Prifwyl 2026: 'Ymdrech i gynnwys pob rhan o Sir Benfro'
- Cyhoeddwyd
Roedd neuadd Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych yn llawn nos Iau wrth i gannoedd o bobl fynychu cyfarfod i lansio'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2026.
Safle Llantwd yng ngogledd y sir sydd wedi ei ddewis ar gyfer y brifwyl, rhyw dair milltir o dref Aberteifi.
Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro estyn gwahoddiad ffurfiol i lwyfannu'r Eisteddfod ym mis Gorffennaf.
Mae aelod di-Gymraeg o gabinet Cyngor Sir Penfro wedi dweud bod hi'n hanfodol bod yr ŵyl yn hygyrch i bawb yn y sir, boed nhw'n siaradwyr Cymraeg neu'n ddi-Gymraeg.
- Cyhoeddwyd19 Medi
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, oedd yn y cyfarfod: "Mae hwn yn gyfle gwych i gofleidio'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg ar draws y Sir, i'r rheini sydd yn medru'r Gymraeg a'r rheini sydd yn ddi-Gymraeg.
"Mae yna gynnydd wedi bod mewn addysg Gymraeg sydd yn wych, ond mae'n rhaid sicrhau bod y digwyddiad gwych yma yn hygyrch i bawb, o safbwynt daearyddol neu yn ieithyddol.
"O'r cychwyn cyntaf, mae'n rhaid gwneud yn sicr bod yna ddealltwriaeth taw nid digwyddiad yn unig i siaradwyr Cymraeg yw hwn."
Yn 2018, fe agorodd ysgol 3-16 cyfrwng Cymraeg, Ysgol Caer Elen, yn Hwlffordd. Eleni, fe agorodd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Penfro.
Yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, mi fydd yna ymdrech i gynnwys bob rhan o Sir Benfro.
"Mi fydd yna ddigwyddiadau ar hyd Sir Benfro felly peidied neb â phoeni a meddwl bod ni wedi anghofio am y de. Yn sicr, dyw hynny ddim yn wir.
"Mi fyddwn ni yn cofleidio yr holl o Sir Benfro ond hefyd yn gweithio yn ardaloedd yn Sir Gâr, ac yng Ngheredigion."
Roedd Judith Roach o Bont Pelcomb, ger Hwllffordd, wedi teithio i'r cyfarfod yng Nghrymych.
"Mae'n bwysig i ni nawr gymryd y sir i gyd i mewn i'r amser cyffrous 'ma.
"Mae angen codi gwybodaeth a mynd mas i siarad gyda phawb a dweud mai nid jyst i bobl sydd yn siarad Cymraeg, mae e i'r gymuned i gyd."
Fe fydd dalgylch yr Eisteddfod yn 2026 yn ymestyn dros dair sir, dolen allanol, ac yn cynnwys Sir Benfro, de Ceredigion a rhannau o orllewin Sir Gâr.
'Yn her ond yn gyfle'
Roedd y Cynghorydd John Davies yn flaenllaw wrth ddenu'r brifwyl i safle Llantwd.
"Mae'r cyfarfod 'ma wedi sefydlu'r seiliau," meddai. "Pan chi adeiladu unrhyw deml, mae rhaid i chi gael seiliau, ac mae'r seiliau yn gadarn iawn.
"Roedd croesdoriad o bobl yma a nifer o bobl doeddwn i ddim yn adnabod. Mae hynny yn gysur oherwydd mae'n amlwg bod yr Eisteddfod a'r holl brosiect yn estyn allan. Ac mi fydd angen iddi estyn allan er mwyn iddi lwyddo.
"Mae'n edrych yn addawol, ac roedd yna gynrchiolaeth o'r dair sir yma. Mae'n mynd i fod yn her ond gyfle hefyd."
Fe fydd 2026 yn nodi 850 o flynyddoedd ers yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi ym 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.
Yn ôl y Cynghorydd Clive Davies mae nodi a dathlu hanes yr eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn hollbwysig.
Gan fod y safle hwnnw "ond tair milltir o Llantwd", dywedodd y Cynghorydd Clive Davies: "Mae'n bwysig bod ni'n chwarae rhan efallai yn rhai o'r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod 'ma achos steddfod ardal yw hi.
"Byddwn ni yn chwarae ein rhan ni yng ngwaelod de Ceredigion.
"Mae'n dda i weld cymaint o bobl 'ma. Mae'n orlawn yma heno. Gobeithiwn gewn ni lwyddiant yn 2026."