Dadorchuddio cofeb i ddioddefwyr Thalidomide
- Cyhoeddwyd
Bydd cofeb yn cael ei dadorchuddio ym mharc Cathays yng Nghaerdydd ddydd Iau i godi ymwybyddiaeth am yr effaith y cafodd y cyffur Thalidomide ar blant a'u teuluoedd.
Cafodd miloedd o blant eu geni ag anableddau yn y 1950au a'r 1960au ar ôl i'w mamau gael y cyffur i ddelio ag anhwylderau'n gysylltiedig â beichiogrwydd.
Mae'r hyn ddigwyddodd wedi ei ddisgrifio fel "trychineb feddygol", ac fe gafodd Thalidomide ei wahardd ym Mhrydain yn y '60au.
Bydd nifer o bobl sydd ag anableddau a'u teuluoedd yn bresennol yn y dadorchuddio.
Yn eu plith, Rosaleen Moriarty Simmonds OBE, Edward D Freeman a Stephen Simmonds.
Mae Rosaleen o Gaerdydd, gafodd ei geni ym 1960, yn dweud fod yna ymdrechion wedi bod ers tro i godi cofeb: "Ar ôl saith mlynedd o ymgyrchu a dwyn perswâd, rydym wrth ein boddau fod y gofeb hon yn mynd i gael ei gosod wrth galon Canolfan Ddinesig Caerdydd, yng nghysgod y gofeb ryfel, Neuadd y Ddinas a Swyddfa Cymru.
"Mae'n lleoliad addas i gofio am y rheini sy'n parhau i ddioddef yn sgil trychineb feddygol na ddylai fod wedi digwydd o gwbl, oni bai am y chwant am elw.
"Rydym ein tri'n meddwl bod y gofeb yma yn hanfodol. I rai pobl, bydd yn rhoi teimlad o dawelwch, i eraill bydd yn rhoi cysur, a gobeithio y bydd yn addysgu'r genhedlaeth iau, mae'n ffordd o ddweud diolch i'r rhai hynny a'n helpodd ni ac o gofio'r rhai roedden ni'n eu caru."