Gwobrau Theatr Cymru yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
gwobrau theatr cymru

Mae Gwobrau Theatr Cymru wedi cael eu canslo yn sgil ffrae yn ymwneud â hiliaeth.

Roedd 'na feirniadaeth ddechrau'r flwyddyn bod yna gynhyrchiad ar y rhestr fer oedd ag actorion gwyn yn chwarae cymeriadau Asiaidd.

Wedi i'r ffrae honno ailgodi yn ddiweddar, mae'r trefnydd Mike Smith yn dweud mewn neges ar y we na fydd 'na seremoni fis Chwefror nesa, a bod y gwobrau wedi dod i ben.

Mae cais wedi ei wneud am sylw gan Mr Smith.

Roedd yna ddadlau wedi gwobrau 2018 wedi i gynhyrchiad gan Music Theatre Wales gael ei roi ar y rhestr fer.

Yn ystod taith y cwmni yn hydref 2017 fe gafodd y gwaith opera The Golden Dragon ei feirniadu am ddefnyddio actorion gwyn i chwarae rhan pobl Asiaidd mewn tŷ bwyta Tsieineaidd.

Yn dilyn hynny fe gynhaliodd Music Theatre Wales "drafodaeth agored" am y cynhyrchiad.

Ond fe feirniadodd llythyr agored a gafodd ei arwyddo gan 40 o bobl broffesiynol benderfyniad y beirniaid i roi The Golden Dragon ar y rhestr fer ac fe wrthododd cynrychiolwyr o National Theatre Wales fynd i'r seremoni fel arwydd o brotest.

Fe gafodd y seremoni ei chynnal ac roedd yna gynlluniau ar y gweill i gynnal seremoni Gwobrau Theatr Cymru 2019 yn Y Coed Duon ym mis Chwefror.

Ailgodi'r ffrae

Ond mae beirniadaeth ar enwebiadau 2018 wedi codi eto wedi i erthygl ymddangos yn y Wales Arts Review.

Mae'r erthygl yn dweud fod yr enwebiad a'r mudandod wedi hynny wedi "methu" pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Mewn neges ar wefan Gwobrau Theatr Cymru ddydd Sul nodir bod seremoni 2019 "wedi'i chanslo a bod y gwobrau blynyddol wedi dod i ben".

Cafodd Gwobrau Theatr Cymru eu lansio yn 2013 fel Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru a'u hailfrandio yn 2015.

Pobl oedd yn mynychu digwyddiadau dawns, yr opera a'r theatr a oedd yn llunio'r rhestr fer ddwyieithog.

Doedd y digwyddiad ddim yn cael cyllid cyhoeddus.