Oes rhai misoedd y flwyddyn yn fwy Cymreig na'i gilydd?

  • Cyhoeddwyd

Ar ddechrau blwyddyn newydd pa well amser i ystyried tybed beth ydy tarddiad enwau'r misoedd yn Gymraeg.

Ydyn nhw'n enwau Cymraeg go iawn? Oes rhai misoedd yn fwy Cymreig na'i gilydd?

Disgrifiad o’r llun,

Ianws, un o dduwiau'r Rhufeiniaid

Ionawr

Yr enw Lladin ar fis Ionawr yw 'Ianuaris' sef 'mis Ianws'. Un o dduwiau'r Rhufeiniaid oedd Ianws, duw y pyrth, duw'r drysau a'r dechreuadau ac felly'n dduw addas iawn i gynrychioli mis cyntaf y flwyddyn. Mae cerfluniau a lluniau ohono gan amlaf yn cynnwys dau wyneb gan ei fod, yn ôl y Rhufeiniaid yn edrych yn ôl ac ymlaen. Hen gr'adur dau wynebog braidd!

Chwefror

Yn wreiddiol nid Chwefror oedd ail fis y flwyddyn ond roedd yn cael ei restru fel y mis 'cyn y mis cyntaf' gan fod nifer y dyddiau ynddo'n newid ac hefyd am ei fod yn cael ei gysylltu â phuro a glanhau. Rhoddwyd Chwefror yn ail yn y calendr gan y Rhufeiniaid a daw enw'r mis o'r Lladin 'mensis februarius', sef 'mis y puredigaeth'. Benthyciad o'r Lladin felly yw 'Chwefror'.

Mawrth

Disgrifiad o’r llun,

Mars - duw rhyfel y Rhufeiniaid

Duw rhyfel y Rhufeiniaid oedd 'Mars' ac mae enw'r mis yn tarddu o'r Lladin 'Martius mensis' - 'mis Mars'. Mae sawl gwahanol galendr wedi ei ddefnyddio dros filoedd o flynyddoedd ac ar un adeg roedd Mawrth hefyd ar ddechrau blwyddyn gan ei fod yn cael ei gysylltu â chychwyn blwyddyn arall o ryfela.

Ebrill

Disgrifiad o’r llun,

Ebrill - mis y blaguro a'r egino

Mae gwahanol farn ynghylch tarddiad enw mis Ebrill. Ond y farn gyffredin ymysg haneswyr yw mai o'r ferf Lladin am 'agor', 'aperire' y daw gan mai dyma fis y blaguro a'r egino wrth i'r gwanwyn godi stêm. Ffurf arall ar y gair 'aperire' yw 'aprilis'.

Mai

Dyma'r adeg pryd mae'r llwyni'n ffrwydro â blodau, y coed yn eu dail a'r gwanwyn yn ei anterth. I ddathlu'r cyfnod cyfoethog hwn enwodd y Rhufeiniaid y mis ar ôl duwies o Roeg, Maius, duwies ffrwythlondeb. Felly unwaith eto, benthyciad o'r Lladin Maius sydd wedi rhoi enw'r mis yma i ni.

Mehefin

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae enw mis Mehefin yn dod o hen iaith y Cymry, Y Frythoneg, sy'n golygu 'canol haf'. Mae 'meh' yn dod o 'med' sef 'canol' a 'hef' yn dod o 'haf'. Mae diwrnod hiraf y flwyddyn yn syrthio ar 21 Mehefin. Hwrê! Mis â tharddiad Cymraeg o'r diwedd!

Gorffennaf

Yn syml iawn daw'r enw 'Gorffennaf' o 'gorffen' + 'haf' - dim mwy na hynny! Er ein bod yn ystyried mis Gorffennaf fel canol yr haf erbyn hyn, yn yr hen oesoedd roedd pethau'n wahanol iawn!

Awst

Unwaith eto rydan ni'n nôl i ddylanwad y Rhufeiniaid a dyna sydd y tu ôl i enw mis Awst. Enwyd y mis i anrhydeddu yr ymerawdwr Augustus sef ymerawdwr cyntaf yr Ymerodraeth Rufeinig.

Cred rhai mai Iwl Cesar oedd ymerawdwr cyntaf Rhufain ond nid yw hynny'n wir - arweinydd milwrol a gwleidydd ym mlynyddoedd olaf Gweriniaeth Rhufain oedd o. Cymerodd ran fawr yn sefydlu'r Ymerodraeth Rufeinig ond ni bu'n ymerawdwr ei hun.

Bu Augustus farw ar 19 Awst 14 OC, a chafodd Awst ei enwi ar ei ôl.

Medi

Disgrifiad o’r llun,

Medi - cyfeiriad at y cynhaeaf

'Hau a medi' yw'r cylch oesol wrth drin y tir a dyna'n union darddiad enw'r mis hwn. Cyfeiriad at y cynhaeaf sydd yma a hynny ers tua'r flwyddyn 1400. Ystyr y gair 'medi' yw 'torri ŷd'.

Hydref

Disgrifiad o’r llun,

Bref yr hydd

Hen enwau eraill gan y Cymry ar fis Hydref yw Mis y Mêl, Mis y Melwr a Mis y Gwin. Credir bod yr enw Hydref yn dod o 'hyddfref', sef 'bref yr hydd' sy'n dod yr adeg hon o'r flwyddyn pan fydd y carw a'r hydd yn brefu i ddenu cymar. Dros amser mae'r 'dd' yn 'hyddfref' wedi mynd yn 'd' (i roi 'hydfref') a'r 'f' wedyn wedi diflannu i roi 'hydref' i ni.

Tachwedd

Ffynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru

Hen air Cymraeg yw 'tachwedd' sy'n golygu 'lladdfa' neu 'gyflafan'. Canrifoedd maith yn ôl ar ddechrau'r gaeaf, byddai'r rhan fwyaf o wartheg yn cael eu lladd er mwyn sicrhau bod digon o borthiant i weddill yr anifeiliaid i bara tan y gwanwyn ac hefyd i ddarparu cyflenwad o gig drwy'r tymor oer oedd ar y gorwel.

Rhagfyr

Daw'r gair 'rhagfyr' o 'rhag'+'byr'. Ystyr y ferf 'rhagfyrhau' yw 'gwneud yn fyrrach'. Felly dyma enw addas iawn ar y mis pryd mae'r ffaith bod y dyddiau'n byrhau yn dod yn fwy amlwg. Mae diwrnod byrraf y flwyddyn yn syrthio ar 21ain Rhagfyr.

A dyna ni! Rhyw galendr hanner hanner sydd gennym ni yng Nghymru felly.

A sôn am galendr tybed wyddoch chi mai o'r gair Lladin 'calendae' y daw 'calendr'? Yr un gair yn y bôn yw'r gair Cymraeg 'calan' sef y diwrnod neu'r cyfnod cyn rhywbeth, Calan Gaeaf, Calan Mai a Dydd Calan.

Blwyddyn newydd dda i bawb!

Hefyd o ddiddordeb: