Cymry Cymraeg yn codi llais mewn gŵyl ryngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae perfformwyr Cymraeg ymhlith y llu o leisiau sy'n dod i lwyfannau Caerdydd ar gyfer Gŵyl y Llais.
Dyma'r ail dro i'r ŵyl gael ei chynnal - digwyddiad bob yn ail flwyddyn sydd wedi'i ganolbwyntio ar Ganolfan Mileniwm Cymru.
Gruff Rhys, Lisa Jên Brown a Gwenno ydy rhai o'r artistiaid Cymraeg sydd wedi cael lle ar raglen sydd â thema ryngwladol ac arbrofol.
Bydd cyngherddau a pherfformiadau hefyd yng Nghlwb Ifor Bach a theatrau'r Sherman, Chapter a'r New Theatre.
Nos Sul bydd Gruff Rhys yn perfformio'i albwm newydd, Babelsberg, am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Bydd Lisa Jên Brown, prif leisydd y grŵp 9Bach, yn ymuno â Gruff Rhys ar gyfer y sioe.
Mi fydd hi'n ymddangos mewn dau berfformiad arall yn ystod yr Ŵyl - Double Vision a'r Atlantic Arc Orchestra.
Dywedodd Lisa Jên: "Fel rhywun sydd yn defnyddio ei llais lot, 'dwi yn falch iawn o fod yn rhan.
"Dwi'n teithio lot efo 9Bach ar draws y byd, dwi'n browd o hynna, dwi'n canu yn yr iaith Gymraeg ac yn mynd â'n cerddoriaeth ni yn fyd eang.
"Ac mae jyst yn neis i gael fod yma, adra, ac i neud yr un fath. A dwi jyst yn gobeithio bydd cynulleidfa ryngwladol hefyd yn cael eu denu."
Uchelgais i dyfu'r ŵyl
Billy Bragg ydy seren noson agoriadol yr ŵyl, sy'n para tan 17 Mehefin.
Mi fydd Patti Smith yn canu nos Fawrth nesaf, a gyda'r sêr rhyngwladol - a'r cyfoeth Cymreig - mae'r trefnwyr yn gobeithio creu gŵyl y bydd modd ei chymharu â gwyliau Caeredin a Manceinion dros y ddegawd nesaf.
Dwedodd Graeme Farrow, cyfarwyddwr artistig Canolfan Mileniwm Cymru, bod ganddo uchelgais i dyfu'r ŵyl.
"Hoffwn gau strydoedd Caerdydd am y penwythnos a'u llenwi â lleisiau, gyda mynediad am ddim," meddai.
"Mae gan Gymru gymaint o gantorion anhygoel, ac mae'r Cymry'n canu eu hanthem yn well na neb arall, felly gadewch i ni fynd allan i'r byd mawr a dangos hynny i bawb."
Mae Lisa Jên yn croesawu'r uchelgais, ac yn dweud bod denu gŵyl ryngwladol Womex i Gaerdydd yn 2013 wedi rhoi cynsail ar gyfer Gŵyl y Llais.
"Mae'n hanfodol bwysig, achos mae ein llais ni yng Nghymru mor gryf. A 'dan ni'n gorfod gweithio'n galed iawn ar drio lluchio hwnna ar draws y byd.
"'Dan ni wedi dechrau drwy gael Womex draw. Pan wnaeth Womex ddigwydd yma roedd hwnnw'n teimlo'n rhywbeth cynhyrfus iawn.
"Ac mae'n hanfodol bwysig mewn ffordd ein bod ni yn dathlu beth sydd gynnom ni yma yng Nghymru, ond hefyd yn gwahodd pobl o ar draws y byd."
Mae Gŵyl y Llais hefyd yn gyfle i arbrofi. Mae Carys Eleri, seren y gyfres deledu Parch, wedi creu sioe gomedi newydd sy'n ystyried y wyddoniaeth y tu ôl i gariad ac unigrwydd.
Bydd yn mynd â'r sioe i Ŵyl Caeredin dros yr haf, ond mae Gŵyl y Llais wedi rhoi'r llwyfan iddi ddatblygu ac esblygu syniad dros gyfnod hir.
"Dechreuais i sgrifennu cwpl o ganeuon blynyddoedd yn ôl yn ymwneud â'r pynciau hyn, a wastad yn chwerthin ar fy hunan," meddai.
"Ond wedyn dwi wedi bod yn darllen lot o gylchgronau a llyfrau gwyddonol, dros y blynyddoedd, a nawr dwi'n gallu gweld sut mae cariad yn ymwneud â chemistry yr ymennydd, a gweld shwt y'ch chi'n bihafio, a fel mae neuroscience eich corff chi, eich ymennydd, yn effeithio arnoch chi mewn cariad.
"Ac mae e jyst yn rili funny, so o'n i mo'yn creu sioe oedd yn dangos i bobl beth sydd yn mynd ymlaen yn y pen, ond hefyd er mwyn adloniant."
Nos Wener nesaf bydd Gwenno yn perfformio comisiwn newydd ar gyfer Gŵyl y Llais sy'n dathlu bywyd yr artist Edrica Huws, oedd yn arloesi ym myd clytwaith. Bydd Gwenno yn gwneud hynny drwy berfformiad electronig llawn sain ac effeithiau arbennig.
Elvis Costello sydd yn cloi'r ŵyl nos Sul 17 Mehefin.