Dirwy o £640,000 i Asda am werthu hen fwyd yng Nghaerdydd

Cyrri cyw iâr a reisFfynhonnell y llun, Shared Regulatory Services
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Asda eisoes wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad o werthu bwyd oedd wedi mynd yn hen

  • Cyhoeddwyd

Mae Archfarchnad Asda wedi cael dirwy gwerth £640,000 a gorchymyn i dalu costau am werthu bwyd oedd wedi mynd yn hen.

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod 115 o eitemau, oedd wedi mynd heibio eu dyddiad defnyddio, ar werth yn eu siopau yn Lecwydd ac ym Mhentwyn yng Nghaerdydd - rhwng Ionawr a Mai 2024.

Roedd un eitem dros bythefnos yn hŷn na'i ddyddiad defnyddio, ond ar y cyfan mater o ychydig ddyddiau heibio eu defnydd defnyddio oedd yr eitemau.

Dywedodd bargyfreithiwr y cwmni fod hyn yn "amlwg yn annerbyniol", ond fod yna system newydd yn ei le erbyn hyn i geisio i sicrhau nad oedd yn parhau i ddigwydd.

Asda Lecwydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd eitemau oedd wedi mynd heibio eu dyddiad defnyddio ar werth yn siopau Asda yn Lecwydd [uchod] ac ym Mhentwyn

Fe ddaeth swyddogion safonau masnach o hyd i'r eitemau yn dilyn cyfres o ymweliadau.

Ymweliad i wirio glendid oedd y cyntaf yn siop Lecwydd, ond yn dilyn cwynion gan y cyhoedd fe aeth swyddogion i'r archfarchnad ym Mhentwyn hefyd.

Roedd y cwmni eisoes wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad o werthu bwyd oedd wedi mynd yn hen.

Roedd y risg o ran effaith ar y cyhoedd yn isel meddai'r barnwr rhanbarthol, Charlotte Murphy, ond, meddai, nid mater bach oedd y troseddau hyn.

Cynnyrch Nduja a chawsFfynhonnell y llun, Shared Regulatory Services

Nododd Ms Murphy fod y broblem wedi para pum mis.

Roedd yna systemau mewn lle i atal hyn rhag digwydd, meddai, ond doedden nhw ddim wedi eu gweithredu'n ddigon da.

Roedd gan y cwmni drosiant o tua £23 biliwn, meddai, felly roedd modd cynyddu trothwy'r ddirwy i adlewyrchu hynny.

Cafodd Asda ddirwy o £640,000, gorchymyn i dalu £15,115 mewn costau a ffi o £2000.

Dywedodd Asda eu bod yn "derbyn na chynhaliwyd ein safonau uchel arferol".

"Ers hynny, rydym wedi cyflwyno proses wirio cod dyddiad newydd ar draws ein holl siopau, lle mae pob cynnyrch oes fer yn cael ei wirio'n ddyddiol."

Ychwanegodd y llefarydd fod y broses newydd yn golygu fod modd i gwsmeriaid "bob amser brynu'r cynhyrchion mwyaf ffres".

Asda Pentwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran Asda eu bod yn "difaru bod bwyd oedd wedi mynd heibio ei ddyddiad wedi cael ei ganfod ar werth"

Fe wnaeth Norma Mackie, Aelod Cabinet ar Gyngor Caerdydd â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Amgylcheddol, groesawu'r ddirwy.

"Dylai defnyddwyr fod yn hyderus bod y bwyd sydd ar werth mewn siopau yn ddiogel i'w fwyta," meddai.

Dywedodd Ms Mackie ei bod hi'n "hanfodol bod systemau cadarn ar waith i atal gwerthu bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad defnyddio".

"Yn yr achos yma, mi fethodd Asda o bell â chyrraedd y safonau gofynnol disgwyliedig."

Ychwanegodd fod y systemau oedd gan Asda mewn lle yn "amlwg yn annigonol" a'i bod yn gobeithio bod Asda wedi cymryd camau i gywiro'r methiannau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig