Crynodeb

  1. Blaenau Gwent a Rhymni: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:54 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Blaenau Gwent a Rhymni
    1. Llafur - Nick Smith, 16,027
    2. Plaid Cymru - Niamh Salkeld, 3,844
    3. Ceidwadwyr - Hannah Jarvis, 3,776
    4. Annibynnol - Mike Whatley, 2,409
    5. Y Blaid Werdd - Anne Baker, 1,719
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Jackie Charlton, 1,268
    7. Workers Party of Britain - Yas Iqbal, 570
    8. Y Blaid Gomiwnyddol Gymreig - Robert Griffiths, 309
  2. Gogwydd o Lafur tuag at Reform?wedi ei gyhoeddi 04:52 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Wrth i fwy o ganlyniadau gael eu cyhoeddi, mae'n edrych fel noson dda iawn i'r Blaid Lafur.

    Ond mae gogwydd o Lafur tuag at Reform hefyd yn batrwm cyfarwydd mewn sawl etholaeth yng Nghymru. Yn Llanelli 1,504 pleidlais oedd rhwng y ddwy blaid.

    Owain Williams o’r blaid Lafur a’r Athro Richard Wyn Jones fu’n ymateb ar S4C.

    Disgrifiad,

    Owain Williams o'r Blaid Lafur yn trafod effaith Reform. Fideo: S4C

  3. Maldwyn a Glyndŵr: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 04:44 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Maldwyn a Glyndŵr
    1. Llafur - Steve Witherden, 12,709
    2. Reform UK - Oliver Lewis, 8,894
    3. Ceidwadwyr - Craig Williams, 7,775
    4. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Glyn Preston, 6,470
    5. Plaid Cymru - Elwyn Vaughan, 5,667
    6. Y Blaid Werdd - Jeremy Brignell-Thorp, 1,744
  4. De Caerdydd a Phenarth: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:42 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    De Caerdydd a Phenarth
    1. Llafur - Stephen Doughty, 17,428
    2. Y Blaid Werdd - Anthony Slaughter, 5,661
    3. Ceidwadwyr - Ellis Smith, 5,459
    4. Reform UK - Simon Llewellyn, 4,493
    5. Plaid Cymru - Sharifah Rahman, 3,227
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Alex Wilson, 2,908
  5. Rishi Sunak yn cadw ei seddwedi ei gyhoeddi 04:42 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Rishi SunakFfynhonnell y llun, PA Media

    Mae Rishi Sunak - sydd, am y tro, yn dal yn brif weinidog - yn dal ei afael ar ei sedd yn Richmond a Northallerton.

    Mae'n ennill gyda 23,059 o bleidleisiau.

    Cafodd Tom Wilson o’r Blaid Lafur 10,874, a chafodd Reform fwy na 7,000 o bleidleisiau.

    Richmond
  6. Llwyddiant Reform yn 'peri gofid'wedi ei gyhoeddi 04:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Wrth i ganlyniadau Cymru gyrraedd, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, Melanie Owen, ei fod yn edrych "yn drychinebus i'r Torïaid" gan ychwanegu "falle welwn ni wipe out llwyr".

    Aeth ymlaen i ddweud fod llwyddiant y blaid Reform yn "peri gofid" iddi.

    Dywedodd: "Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael sedd yng Nghymru, maen nhw wedi cael gymaint o bleidleisiau felly mae hynny'n rhywbeth dwi'n cadw llygaid arno dros nos."

    Disgrifiad,

    Melanie Owen: Llwyddiant Reform yn "peri gofid"

  7. Dwyfor Meirionnydd: Plaid Cymru yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Dwyfor Meirionnydd
    1. Plaid Cymru - Liz Saville Roberts, 21,788
    2. Llafur - Joanna Stallard, 5,912
    3. Reform UK - Lucy Murphy, 4,857
    4. Ceidwadwyr - Tomos Day, 4,712
    5. Y Blaid Werdd - Karl Drinkwater, 1,448
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Phoebe Jenkins, 1,381
    7. Plaid Treftadaeth - Joan Ginsberg, 297
  8. Gogledd Caerdydd: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:32 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Gogledd Caerdydd
    1. Llafur - Anna McMorrin, 20,849
    2. Ceidwadwyr - Joel Williams, 9,642
    3. Reform UK - Lawrence Gwynn, 5,985
    4. Plaid Cymru - Malcolm Phillips, 4,669
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Irfan Latif, 3,168
    6. Y Blaid Werdd - Meg Shepherd-Foster, 3,160
  9. Merthyr Tudful ac Aberdâr: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:26 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Merthyr Tudful ac Aberdâr
    1. Llafur - Gerald Jones, 15,791
    2. Reform UK - Gareth Thomas, 8,344
    3. Plaid Cymru - Francis Whitefoot, 4,768
    4. Ceidwadwyr - Amanda Jenner, 2,687
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Jade Smith, 1,276
    6. Y Blaid Werdd - David Griffin, 1,231
    7. Workers Party of Britain - Anthony Cole, 531
    8. Annibynnol - Lorenzo de Gregori, 375
    9. Y Blaid Gomiwnyddol Gymreig - Bob Davenport, 212
  10. Dwyrain Clwyd: Llafur yn cipiowedi ei gyhoeddi 04:26 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Dwyrain Clwyd
    1. Llafur - Becky Gittins, 18,484
    2. Ceidwadwyr - James Davies, 13,862
    3. Reform UK - Kirsty Walmsley, 7,626
    4. Plaid Cymru - Paul Penlington, 3,733
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Alec Dauncey, 1,859
    6. Y Blaid Werdd - Lee Lavery, 1,659
    7. Annibynnol - Rob Roberts, 599
  11. Cyn-Ysgrifennydd Cymru Simon Hart wedi colli ei seddwedi ei gyhoeddi 04:23 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae Plaid Cymru wedi ennill Caerfyrddin oddi ar y Ceidwadwyr - sy'n golygu na fydd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, yn dychwelyd i'r Senedd.

    Roedd yn un o seddi targed allweddol Plaid Cymru - enillodd eu hymgeisydd Ann Davies gyda 15,520 o bleidleisiau.

    Daeth Martha O'Neil o'r Blaid Lafur yn ail gyda 10,985 o bleidleisiau gyda'r cyn weinidog cabinet Ceidwadol Simon Hart yn drydydd gyda 8,825 o bleidleisiau.

    Yn ffermio yn ardal Llanarthne ers 1992, mae Ann Davies yn gynghorydd sir ac yn aelod o gabinet y cyngor gyda chyfrifoldeb am faterion gwledig.

    Dywedodd Ann Davies: “Rhoddodd Plaid Cymru ariannu teg wrth galon ein hymgyrch. Mae toriadau’r Ceidwadwyr wedi torri gwasanaethau ac wedi achosi caledi i’n cymunedau.

    "Fel rhan o dîm cryfach Plaid Cymru, byddaf yn dal y llywodraeth newydd Lafur i gyfrif ac yn mynnu buddsoddiad i’n cymunedau".

    Simon HartFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Penny Mordaunt wedi colliwedi ei gyhoeddi 04:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae arweinydd Tŷ’r Cyffredin Penny Mordaunt wedi colli o drwch blewyn yn ei chyn etholaeth Gogledd Portsmouth.

    Mae Amanda Martin o'r Blaid Lafur wedi ennill gyda 14,495 o bleidleisiau, i 13,715 Mordaunt - gogwydd o 18%.

    Penny MordauntFfynhonnell y llun, ITV/EPA
  13. Dwyrain Caerdydd: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:20 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Dwyrain Caerdydd
    1. Llafur - Jo Stevens, 15,833
    2. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Rodney Berman, 6,736
    3. Reform UK - Lee Canning, 4,980
    4. Y Blaid Werdd - Sam Coates, 3,916
    5. Ceidwadwyr - Beatrice Brandon, 3,913
    6. Plaid Cymru - Cadewyn Skelley, 3,550
    7. Trade Unionist and Socialist Coalition - John Williams, 195
  14. Ceredigion Preseli: Plaid Cymru yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:17 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Ceredigion Preseli
    1. Plaid Cymru - Ben Lake, 21,738
    2. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Mark Williams, 6,949
    3. Llafur - Jackie Jones, 5,386
    4. Reform UK - Karl Pollard, 5,374
    5. Ceidwadwyr - Aled Thomas, 4,763
    6. Y Blaid Werdd - Tomos Barlow, 1,864
    7. Workers Party of Britain - Taghrid Al-Mawed, 228
  15. Coch a gwyrdd yn unig ar fap etholiadol Cymruwedi ei gyhoeddi 04:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae map etholiadol Cymru yn prysur lenwi, gyda mwyafrif y canlyniadau wedi cael eu cyhoeddi bellach.

    Dim ond coch Llafur a gwyrdd Plaid Cymru sydd ar y map hyd yma!

    Ond mae bylchau mawr yno o hyd. Fydd y Ceidwadwyr neu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu rhoi eu lliwiau nhw ar y map?

    Map
  16. Rhun ap Iorwerth: 'Teimlad o gyffro ym Mhlaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 04:11 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn dweud fod 'na deimlad o "gyffro" yn y Blaid yn ddiweddar a bod yn rhaid cadw'r momentwm i fynd yn etholiadau Seneddol 2026 wrth "gynnig dewis amgen i bobl Cymru".

    Disgrifiad,

    Rhun ap Iorwerth yn siarad wedi'r cyhoeddiad fod Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin. Fideo:S4C

  17. Gorllewin Caerdydd: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:05 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Gorllewin Caerdydd
    1. Llafur - Alex Barros-Curtis, 16,442
    2. Plaid Cymru - Kiera Marshall, 9,423
    3. Ceidwadwyr - James Hamblin, 6,835
    4. Reform UK - Peter Hopkins, 5,626
    5. Y Blaid Werdd - Jess Ryan, 3,157
    6. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Manda Rigby, 1,921
    7. Propel - Neil McEvoy, 1,041
    8. Annibynnol - John Urquhart, 241
    9. Plaid Treftadaeth - Sean Wesley, 71
  18. Llanelli: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:01 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Llanelli
    1. Llafur - Nia Griffith, 12,751
    2. Reform UK - Gareth Beer, 11,247
    3. Plaid Cymru - Rhodri Davies, 9,511
    4. Ceidwadwyr - Charlie Evans, 4,275
    5. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Chris Passmore, 1,254
    6. Y Blaid Werdd - Karen Laurence, 1,106
    7. UKIP - Stan Robinson, 600
  19. Alun a Glannau Dyfrdwy: Llafur yn cadwwedi ei gyhoeddi 04:00 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Alun a Glannau Dyfrdwy
    1. Llafur - Mark Tami, 18,395
    2. Reform UK - Vicki Roskams, 9,601
    3. Ceidwadwyr - Jeremy Kent, 7,892
    4. Y Democratiaid Rhyddfrydol - Richard Marbrow, 2,065
    5. Plaid Cymru - Jack Morris, 1,938
    6. Y Blaid Werdd - Karl Macnaughton, 1,926
    7. Annibynnol - Edwin Duggan, 1,575
  20. Jeremy Corbyn wedi ennill ei sedd fel ymgeisydd annibynnolwedi ei gyhoeddi 03:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae cyn-arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi ennill ei sedd fel ymgeisydd annibynnol gyda 24,120 o bleidleisiau.

    Mae wedi bod yn AS yn Islington am fwy na 40 mlynedd.

    Cafodd ei rwystro rhag sefyll dros Lafur gan gorff llywodraethu’r blaid ar ôl cael ei wahardd fel AS Llafur yn 2020 am ei ymateb i adroddiad ar wrthsemitiaeth yn y blaid.

    Llwyddodd i drechu Praful Nargund o'r blaid Lafur o tua 8,000 o bleidleisiau.

    Jeremy CorbynFfynhonnell y llun, PA Media