Cyfradd diweithdra yng Nghymru yn gostwng i 4.3%
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth y gyfradd diweithdra yng Nghymru ostwng i 4.3% rhwng mis Mai a Gorffennaf eleni, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau.
Mae'n golygu fod y canran bellach yr un peth â'r lefel cyffredinol ar draws y DU.
Yn y chwarter blaenorol roedd cyfradd diweithdra Cymru yn 4.8%, gyda chyfradd y DU yn 4.6%.
Mae'n golygu fod diweithdra wedi gostwng yn gynt yng Nghymru yn y tri mis diweddaraf nag unrhyw ran arall o'r DU ac eithrio Llundain.
Mwy yn segur
Ond mae cyfradd y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru wedi disgyn yn ystod yr un cyfnod, ac mae Cymru'n dal i fod ag un o'r cyfraddau isaf yn y DU o bobl mewn gwaith.
Dim ond Gogledd Iwerddon a gogledd ddwyrain Lloegr sydd â chyfradd is o bobl mewn gwaith.
Mae gan Gymru hefyd y gyfradd ail uchaf - y tu ôl i Ogledd Iwerddon - o bobl sydd yn segur yn economaidd, sef 24.2%.
Mae hynny'n golygu unrhyw un sydd yn ddi-waith ond ddim mewn sefyllfa i weithio, oherwydd ffactorau megis salwch, gofalu, neu fod yn fyfyriwr.