Y ferch o Awstria a'i dadansoddiad rhyfeddol o gân werin Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Fyddai'r Ŵyl Cerdd Dant fyth 'run fath eto. Yn sicr dydych chi rioed wedi clywed y gân werin Dacw 'Nghariad yn cael ei chanu fel hyn!
Mae fideo Sonja Hubmman ar ei sianel YouTube wedi creu argraff fawr dros y dyddiau diwethaf ar nifer o ddefnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol.
Cysylltodd Cymru Fyw gyda'r ferch o Fienna, prifddinas Awstria, a gofyn iddi beth wnaeth ei ysgogi i ganu yn y Gymraeg.
"Rwy'n gweithio yn rhan-amser fel ysgrifenyddes i un o bapurau newydd Awstria" meddai Sonja. "Dwi'n gwneud hynny i helpu dalu'r biliau. Ond yn fy amser sbâr dwi'n hoffi cynhyrchu fideos. Mae ieithoedd yn bwysig i mi ac ar un o fy sianeli YouTube, dolen allanol rwy'n dysgu Almaeneg trwy gyfrwng nifer o ieithoedd fel Ffrangeg, Arabeg a Cheinieg."
Canu rownd y byd
Prosiect arall sydd ganddi hi yw Sonni World Songs. Nod Sonja yw canu caneuon mewn gymaint o ieithoedd gwahanol ac sy'n bosibl. Mae hi wedi llwyddo i wneud hynny mewn 35 o ieithoedd hyd yma gan gynnwys Dacw 'Nghariad yn y Gymraeg.
"Mae enghreifftiau o ganeuon mewn ieithoedd lleiafrifol yn anodd i'w darganfod ar y rhyngrwyd" eglurodd Sonja. '"Dwi ddim yn 'nabod teitlau caneuon a 'dwi ddim yn gwybod enwau'r artistiaid. Ar ddamwain y gwnes i ddod ar draws Dacw 'Nghariad. Ro'n i wrth fy modd gyda'r alaw. Roedd 'na lawer o fersiynau gwahanol ond ro'n i'n teimlo eu bod nhw'n "hen-ffasiwn".
"Felly, mi wnes i ofyn i fy ngŵr René Reitz, sy'n digwydd bod yn gynhyrchydd cerddoriaeth, i ail-drefnu'r gân ac mi wnes i ati i roi 'chydig o sŵn cyfoes iddi hi."
Tra'n gweithio ar y gân daeth Sonja i ddysgu mwy am Gymru a'r iaith.
Ffaldi radl didl dal...
"Ro'n i'n gwybod bod yr iaith yn bodoli wrth gwrs ond doedd gen i ddim syniad o hanes y Cymry. Ro'n i'n tueddu i gymysgu gyda hanes y Gwyddelod a'r Albanwyr. Ond mae'r Gymraeg yn wahanol iawn i'r ieithoedd Celtaidd eraill.
"I fod yn onest, doedd 'na ddim fersiwn karaoke o'r gân yma i'w chael ar y we a doedd y fersiynau glywais i ddim yn apelio ata' i yn gerddorol. Rwy'n ceisio addasu caneuon i siwtio fy llais. Dydw i ddim byd tebyg i Tina Turner na Whitney Houston!"
Roedd yna broblemau hefyd wrth geisio mynd i'r afael â'r holl ffaldi radl didl dal 'na hefyd:
"Ro'n i yn cael trafferth ynganu cân wnes i ganu yn y Wyddeleg hefyd. Roedd hi'n anodd dod o hyd i siaradwr cynhenid yn Awstria felly mi wnes i alw yn llysgenhadaeth y wlad yma yn Fienna ac ro'n i'n lwcus mewn sawl ffordd. Mi wnes i gyfarfod Seán Ó Riain, y dirprwy-lysgennad sydd hefyd yn gallu siarad Cymraeg ac Esperanto. Roedd o'n garedig iawn ac fe wnaeth fy helpu i ddeall y geiriau cyn i mi saethu'r fideo. Gyda llaw, does gen i ddim cyllideb ar gyfer y prosiectau yma!"
Fyddwn ni yn clywed rhagor o ganeuon Cymraeg gan Sonja yn y dyfodol?
"Mater o amser yw hi. Mi fyswn i'n dymuno canu rhagor yn yr iath ddiddorol ac "ecsotig" yma ond, cofiwch, fel rhan o fy mhrosiect Sonni World Songs mae 'na gannoedd o ieithoedd eraill yn y byd 'ma! Cawn weld."