'Roedd modd achub fy merch,' medd mam wrth gwest

Bethan JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Bethan James ar 9 Chwefror 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae mam dynes ifanc fu farw o sepsis, niwmonia a chlefyd Crohn wedi dweud wrth gwest y gallai ei merch fod wedi'i hachub pe bai wedi derbyn y driniaeth gywir.

Bu farw Bethan James, 21 oed o Gaerdydd - merch cyn-gricedwr Morgannwg a Lloegr Steve James - yn Chwefror 2020.

Daeth post mortem i'r canlyniad ei bod wedi marw oherwydd cyfuniad o sepsis, niwmonia a chlefyd Crohn.

Clywodd cwest i'w marwolaeth ym Mhontypridd ei bod hi wedi cael ei diagnosis o glefyd Crohn yn y misoedd cyn ei marwolaeth.

Yn rhoi tystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf y cwest, dywedodd mam Bethan, Jane James, ei bod hi'n teimlo bod staff meddygol wedi colli cyfleoedd i drin ei merch am sepsis.

Steve a Bethan JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bethan James yn ferch i gyn-gapten tîm criced Morgannwg, Steve James

Clywodd y cwest ei bod hi wedi cael ei derbyn i'r ysbyty ar sawl achlysur yn y dyddiau cyn ei marwolaeth, a dywedodd Jane James ei bod yn teimlo bod meddygon a staff nyrsio wedi bod yn ddiystyriol o gyflwr ei merch.

Cafodd Bethan ei derbyn i'r ysbyty ar 8 Chwefror ar ôl i'w chyflwr waethygu a bu farw'r diwrnod canlynol.

Dywedodd Jane James bod neb wedi sôn am y posibilrwydd bod Bethan yn dioddef o sepsis yn ystod ei thriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd ei bod hi'n teimlo y gallai Bethan fod wedi cael ei hachub pe bai staff wedi rhoi'r gofal a'r driniaeth gywir iddi ar gyfer sepsis.

'Mewn sioc'

Clywodd y cwest hefyd gan rai o'r staff meddygol wnaeth drin Bethan James yn y dyddiau cyn ei marwolaeth.

Fe wnaeth Paul Humphrey o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ymweld â chartref Bethan James ar 8 Chwefror.

Dywedodd wrth y llys ei fod wedi cael trafferth wrth geisio gwneud prawf gwaed, a'i fod wedi cysylltu â'r ystafell reoli gan ei fod yn poeni am gyflwr Bethan ac eisiau iddi fynd i'r ysbyty.

Pan gyrhaeddodd yr ambiwlans, dywedodd Mr Humphrey ei fod wedi dweud wrth staff ei fod yn credu y gallai hi fod yn dioddef o un ai sepsis, haint neu gyflwr Addison's.

Pan ofynnodd y crwner iddo a fyddai wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol wrth edrych yn ôl, dywedodd 'na', gan ychwanegu ei fod "mewn sioc" o glywed am yr hyn oedd wedi digwydd i Bethan James.

Mae'r cwest yn Llys Crwner Pontypridd yn parhau.