Crynodeb

  1. Sedd arall i Blaid Cymruwedi ei gyhoeddi 03:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae Plaid Cymru wedi cipio sedd Caerfyrddin, gydag Ann Davies yn cael ei hethol

    Disgrifiad,

    Plaid Cymru yn cipio Caerfyrddin. Fideo: S4C

  2. Canol a De Sir Benfro: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 03:50 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Canol a De Sir Benfro
    1. Llafur - Henry Tufnell, 16,505
    2. Ceidwadwyr - Stephen Crabb, 14,627
    3. Reform UK - Stuart Marchant, 7,828
    4. Plaid Cymru - Cris Tomos, 2,962
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Alistair Cameron, 2,372
    6. Y Blaid Werdd - James Purchase, 1,654
    7. Annibynnol - Vusi Siphika, 427
    8. Women's Equality Party - Hanna Andersen, 254
  3. Gogledd Clwyd: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 03:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Gogledd Clwyd
    1. Llafur - Gill German, 14,794
    2. Ceidwadwyr - Darren Millar, 13,598
    3. Reform UK - Jamie Orange, 7,000
    4. Plaid Cymru - Paul Rowlinson, 3,159
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - David Wilkins, 1,685
    6. Y Blaid Werdd - Martyn Hogg, 1,391
  4. Castell-nedd a Dwyrain Abertawe: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 03:46 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
    1. Llafur - Carolyn Harris, 16,797
    2. Reform UK - Dai Richards, 10,170
    3. Plaid Cymru - Andrew Jenkins, 5,350
    4. Ceidwadwyr - Samantha Chohan, 3,765
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Helen Clarke, 2,344
    6. Y Blaid Werdd - Jan Dowden, 1,711
  5. Caerfyrddin: Plaid Cymru yn cipiowedi ei gyhoeddi 03:44 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Caerfyrddin
    1. Plaid Cymru - Ann Davies, 15,520
    2. Llafur - Martha O'Neil, 10,985
    3. Ceidwadwyr - Simon Hart, 8,825
    4. Reform UK - Bernard Holton, 6,944
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Nick Beckett, 1,461
    6. Y Blaid Werdd - Will Beasley, 1,371
    7. Women's Equality Party - Nancy Cole, 282
    8. Workers Party of Britain - David Evans, 216
  6. 'Clamp o noson i Rhun ap Iorwerth'wedi ei gyhoeddi 03:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Yn dilyn canlyniad Ynys Môn mae Richard Wyn Jones yn pwysleisio y gallai hon fod yr etholiad cyffredinol gorau erioed i Blaid Cymru.

    Disgrifiad,

    Athro Richard Wyn Jones: 'Noson dda i Blaid Cymru'. Fideo: S4C

  7. Plaid Cymru yn ffyddiog yng Nghaerfyrddinwedi ei gyhoeddi 03:39 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Ellis Roberts
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Caerfyrddin

    Roedd criw Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin yn dathlu a chofleidio ar ôl clywed canlyniad Môn.

    Mae'r Prif Weithredwr, Owen Roberts yn dweud wrtha i: "Mae’n edrych yn dda yn fan hyn."

    Fe allai canlyniad ddod o fewn munudau ac mae o'n amcangyfri' bod y Blaid wedi ennill o 3,000-4,000.

  8. Gorllewin Casnewydd ac Islwyn: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 03:38 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Gorllewin Casnewydd ac Islwyn
    1. Llafur - Ruth Jones, 17,409
    2. Reform UK - Paul Taylor, 8,541
    3. Ceidwadwyr - Nick Jones, 6,710
    4. Plaid Cymru - Brandon Ham, 3,529
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Mike Hamilton, 2,087
    6. Y Blaid Werdd - Kerry Vosper, 2,078
    7. Annibynnol - George Etheridge, 1,597
  9. Aberafan Maesteg: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 03:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Aberafan Maesteg
    1. Llafur - Stephen Kinnock, 17,838
    2. Reform UK - Mark Griffiths, 7,484
    3. Plaid Cymru - Colin Deere, 4,719
    4. Ceidwadwyr - Abigail Mainon, 2,903
    5. Y Blaid Werdd - Nigel Hill, 1,094
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Justin Griffiths, 916
    7. Annibynnol - Captain Beany, 618
    8. Plaid Treftadaeth - Rhiannon Morrissey, 183
  10. Nigel Farage o Reform UK yn ennill Clacton o'r Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 03:31 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi ennill yn Clacton - gyda'r Ceidwadwyr yn ail.

    Dyma ei wythfed ymgais - mae Farage wedi methu dod yn AS ar saith achlysur cyn hyn.

    Cafodd 21,225 o bleidleisiau, mwyafrif o 8,405.

    Fe yw’r ail ymgeisydd Reform i ennill heno, ar ôl i Lee Anderson gipio Ashfield yn gynharach.

    Clacton
  11. 'Bore da Ynys Môn'wedi ei gyhoeddi 03:27 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    "Bore da Ynys Môn"

    Plaid Cymru yn cipio Ynys Môn a Llinos Medi yn cael ei hethol yn Aelod Seneddol yr ynys.

    Yn siarad dan deimlad, dywedodd Llinos Medi, Aelod Senedd newydd Ynys Môn:

    “'Nath rywun ddweud wrtha i ‘Llinos, dwi mor falch bo’ ti isio bod yn MP’…Dwi ddim isio bod yn MP, dwi jest isio cynrychioli Ynys Môn, ble dwi’n garu gymaint.

    “Da ni wedi cynnal ymgyrch urddasol, bositif a pharchus, dio’m bwys be ddaeth i’n ffordd ni.

    “Gai ddweud i unrhyw ferch fach sy’n meddwl bo nhw ddim digon da – ma’ popeth yn bosib os da chi’n coelio yn eich hun a mynd amdani, a does 'na unman gwell na gwlad y medra i ‘'neud hynny.

    “Mae fy ngwreiddiau i’n ddwfn yn yr ynys yma, a dwi’n gaddo i chi 'nai byth anghofio hynna.”

    Disgrifiad,

    Llinos Medi yn emosiynol wedi iddi ennill y sedd. Fideo: S4C

  12. Bangor Aberconwy: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 03:24 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Bangor Aberconwy
    1. Llafur - Claire Hughes, 14,008
    2. Plaid Cymru - Catrin Wager, 9,112
    3. Ceidwadwyr - Robin Millar, 9,036
    4. Reform UK - John Clark, 6,091
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Rachael Roberts, 1,524
    6. Y Blaid Werdd - Petra Haig, 1,361
    7. Socialist Labour Party - Kathrine Jones, 424
    8. Climate Party - Steve Marshall, 104
  13. Syr Keir Starmer wedi ennill ei sedd ond ei fwyafrif yn gostwngwedi ei gyhoeddi 03:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Keir Starmer yn cyrraedd y cyfrif gyda’i wraig, Victoria.
    Disgrifiad o’r llun,

    Keir Starmer yn cyrraedd y cyfrif gyda’i wraig, Victoria

    Mae arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer wedi ennill ei sedd yn Holborn a St Pancras yn Llundain.

    Fe wnaeth ennill gyda 18,884 o bleidleisiau - gyda'r ymgeisydd annibynnol, Andrew Feinstein, yn ail.

    Mae mwyafrif Starmer wedi gostwng yn sylweddol o 22,766 yn 2019, i 11,572 heno.

    Holborn
  14. Ynys Môn: Plaid Cymru yn cipiowedi ei gyhoeddi 03:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Ynys Môn
    1. Plaid Cymru - Llinos Medi, 10,590
    2. Ceidwadwyr - Virginia Crosbie, 9,953
    3. Llafur - Ieuan Williams, 7,619
    4. Reform UK - Emmett Jenner, 3,223
    5. Y Blaid Werdd - Martin Schwaller, 604
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Leena Farhat, 439
    7. Monster Raving Loony Party - Sir Grumpus L Shorticus, 156
    8. Libertarian Party - Sam Wood, 44
  15. Dwyrain Casnewydd: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 03:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Dwyrain Casnewydd
    1. Llafur - Jessica Morden, 16,370
    2. Reform UK - Tommy Short, 7,361
    3. Ceidwadwyr - Rachel Buckler, 6,487
    4. Plaid Cymru - Jonathan Clark, 2,239
    5. Y Blaid Werdd - Lauren James, 2,092
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - John Miller, 2,045
    7. Annibynnol - Pippa Bartolotti, 1,802
    8. Plaid Treftadaeth - Mike Ford, 135
  16. Llafur yn edrych yn fodlon yng nghyfrif Bangor Aberconwywedi ei gyhoeddi 03:09 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Elen Wyn
    Gohebydd BBC Cymru yng nghyfrif Bangor Aberconwy

    Wrth gymharu wynebau’r grŵp Llafur â chefnogwyr y Ceidwadwyr, mae’n ymddangos fod y cochion yn edrych yn fwy bodlon eu byd.

    Mae sïon hefyd yn y cyfri' yn Llandudno fod Reform wedi perfformio’n dda.

    Mae pentyrrau Plaid Cymru yn ymddangos yn foddhaol yn ôl rhai sy’n gwylio’r cyfri', ond mae’n debyg iawn mai Llafur fydd yn cipio’r sedd yma.

  17. Ynys Môn: 'Agos rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 03:06 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Nia Thomas
    Gohebydd BBC Cymru yn y cyfrif ym Môn

    Yn gwbl annisgwyl mae’n ymddangos bod y frwydr ar Ynys Môn yn un eithriadol o agos rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr.

    Mae’r aelod presennol ar ran y Ceidwadwyr Virginia Crosbie yn gwneud yn well na’r disgwyl a Llafur yn drydydd.

    Canlyniad posib am 03:15.

  18. Caerffili: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 03:04 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Caerffili
    1. Llafur - Chris Evans, 14,538
    2. Plaid Cymru - Lindsay Whittle, 8,119
    3. Reform UK - Joshua Kim, 7,754
    4. Ceidwadwyr - Brandon Gorman, 4,385
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Steve Aicheler, 1,788
    6. Y Blaid Werdd - Mark Thomas, 1,650
  19. Rhondda ac Ogwr: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 03:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Rhondda ac Ogwr
    1. Llafur - Chris Bryant 17,118
    2. Reform UK - Darren James, 9,328
    3. Plaid Cymru - Owen Cutler, 5,198
    4. Ceidwadwyr - Adam Robinson, 2,050
    5. Y Blaid Werdd - Christine Glossop, 1,177
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Gerald Francis, 935
  20. 'Starmer yn well Prif Weinidog nag arweinydd yr wrthblaid'wedi ei gyhoeddi 02:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Wrth i Arweinydd Llafur, Keir Starmer, gyrraedd ei ganolfan gyfrif lleol yn Llundain mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn credu y byddai'n Brif Weinidog gwell nag arweinydd yr wrthblaid" os caiff ei ethol.

    Disgrifiad,

    Mae Mark Drakeford yn credu y bydd Keir Starmer yn Brif Weinidog da. Fideo: S4C