Beirniadu sylwadau 'sarhaus' am rywioldeb mewn cylchgrawn crefyddol
- Cyhoeddwyd
Mae cyfrannwr myfyrdodau crefyddol wedi'i feirniadu am ei sylwadau ar rywioldeb wrth iddo nodi fod y Beibl yn dweud fod "newid rhyw yn mynd yn groes i drefn naturiol Duw".
Roedd un o fyfyrdodau'r Parchedig Peter Harries Davies yn y rhifyn diweddaraf o Gair y Dydd yn nodi fod y Beibl hefyd "yn condemnio gweithredoedd gwrywgydiol".
Dywed y Parchedig Dylan Rhys Parry - a fu'n rhannu ei brofiad o ddod allan yn ddiweddar â Cymru Fyw - fod y sylwadau yn "brifo".
Mewn ymateb, dywedodd y Parchedig Peter Harries Davies nad ei "fwriad yw peri loes i neb" a'i fod yn ymddiheuro os oedd e wedi gwneud hynny.
Mae pwyllgor golygyddol y cylchgrawn wedi ymddiheuro am "unrhyw dramgwydd" sydd wedi'i achosi i ddarllenwyr.
Beth ydy Gair y Dydd?
Mae Gair y Dydd yn cynnwys myfyrdodau dyddiol ac fe gaiff ei gyhoeddi bedair gwaith y flwyddyn, neu fesul tri mis.
Mae'n cael ei gyhoeddi gan Bwyllgor Darlleniadau Beiblaidd ar ran Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys yng Nghymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.
Mae'r myfyrdod dan sylw ar y testun 'Rhywioldeb' yn ddefosiwn ar gyfer 11 Awst.
Fel gweddill myfyrdodau Awst, mae'r un yma wedi cael ei ysgrifennu gan y Parchedig Peter Harries Davies, gweinidog capel y Bedyddwyr yng Nglanaman, Sir Gâr.
Mae'r cyfraniad wedi ei rannu yn dair rhan - Y Broblem, Sylwadau a'r Ateb.
Y broblem, yn ôl y cyfrannwr, yw sut y dylid trin pobl o dueddiadau rhywiol gwahanol.
Yn y sylwadau nodir nad yw'r Beibl yn condemnio "gwrywgydwyr na phobl ddeurywiol" ond mae'n "condemnio gweithredoedd gwrywgydiol".
Ychwanega "bod newid rhyw yn mynd yn groes i drefn naturiol Duw" gan ddyfynnu Deuteronomium, pennod 22, adnod 5.
Wrth gyfeirio at Asiantaeth Exodus yn yr ateb, dywedodd bod y cymorth sydd ar gael yn "herio homoffobia a bywyd gwrywgydiol" ac yn cynnig cefnogaeth i "bobl wrywgydiol ynghyd â'u teuluoedd".
Gan ddyfynnu o lythyr Paul at y Rhufeiniaid, dywedodd mai "wrth ras gellir cael goruchafiaeth ar y gweithredoedd rhywiol sy'n codi o'r gwahaniaethau hyn.
Ychwanegodd hefyd bod "enghreifftiau yn eglwys Corinth o bobl a ryddhawyd o afael y fath weithredoedd".
Yn ei weddi mae'r Parchedig Peter Harries Davies yn diolch i Dduw am "greu dyn yn wryw ac yn fenyw i fwynhau cwmni cariadus ei gilydd a thrwy hynny luosogi'r hil ddynol".
'Dwi'm yn gweld fy hun yn broblem'
Wrth ymateb i gynnwys yr erthygl, dywedodd y Parchedig Dylan Rhys Parry ei fod yn "gorfod meddwl o ddifri" os fydd yn parhau i brynu Gair y Dydd.
"Mae'r sylwadau yn sarhaus ac yn fwy na lleisio barn. Maen nhw'n brifo," meddai.
"Mae pawb â'i ddehongliad o'r Beibl ac mae fy un fi yn wahanol.
"Mae geiriau fel 'cynorthwyo pobl wrywgydiol i ddelio â'u rhywioldeb' yn brifo.
"Myfyrdod yw hwn i fod nid colofn," meddai.
"Dydi'r gymuned LGBTQ+ ddim yn broblem na'u hymgais i gael perthynas iach a chariadus.
"Mae'n gymuned sydd wedi cael ei herio a'i sarhau yn gyson - dwi ddim yn disgwyl i'n cymuned Gristnogol ni yng Nghymru ychwanegu at y strygl.
"Mae Duw wedi fy nghreu i yr hyn ydw i a dwi'm yn gweld fy hun na neb arall o'r gymuned LGBTQ+ yn broblem."
'Cytuno i anghytuno'n gwrtais'
Wrth ymateb mae'r Parchedig Harries Davies yn pwysleisio mai un o 28 myfyrdod yw hwn a bod pynciau eraill lawn mor bwysig.
"Mae diwyg y myfyrdodau’n gyffredin i bob un ohonynt, sef, Y Broblem, Sylwadau ac Yr Ateb, er mwyn hwyluso eu darlleniad," meddai.
"Ceir anawsterau’n codi o dan wahanol bynciau bywyd gan gynnwys yr amgylchedd, y teulu, magwraeth, tlodi yn ogystal â rhywioldeb.
"Felly cynorthwyol yw ceisio cael hyd i gymorth yn yr Ysgrythur ar y pynciau amrywiol hyn. Gellid cael cyfrannwr arall i Gair y Dydd yn dweud yn wahanol i mi ar ryw bwnc neu gilydd ond cytunwn i anghytuno’n gwrtais gan oddef ein gilydd mewn cariad," meddai.
"Nid yw rhywioldeb yn gyfyngedig i bobl hoyw’n unig ac mae’r myfyrdod felly’n cyfeirio at bobl sengl a phobl ddi-ryw hefyd.
"Gellir cael amrywiaeth ar y patrwm rhywiol mwyafrifol a newid mewn rhyw person. Ond mae angen gras Crist ym mywyd y Cristion i gael goruchafiaeth ar weithredoedd rhywiol boed hoyw neu odinebus."
Wrth ymhelaethu ar Asiantaeth Exodus dywedodd Y Parchedig Harries Davies: "Cymdeithas o Gristnogion hoyw yw Exodus sy’n brofiadol o’u rhyddid yng Nghrist.
"Maent wedi dod mas o wrywgydiaeth ond yn dal i frwydro gyda’u teimladau cryfion.
"Mae yna Gristnogion hoyw nad ydynt yn cytuno â dilyn bywyd hoyw. Pam na allwn ni glywed mwy amdanyn nhw er mwyn cael pictiwr mwy cyflawn o’r sefyllfa gyfredol.
"Pe bai un o 12 disgybl Iesu’n hoyw yna buasai wedi’i garu gymaint â’r lleill. Mae Cristnogion hoyw’n werthfawr yng ngolwg Duw ac mae eu cyd-Gristnogion i’w caru ac nid eu condemnio.
"Caled iawn yw profiadau llawer o bobl hoyw ac annerbyniol yw’r atgasedd maent wedi’i brofi," ychwanegodd.
'Awyddus i wella'r ffordd ymlaen'
Dywedodd y Parchedig Judith Morris, cadeirydd y pwyllgor golygyddol, fod Gair y Dydd yn "adnodd gwerthfawr a chyfoethog".
"Mae Pwyllgor Gair y Dydd yn gyfrifol am wahodd tri unigolyn gwahanol i lunio myfyrdodau gwreiddiol ar gyfer pob rhifyn," meddai.
"Mae’r cyfranwyr yn cynnwys gweinidogion ordeiniedig yn ogystal â phobl leyg ac maent yn cynrychioli ystod eang o safbwyntiau diwinyddol sydd yn bodoli o fewn yr eglwysi heddiw.
"Yr awduron unigol sy’n gyfrifol am y cynnwys ac nid yw’r Pwyllgor o reidrwydd yn cytuno gyda’r hyn a fynegir yn y myfyrdodau.
"Rydym yn ymddiheuro os oedd y testun ar gyfer Dydd Sul, 11 Awst wedi peri tramgwydd i unrhyw un o’n darllenwyr.
"Fel Pwyllgor rydym yn awyddus i ddysgu ac i wella’r ffordd y byddwn yn gweithredu," ychwanegodd.
'Y term gwrywgydiwr ddim yn dderbyniol'
Mae John Sam Jones wedi ysgrifennu yn helaeth ar driniaeth a dderbyniodd yn yr 1970au er mwyn ei atal rhag bod yn hoyw.
Mae'n croesawu unrhyw waharddiad ar therapi sy'n ceisio newid cyfeiriadaeth rywiol pobl.
Wrth ymateb i gynnwys y myfyrdod, dywedodd bod "ein gwybodaeth ni heddiw yn dipyn ehangach nag yn nyddiau'r Hen Destament" a bod "ein geirfa wedi symud gyda'r oes".
"Dyw'r term gwrywgydiwr ddim yn dderbyniol bellach - mae'n perthyn i iaith y saithdegau," meddai.
"Ers canol y ganrif ddiwethaf mae'r gair cyfunrywiol wedi bodoli.
"Hefyd mae'n gwybodaeth yn yr ugeinfed ganrif a'r 21g yn ail-ddehongli’r ysgrythurau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2023