economi, costau byw a'r gwasanaeth iechyd fydd yn cael y sylw pennaf.
Mae'r cyn-brif weinidog Liz Truss wedi colli ei sedd yn Ne Orllewin Norfolk.
Enillodd Terry Jermy y sedd i Lafur gyda 11,847 o bleidleisiau.
Mae hynny'n cymharu â 11,217 ar gyfer Truss.