Gwobrwyo goreuon byd theatr Cymru ond beirniadu'r dewis
- Cyhoeddwyd
Wythnos yng Nghymru Fydd sydd wedi ennill y wobr am y cynhyrchiad gorau yn yr iaith Gymraeg yn seremoni Gwobrau Theatr Cymru.
Eleni roedd rhai yn anhapus am nad oedd yr enwebiadau yn adlewyrchu amrywiaeth o fewn y diwydiant.
Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall nad aeth staff National Theatre Wales i'r seremoni yng Nghasnewydd nos Sadwrn oherwydd eu hanfodlonrwydd.
Ddydd Gwener daeth i'r amlwg bod actorion a chynhyrchwyr wedi arwyddo llythyr agored yn beirniadu yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau Theatr Cymru.
Mae nhw'n honni nad oedd yr enwebiadau yn adlewyrchu amrywiaeth byd y theatr ac yn dweud bod "actorion gwyn yn chwarae rhan cymeriadau nad oedd yn wyn".
Yn ôl y trefnwyr, roedd 'na dros bedwar deg o adolygwyr wedi penderfynu ar y rhestrau ac yr oedd gan y rhai hynny arbenigedd ym mhob maes perfformio.
Enillwyr eraill
Roedd yna wobrau hefyd i nifer o gynhyrchiadau Cymraeg eraill.
Enillwyd y wobr am y berfformwraig orau yn yr iaith Gymraeg gan Caryl Morgan am ei rhan yn Yfory gan gwmni Theatr Bara Caws ac awdur y ddrama honno Sion Eirian a enillodd y wobr am y dramodydd gorau.
Richard Lynch a enillodd y wobr am y perfformiwr Cymraeg gorau a hynny am ei ran yn Macbeth.
Sieiloc - sioe am y masnachwr enwog o Fenis a enillodd y cynhyrchiad teithiol gorau yn yr iaith Gymraeg.
Enillwyd y wobr orau ar gyfer sioe i blant a phobl ifanc gan Mwgsi (Cwmni'r Frân Wen) sef drama a oedd yn portreadu'r unigrwydd a'r enwogrwydd o fod yn berson ifanc yn dioddef o ganser.
Roedd yna wobr hefyd i ddylunwyr Cwmni Theatr Arad Goch am eu rhan yn Gwledd Gwyddno yn Aberystwyth yn ystod yr haf.
Y canlyniadau yn llawn:
DYLUNIO A / NEU GWISGOEDD GORAU
Buddug James Jones & Anneliese Mowbray, Gwledd Gwyddno, Cwmni Theatr Arad Goch
CYFARWYDDWR GORAU
Tamara Harvey, Uncle Vanya, Theatr Clwyd & Sheffield Theatres
GOLEUO GORAU
Joe Fletcher, Macbeth, Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter
SAIN GORAU
Lucy Rivers, Sinners Club, Gagglebabble, Theatr Clwyd & The Other Room
ENSEMBLE GORAU
Tiger Bay, Canolfan Mileniwm Cymru ar y cyd â Cape Town Opera
COREOGRAFFYDD GORAU
Marcos Morau, Tundra, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
ARTIST DAWNS GORAU - MENYW
Anna Pujol, The Light Princess, Ballet Cymru, Catrin Finch a Glan yr Afon - cyd-gynhyrchiad
ARTIST DAWNS GORAU - GWRYW
Ed Myhill, Animatorium, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
CYNHYRCHIAD DAWNS GORAU
Shadow Aspect, Ballet Cymru
CYNHYRCHIAD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG
Wythnos yng Nghymru Fydd, Opra Cymru, Prifysgol Bangor, Pontio, Ensemble Cymru & Young Films - cyd-gynhyrchiad
PERFFORMIAD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG - GWRYW
Richard Lynch, Macbeth, Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter
PERFFORMIAD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG - MENYW
Caryl Morgan, Yfory, Theatr Bara Caws
PERFFORMIAD GORAU MEWN CYNHYRCHIAD OPERA - GWRYW
Simon Bailey, From the House of the Dead, Opera Cenedlaethol Cymru
CYNHYRCHIAD OPERA GORAU
Le Vin herbé, Opera Cenedlaethol Cymru
PERFFORMIAD GORAU MEWN CYNHYRCHIAD OPERA - MENYW
Natalya Romaniw, Eugene Onegin, Opera Cenedlaethol Cymru
CYNHYRCHIAD GORAU YN YR IAITH SAESNEG
Uncle Vanya, Theatr Clwyd & Sheffield Theatre
PERFFORMIAD GORAU YN YR IAITH SAESNEG - MENYW
Rosie Sheehy, Uncle Vanya, Theatr Clwyd & Sheffield Theatres
PERFFORMIAD GORAU YN YR IAITH SAESNEG - GWRYW
Sion Daniel Young, Killology, Theatr y Sherman & Royal Court Theatre - cyd-gynhyrchiad
DRAMODYDD GORAU YN YR IAITH SAESNEG
Gary Owen, Killology, Theatr y Sherman & Royal Court Theatre - cyd-gynhyrchiad
DRAMODYDD GORAU YN YR IAITH GYMRAEG
Siôn Eirian, Yfory, Theatr Bara Caws
CYNHYRCHIAD TEITHIOL GORAU (CYMRAEG)
Sieiloc, Rhodri Miles
CYNHYRCHIAD TEITHIOL GORAU (SAESNEG)
How To Win Against History, Àine Flanagan Productions, Seiriol Davies & y Young Vic, cefnogwyd y daith yng Nghymru gan Pontio
Y SIOE ORAU AR GYFER PLANT A PHOBOL IFANC (CYMRAEG)
Mwgsi, Cwmni'r Frân Wen
Y SIOE ORAU AR GYFER PLANT A PHOBOL IFANC (SAESNEG)
Eye of the Storm, Theatr na nÓg mewn cysylltiad â Chanolfan Celfyddydau Taliesin
CYMRU A'R BYD
Daniel Llewelyn-Williams, A Regular Little Houdini
LLWYDDIANT ARBENNIG
Godfrey Evans