Sir Benfro fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2026

Arwydd EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau mai Sir Benfro fydd cartref y brifwyl yn 2026.

Roedd cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cytuno nôl ym mis Gorffennaf eu bod am wahodd yr Eisteddfod i Lantwd, ar gyrion Aberteifi, ymhen dwy flynedd.

Fe fydd y gwaith paratoi ar gyfer yr ŵyl yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus yng Nghrymych ar 10 Hydref.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, eu bod yn "edrych ymlaen at weithio mewn ffordd cwbl newydd gan ddod â rhannau o dair sir at ei gilydd i greu prosiect a gŵyl sy’n ddathliad o’n hiaith a’n diwylliant".

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd eleni, a Wrecsam fydd ei chartref y flwyddyn nesaf.

Er mai Sir Benfro fydd cartref y Brifwyl yn 2026, bydd dalgylch yr ŵyl hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl dogfen a gafodd ei hystyried gan aelodau Cyngor Sir Penfro, mae'r safle yn Llantwd "yn cwrdd â nifer o feini prawf yr Eisteddfod".

Mae 2026 hefyd yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

2002 oedd y tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn Sir Benfro

Dywedodd Betsan Moses: “Rydyn ni eisoes wedi cychwyn gweithio gyda Chyngor Sir Benfro fel yr awdurdod arweiniol, ac yn falch iawn i gydweithio gyda chynghorau Ceredigion a Sir Gâr eto.

"Mae’n gyfle i ni weithio ar Eisteddfod mewn ffordd newydd, gan fanteisio ar arbenigedd tîm o awdurdodau lleol.

“Dydyn ni heb fod yn Sir Benfro ers 2002, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal a roddodd gymaint o groeso i ni pan gynhaliwyd yr ŵyl yn Nhyddewi bryd hynny.

“Mae nifer fawr o gyfleoedd ar gael, yn trefnu a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol yn ogystal â’r gwaith o gynnig syniadau ar gyfer ein cystadlaethau a rhaglen yr wythnos.

"Dewch i weld beth sydd ar gael ac i drafod sut y gallwn ni gydweithio i greu prosiect a gŵyl i’w cofio yn yr ardal."

Bydd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn cael ei gynnal yn Theatr y Gromlech, Crymych am 19:00 ar nos Iau 10 Hydref.