Cyngor yn ystyried gwahardd hysbysebion bwyd sothach

- Cyhoeddwyd
Fe allai un o gynghorau de Cymru fod y cyntaf yn y wlad i wahardd hysbysebion am fwydydd sydd ddim iach mewn rhai llefydd cyhoeddus.
Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg y bydd yn penderfynu ar y cynnig fis nesaf, a fyddai'n atal hysbysebu bwydydd uchel mewn braster, siwgr a halen mewn gorsafoedd bysiau neu ar fyrddau hysbysebu.
Petai aelodau'r cabinet yn cymeradwyo'r gwaharddiad, fe fyddai'r math yma o gynnyrch hefyd yn cael eu gwahardd rhag cael eu marchnata ar wefan y cyngor.
Yn ôl arweinydd y cyngor, Lis Burnett, bwriad cynllun pum mlynedd newydd - Y Fro 2030 - ydy "creu cymunedau cryf a dyfodol llewyrchus".

Un o'r cynlluniau ydy cael gwared ar gynigion bwyd sy'n cynnwys bwydydd uchel mewn braster, siwgr a halen
O fis Mawrth 2026, fe fydd rheolau sydd wedi eu gosod gan y Senedd yn cyfyngu sut mae siopau a gwefannau'n arddangos bwydydd sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen.
Mae'n golygu na fydd bwydydd fel pitsa, siocled a grawnfwyd yn cael bod wrth fynedfeydd siopau nac ar ben rhes o gynnyrch, ac mae hefyd yn cynnwys diwedd ar rai bargeinion bwyd fel cynigion prynu un a chael un am ddim.
Y bwriad ydy annog siopwyr i beidio prynu er mwyn prynu, mewn mannau allweddol o fewn siopau sydd â dros 50 o weithwyr.
Fe allai siopau wynebu dirwy o dorri'r rheolau.
Taclo gordewdra
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles y byddai hefyd yn helpu i daclo "problem gordewdra Cymru".
Cymryd camau i wella iechyd a lles trigolion Bro Morgannwg ydy'r bwriad yn ôl y Cynghorydd Burnett, a'u hannog i fyw bywyd mwy iach.
Dywedodd bod tystiolaeth yn dangos bod hysbysebu bwyd a diod sydd ddim yn iach - yn enwedig ymhlith plant a rhai mewn ardaloedd difreintiedig - yn arwain at gyfraddau uwch o ordewdra ac afiechydon sy'n gysylltiedig â hynny.
Fe wnaeth Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ganmol cynnig y cyngor gan ddweud ei fod wedi galw ar y sector cyhoeddus i wneud "popeth posib i wella'r system fwyd".
Ychwanegodd Claire Beynon, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ei bod "yn hynod falch" o glywed am y cynlluniau a "fydd yn helpu i gefnogi a chynnig cyfleoedd ar gyfer bwyd da" ac annog plant i wneud dewisiadau iachach.