Dicter dynodi rheilffordd Rhydychen yn brosiect 'Cymru a Lloegr'

trên prawf ar ei daith gyntaf rhwng Rhydychen a Milton Keynes ym mis Hydref 2024Ffynhonnell y llun, Network Rail
  • Cyhoeddwyd

Mae dicter bod prosiect gwerth biliynau o bunnoedd i adeiladu rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt wedi cael ei ddynodi'n swyddogol yn brosiect "Cymru a Lloegr".

Ni fydd unrhyw draciau yn cael eu gosod yng Nghymru ar gyfer y rheilffordd gwerth £6.6bn, sy'n golygu na fydd Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn "dystiolaeth bellach" o "bolisïau niweidiol" gan lywodraeth Lafur y DU.

Dywedodd David Chadwick, AS y Democratiaid Rhyddfrydol, bod y penderfyniad yn "gywilydd" ac yn "HS2 unwaith eto".

Dywedodd Llywodraeth y DU y daw'r arian o'u cronfa "gwelliannau rhwydwaith rheilffyrdd... sy'n ariannu prosiectau yng Nghymru a Lloegr".

Yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru, Ken Skates, mae'r gronfa honno am "wneud yn iawn am danfuddsoddiad gan lywodraethau blaenorol".

Yn y Senedd brynhawn Mawrth, fe wnaeth y Prif Weinidog Eluned Morgan gydnabod nad yw Cymru yn cael "ein cyfran deg" o wariant ar reilffyrdd.

Map
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt wedi cael ei ddynodi'n swyddogol yn brosiect "Cymru a Lloegr"

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, "mae Cymru unwaith eto am golli allan ar gyllid rheilffordd gan fod Llywodraeth Lafur y DU wedi nodi'r prosiect rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt yn gynllun Cymru a Lloegr".

"Bob tro rydym yn galw allan y polisïau niweidiol hyn, mae Llafur yng Nghymru yn rhoi eu plaid o flaen anghenion Cymru."

Pan gododd Mr ap Iorwerth y mater yn y Senedd brynhawn Mawrth, atebodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru.

"Efallai yr hoffech chi iddo gael ei ddatganoli, ond dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd.

"Yr hyn sydd gennym yw sefyllfa lle mae prosiectau ar y gweill ar gyfer Cymru a Lloegr.

"Ydyn ni'n cael ein cyfran deg? Dydyn ni ddim."

'Gwahanol iawn i HS2'

Dywedodd y prif weinidog ei bod hi'n gobeithio am rywfaint o gydnabyddiaeth o hynny drwy'r adolygiad gwariant - lle bydd y canghellor yn datgelu ei chynlluniau gwariant ar gyfer y blynyddoedd nesaf ar 11 Mehefin.

Ychwanegodd fod y llinell reilffordd dan sylw yn "wahanol iawn i HS2".

"Mae llinell reilffordd Rhydychen i Gaergrawnt yn rhan o'r darn seilwaith rheilffyrdd ehangach hwnnw," meddai.

"Roedd prosiect HS2 yn eithriad i hynny, a dyna pam rydyn ni'n cyflwyno'r achos mewn ffordd ar wahân."

David ChadwickFfynhonnell y llun, David Chadwick
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Chadwick fod y prosiect fel "HS2 unwaith eto"

Ond ym marn y Democrat Rhyddfrydol David Chadwick AS: "Dyma HS2 unwaith eto.

"Mae Cymru'n colli cannoedd o filiynau mewn cyllid a allai drawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd ein hunain, a hynny oherwydd bod Llafur yn mynnu ceisio esgus bod y prosiectau hyn o fudd i Gymru pan dydyn nhw'n amlwg ddim yn gwneud hynny.

"Mae'r Rheilffordd Dwyrain-Gorllewin rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Ni fydd unrhyw gentimetr o drac yn cael ei osod yng Nghymru.

"Ac eto mae Llafur yn disgwyl i bobl ledled Cymru gredu'r syniad hurt y bydd y prosiect hwn o fudd iddyn nhw."

Addo 'gwelliannau uchelgeisiol'

Ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates: "Nid yw hyn yn newydd.

"Mae'r system a ddefnyddir i dalu am welliannau rheilffyrdd yn rhoi Cymru a'r Gororau o fewn rhwydwaith ehangach sydd wedi ein rhoi dan anfantais yn hanesyddol.

"Mae llywodraethau blaenorol wedi methu â newid hynny, ond mae llywodraeth bresennol y DU wedi cydnabod ei fod yn gadael Cymru dan anfantais...

"Mae gennym gynllun ar gyfer gwelliannau uchelgeisiol y cytunwyd arno a fydd yn gwneud iawn am danfuddsoddiad gan lywodraethau blaenorol."

HS2Ffynhonnell y llun, HS2
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol o HS2

Yn wahanol i Ogledd Iwerddon a'r Alban, mae'r rhan fwyaf o reilffyrdd Cymru yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU, ac nid gweinidogion yng Nghaerdydd.

O dan y system a ddefnyddir i ariannu'r gwledydd datganoledig, sef Fformiwla Barnett, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael arian ychwanegol pan gaiff mwy o arian ei wario ar reilffyrdd yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r datblygiad diweddaraf yn dilyn y ffrae hirhoedlog ynghylch HS2 - prosiect arall sydd wedi'i ddynodi yn un i Gymru a Lloegr - felly nid yw Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol, a fyddai'n digwydd pe bai'n brosiect i Loegr yn unig.

Fodd bynnag, ni fydd dim o'r trac a gynlluniwyd ar gyfer HS2 yn cyrraedd Cymru.

Mae ffigyrau gwahanol wedi'u rhoi ar gyfer faint y mae gwleidyddion yn credu sy'n ddyledus i Gymru gan HS2, o £4bn a awgrymwyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn y gorffennol i £350m yn y ffigyrau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.