Cyhoeddi enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2024
- Cyhoeddwyd
Jac a’r Angel gan Daf James ac Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter yw enillwyr gwobrau Tir na n-Og eleni.
Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu'n flynyddol gan Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru ac fe gafodd enwau'r enillwyr eu cyhoeddi ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.
Mae'r ddwy nofel fuddugol yn "dathlu pŵer y dychymyg i'n helpu i ymdopi ag amseroedd a phrofiadau anodd" yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru.
Y beirniaid oedd Sara Yassine, Siôn Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins o dan gadeiryddiaeth Sioned Dafydd.
Nofel am oresgyn galar
Mae Jac a'r Angel, enillydd y categori cynradd, gan Daf James yn nofel am fachgen diniwed sy'n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.
Dywedodd yr awdur buddugol, Daf James mai "dod yn dad 'nath fy ysgogi i fwrw ati - ro'n i eisiau sgwennu stori i'm plant".
"Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau - nid dramâu - oedd fy angerdd llenyddol cyntaf," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud fod "cael dianc i fyd y stori yn falm i'r enaid pan o'n i'n grwtyn bach ecsentrig" a'i fod "wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny".
Cafodd y nofel ei darlunio gan Bethan Mai (Y Lolfa).
'Dim digon o sylw i lyfrau plant'
Mae Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa), enillydd y categori Uwchradd, yn nofel am gyfeillgarwch, am deithio'n ôl mewn ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau'r dychymyg i'r eithaf.
Dywedodd Megan Angharad Hunter y "bysa llyfr fel Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur mawr i fi pan o'n i'n yr ysgol", gan obeithio "y bydd yn gysur i blant Cymru heddiw hefyd".
Dywedodd fod y gwobrau "mor bwysig achos dydi llyfrau plant ddim yn cael hanner digon o sylw, yn enwedig rhai Cymraeg gwreiddiol".
Enillwyr gwobrau Dewis y Darllenwyr
Yn yr un seremoni cafodd gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr eu cyhoeddi.
Mae'r rhain yn wobrau sydd wedi'u dewis o deitlau'r rhestr fer ym mhob categori gan y plant a'r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.
Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd yw Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, wedi ei ddarlunio gan Valeriane Leblond (Y Lolfa).
Enillydd Gwobr Davies y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd yw Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth