Sir Benfro yn gwahodd y Brifwyl i'r ardal yn 2026

EisteddfodFfynhonnell y llun, ALED LLYWELYN
  • Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cytuno yn unfrydol i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i Lantwd yn 2026.

Yn ystod cyfarfod ddydd Iau, cafodd cynnig gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol i wahodd yr ŵyl i Sir Benfro ei basio'n unfrydol.

Yn ôl dogfen a gafodd ei hystyried gan aelodau'r cabinet, mae'r safle dan sylw, sydd ar y ffin rhwng Sir Benfro a Cheredigion, yn cwrdd â nifer o feini prawf yr Eisteddfod.

Mae 2026 hefyd yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.

'Eisteddfod ar gyfer Sir Benfro gyfan'

Yn ystod y drafodaeth, fe ddywedodd rhai aelodau o’r cabinet bod unigolion o ganolbarth a de Penfro wedi cysylltu gyda nhw i fynegi pryder am y lleoliad.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Jon Harvey bod nifer o safleoedd eraill wedi cael eu hystyried yng nghanol a de’r sir, ond mai safle Llantwd oedd yr un mwyaf addas.

“Fyddwn ni byth yn medru plesio pawb o ran y lleoliad. Ry’n ni wedi bod trwy broses o graffu ar safleoedd trwy gydol y sir a hon ddaeth i’r brig," meddai.

"Fe fydd hon yn Eisteddfod ar gyfer Sir Benfro gyfan ac fe fyddwn ni'n gweithio yn galed gyda’r holl gymunedau ymhob rhan o Sir Benfro i wneud e’n ddigwyddiad cynhwysol iawn.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd y cyngor, John Harvey, bod nifer o safleoedd arall wedi cael eu hystyried cyn penderfynu ar Lantwd

Yn ôl y cynghorydd dros ardal Llantwd, John Davies, mae hi’n naturiol bod yna drafodaeth am leoliad y safle.

“Chi o hyd yn cael y dadleuon hyn pan mae’r Eisteddfod yn digwydd mewn unrhyw sir, yn naturiol.

"Fe wnaed hi’n glir yn y cyfarfod cabinet bod yna ymroddiad llwyr i anwesu’r holl sir.

"Mae yna ysgolion Cymraeg newydd yn agor ym Mhenfro ac mae gyda chi Caer Elen yn Hwlffordd, heb anghofio Ysgol Bro Preseli.

"Mae hi’n amlwg mae hon yw’r safle mwyaf deniadol, ac un fydd gobeithio mewn tywydd gwell, yn gwenu ar y Gymraeg yn 2026."

Ychwanegodd fod "hyn yn newyddion rhyfeddol o dda i Sir Benfro".

Mae'r adroddiad a drafodwyd gan y cyngor yn nodi bod yna "risg ariannol" wrth lwyfannu'r Eisteddfod, ond yn dweud y byddai cynnal y brifwyl yn gadael "gwaddol sylweddol" ac yn cael "effaith sylweddol ar yr economi leol".

Mae'r hefyd yn nodi nad oes arian wedi ei glustnodi yng nghoffrau'r cyngor ar gyfer cynnal yr Eisteddfod, a bydd angen chwilio am noddwyr allanol er mwyn lleihau'r baich ar goffrau'r awdurdod.

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod "yn ymwybodol o’r drafodaeth yng nghabinet Cyngor Sir Benfro ar hyn o bryd".