Crynodeb

  1. Y diweddaraf o Orllewin Abertawewedi ei gyhoeddi 01:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Meleri Williams
    Gohebydd BBC Cymru

    51.8% o boblogaeth Gorllewin Abertawe wnaeth bleidleisio.

    Does dim dwywaith mai’r ceffyl blaen yw Llafur. Mae’n sedd ddiogel.

    Ond dyw’r ail safle ddim mor glir, gydag ymgeisydd Reform i weld yn hyderus.

    “Ry’n ni’n gyffyrddus yn yr ail safle,” meddai Patrick Benham-Crosswell.

    Roedd ymgeiswyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol i weld yn cytuno.

    Dyw ymgeisydd y Ceidwadwyr ddim i weld wedi cyrraedd.

  2. Awgrym fod y nifer isaf erioed wedi pleidleisiowedi ei gyhoeddi 01:01 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr, yn dweud fod un arolwg yn awgrymu fod y nifer isaf erioed wedi bwrw pleidlais yn yr Etholiad Cyffredinol hwn i gymharu â rhai yn y gorffennol - dim ond 54% yw'r awgrym.

    Disgrifiad,

    Elliw Gwawr: 'Awgrym fod y nifer isaf erioed wedi pleidleisio'. Fideo: S4C

  3. Pleidlais Reform yn cael effaith ar y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 00:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae’n bosib y bydd sawl cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi colli eu sedd erbyn y bore.

    Felly beth nesaf i'r blaid Geidwadol? Dyma ymateb Aelod Ceidwadol o'r Senedd,Tom Giffard, ar S4C.

    Disgrifiad,

    Tom Giffard yn sôn am effaith pleidlais Reform ar y Ceidwadwyr. Fideo: S4C

  4. Ble mae'r seddi mwyaf ymylol?wedi ei gyhoeddi 00:49 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Ble mae'r ardaloedd lle mae'r mwyafrifoedd lleiaf i'w hamddiffyn y tro hwn, felly?.

    Er bod gan bob sedd yng Nghymru oni bai am Ynys Môn ffiniau etholaethol newydd eleni, bydd y BBC ac eraill yn dal i ddweud bod pleidiau'n "cadw" neu'n "cipio" sedd.

    Mae hyn oherwydd gwaith ymchwil sydd wedi amcangyfrif faint o bleidleisiau fyddai pob plaid wedi'i gael yn 2019, pe bai'r etholaethau newydd wedi cael eu defnyddio bryd hynny.

    Mae hyn yn cael ei alw'n ganlyniadau "tybiannol".

    Mae pennaeth adran wleidyddol BBC Cymru yn egluro mwy am y system yma.

    Mwyafrifoedd
  5. Ynys Môn: 61.5% oedd canran y bleidlaiswedi ei gyhoeddi 00:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Canran y bleidlais yn Ynys Môn oedd 61.5%, o gymharu gyda 70.4% yn 2019.

    Pleidleisiodd 32,710 ym Môn y tro hwn - yr isaf ers Etholiad Hydref 1974

    Ynys Môn
  6. Carwyn Jones: "Fydd pethau ddim yn newid dros nos"wedi ei gyhoeddi 00:40 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    "Does dim cist ble mae lot fawr o arian fydd yn agor dros nos."

    Dyna neges cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, os fydd Keir Starmer yn dod yn Brif Weinidog.

    Mae'n dweud y bydd newid yn cymryd amser a bydd pethau ddim yn digwydd "dros nos".

    Disgrifiad,

    Carwyn Jones yn dweud y bydd newid yn cymryd amser. Fideo: S4C

  7. Reform yn beirniadu 'negyddiaeth' gan y wasgwedi ei gyhoeddi 00:39 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae ymgeisydd Reform ym Maldwyn a Glyndŵr, Oliver Lewis, wedi beirniadu'r wasg am y ffordd maen nhw wedi adrodd ar ymddygiad yr hyn mae'n eu galw'n "ambell ymgeisydd drygionus".

    Dywedodd fod "pobl yn gweld trwy" yr hyn mae'n honni yw negyddiaeth gan y wasg.

    "Rydyn ni'n dod â llais synhwyrol i'r bwrdd," meddai.

    "Mae mwyafrif ein hymgeiswyr yn synhwyrol a thua'r canol yn wleidyddol.

    "Rydyn ni wedi cael ambell ymgeisydd drygionus, ond mae gennym ni 610 o ymgeiswyr."

    Oliver Lewis
  8. Cyn-Ysgrifennydd Cymru Syr Robert Buckland wedi colli ei seddwedi ei gyhoeddi 00:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru Syr Robert Buckland wedi colli ei sedd yn Swindon South, i Heidi Alexander o'r Blaid Lafur.

    Enillodd hi gyda 21,676 o bleidleisiau, daeth Buckland yn ail gyda 12,070.

    Fe yw’r Ceidwadwr cyntaf i golli ei sedd heno, ar ôl dal y sedd ers 2010.

    Cafodd Syr Robert, sy'n hanu o Lanelli, ei benodi gan Boris Johnson ym mis Gorffennaf 2022, gan barhau yn y swydd yn ystod cyfnod byr Liz Truss wrth y llyw.

    Ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Cymru cyn i Rishi Sunak benodi aelodau i'w gabinet ym mis Hydref 2022.

    Syr Robert BucklandFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Syr Robert Buckland yn Ysgrifennydd Cymru am bedwar mis

  9. Cyn-brif weinidog yn cwestiynu ymgyrch yr SNPwedi ei gyhoeddi 00:27 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Dywedodd Nicola Sturgeon, cyn-arweinydd yr SNP a chyn-brif weinidog yr Alban, ar sail yr arolwg ymadael: "Nid yw hon yn noson dda i'r SNP ar y niferoedd hyn."

    Mae’r arolwg yn rhagweld y gallai’r blaid sy’n rheoli yn llywodraeth yr Alban weld ei nifer o ASau yn San Steffan yn disgyn i 10, i lawr o 48 yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

    Dywedodd Ms Sturgeon wrth ITV: "Rwy'n meddwl y bydd cwestiwn a oedd digon yn yr ymgyrch i roi, i bob pwrpas, bwynt gwerthu unigryw i'r SNP mewn etholiad oedd yn ymwneud â chael y Torïaid allan a'u disodli â Llafur."

    Nicola SturgeonFfynhonnell y llun, PA Media
  10. Plaid Cymru i ennill Caerfyrddin ac Ynys Môn - ffynonellau Llafurwedi ei gyhoeddi 00:20 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Alun Thomas
    Gohebydd BBC Cymru yng Nghaerdydd

    Mae ffynonellau Llafur yn y cyfrif yng Nghaerdydd yn hyderus o gadw'r pedair sedd yma.

    Maen nhw'n dweud mai brwydr rhwng y Ceidwadwyr a Reform yw hi am yr ail safle ym mhob sedd, gyda Phlaid Cymru'n bedwerydd.

    Ond mae'r ffynonellau yma yn awgrymu y gallai seddi Caerfyrddin ac Ynys Môn fod gam yn rhy bell i Lafur - maen nhw'n rhagweld mai Plaid Cymru fydd yn ennill y ddwy sedd hynny.

  11. Y pleidiau eraill yn hyderus fod Llafur wedi cipio Bro Morgannwgwedi ei gyhoeddi 00:17 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Huw Thomas
    Gohebydd BBC Cymru ym Mro Morgannwg

    Dwi wedi bod lawr yn siarad gyda'r gwahanol bleidiau yn y cyfrif ym Mro Morgannwg.

    Mae Plaid Cymru'n dweud ei bod hi ar ben ar y Ceidwadwyr - maen nhw'n meddwl mai Llafur sydd wedi ennill yma.

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn credu ei bod hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Lafur yma, ond dyw Llafur yn dweud dim - maen nhw'n ofalus iawn am unrhyw ddarogan.

    Mae'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod nhw'n gobeithio fod enw Alun Cairns wedi denu pleidleisiau er yr hyn maen nhw'n galw'n "ddarlun heriol" ar draws y DU.

  12. Eluned Morgan: 'Gobeithio gawn ni wared ar y Toris i gyd'wedi ei gyhoeddi 00:06 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf

    Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Eluned Morgan Aelod o'r Senedd fod yr "arolwg ymadael yn edrych yn dda iawn, ond ry'n ni'n blaid sydd ddim yn cymryd pethau yn ganiataol".

    "Mae'n edrych fel bod y swing am fynd o'n plaid ni ond mae'n gynnar iawn yn y noson a fi'n credu y byddwn ni'n cadw'n dathlu ni tan fory (dydd Gwener), ond mae'n edrych yn hynod o dda arnom ni."

    Wrth sôn am seddi Cymru, dywedodd "yn amlwg rydym yn gobeithio y byddwn ni'n ennill y seddi nôl yng ngogledd Cymru - y rhai a gollon ni yn yr etholiad diwethaf".

    "Mae 'na seddi sydd o ddiddordeb i ni. Ni'n gobeithio y cawn ni wared ar y Toris i gyd, ond gewn ni weld beth sy'n digwydd."

    Disgrifiad,

    Eluned Morgan AS yn "gobeithio y cawn ni gael gwared ar y Toris i gyd"

  13. Brwydr tair ffordd yn Llanelli?wedi ei gyhoeddi 23:55 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Ellis Roberts
    Gohebydd BBC Cymru yn Llanelli

    Yn y cyfrif yn etholaeth Llanelli, mae un o ymgyrchwyr Llafur wedi dweud “bod hi’n fwy agos nag y mae hi wedi bod o’r blaen”, gyda Phlaid Cymru’n cytuno.

    Gornest rhwng y ddwy blaid hynny a Reform fydd hi yma, ond mae’n gynnar o hyd wrth gyfri'.

  14. Sut fyddwn ni'n diffinio 'cipio' a 'chadw' seddi yn sgil y newid etholaethau?wedi ei gyhoeddi 23:46 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Tomos Livingstone
    Pennaeth Adran Wleidyddol BBC Cymru

    Mae ffiniau etholaethol wedi newid ers 2019, gyda 32 etholaeth yng Nghymru yn hytrach na 40.

    Mae pob etholaeth wedi gweld o leiaf ychydig o newid, ac eithrio Ynys Môn - ac mae rhai newidiadau sylweddol.

    Mae’n rhaid felly seilio ein dadansoddiad o’r newidiadau ar ganlyniadau "tybiannol" etholiad 2019 - hynny yw, y canlyniad pe bai’r etholiad yna wedi’i ymladd gan ddefnyddio’r ffiniau newydd.

    Yn unol â darlledwyr eraill, mae’r BBC yn defnyddio dadansoddiad yr Athro Colin Rallings a’r Athro Michael Thrasher, sy’n arbenigwyr yn y maes.

    Maen nhw wedi dadansoddi data pleidleisio manwl er mwyn cyrraedd ffigyrau "tybiannol" ar gyfer pob etholaeth.

  15. Sut noson fydd hi i Reform?wedi ei gyhoeddi 23:44 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae yna awgrymiadau fod plaid Reform wedi ennill tir ymysg pleidleiswyr iau.

    Dyma oedd dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru wrth gadw llygad ar y canlyniadau cynnar.

    Disgrifiad,

    Vaughan Roderick. Fideo: S4C

  16. 'Tro pedol hollol anhygoel' o'i gymharu â 2019wedi ei gyhoeddi 23:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae ymgeisydd Llafur yn Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami, yn dweud y byddai'n "dro pedol hollol anhygoel" i Lafur o'i gymharu â 2019, os yw'r arolwg diwrnod y bleidlais yn gywir.

    Mae Mr Tami wedi bod yn aelod seneddol dros yr ardal ers 2001, ond yn 2019 roedd y Ceidwadwyr o fewn 213 pleidlais i gipio'i sedd.

    Ond mae'n cydnabod y bydd hi'n cymryd amser i weld wir newid ar lawr gwlad yn dilyn yr etholiad.

    "Dydyn ni ddim mewn lle grêt yn economaidd, mae llawer o broblemau ac rydyn ni wedi bod yn onest am yr hyn ry'n ni'n ei gynnig," meddai.

    "Dydyn ni ddim yn addo'r byd, ac rydym yn gofyn am ychydig o amser i newid pethau - mae'n mynd i fod yn her, ond 'dyn ni'n barod am yr her yna."

    Mark Tami
  17. 'Difrod Liz Truss ar fai?'wedi ei gyhoeddi 23:31 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    "Ar sail yr arolwg ymadael, mae’n ymddangos bod y Ceidwadwyr wedi dioddef yn drwm mewn mannau lle mae gan fwy na thraean o gartrefi forgais – adlewyrchiad efallai o’r difrod a wnaed gan “ddigwyddiad cyllidol” y cyn-brif weinidog Liz Truss.

    "Yn y cyfamser, mae pleidlais Llafur wedi codi mwy mewn seddi lle mae rhan fawr o’r boblogaeth yn dweud eu bod mewn iechyd gwael - mesur o amddifadedd cymharol - ac mewn mannau lle pleidleisiodd mwy o bobl i adael yr UE yn 2016.

    "Mae'r blaid Lafur hefyd i'w gweld yn symud ymlaen yn gryf yn yr Alban ond ddim cystal yng Nghymru, lle maen nhw mewn grym.

    "Mae'r arolwg ymadael yn awgrymu bod pleidlais Llafur i lawr 2% yng Nghymru, y Torïaid i lawr 18%, Plaid Cymru i lawr 3%."

    Liz TrussFfynhonnell y llun, Reuters
  18. Canlyniad cynta'r nosonwedi ei gyhoeddi 23:29 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Mae hi'n dipyn o ras rhwng yr etholaethau gwahanol i fod y cyntaf i ddatgan, ac unwaith eto De Sunderland yw'r cyntaf - dyma'r etholaeth oedd yn gyntaf i ddatgan yn etholiadau 1992, 1997, 2001 a 2005 hefyd.

    Bridget Phillipson o'r Blaid Lafur sy'n ennill gyda 18,847 o bleidleisiau, gyda Sam Woods-Brass o Blaid Reform yn ail gyda 11,668 o bleidleisiau.

    llafur
  19. Canlyniad 'arswydus' i'r Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 23:22 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    "Os yw'r darogan yn gywir, mae'n ganlyniad arswydus i'r Ceidwadwyr"

    Dyna ymateb Cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Tomos Dafydd Davies i'r hyn allai ddigwydd os yw'r rhagolygon barn yn gywir.

    Disgrifiad,

    Tomos Dafydd yn ymateb i'r arolwg. Fideo: S4C

  20. Cornel Cymru Fywwedi ei gyhoeddi 23:19 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf

    Byddwn ni yma drwy'r nos, yn croesawu gwesteion arbennig ac yn dod â holl ganlyniadau etholiad cyffredinol 2024 i chi.

    Disgrifiad,

    Croeso i Gornel Cymru Fyw