Gwahaniaeth mawr cynghorau i gasglu gwastraff swmpus
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil gan y BBC wedi dangos bod gwahaniaeth mawr yn yr hyn mae gwahanol gynghorau yng Nghymru'n ei godi am gael gwared ar wastraff swmpus.
Mae'r ymchwil yn dangos bod modd cael gwared ar hen fatres am ddim yng Nghaerdydd, Caerffili a Chonwy, tra byddai'n costio £42.50 yn Wrecsam.
Ond mae un ymgyrchydd yn dweud bod y mwyafrif o eitemau yn gallu cael eu hailgylchu, a hynny am ddim.
Mae gwastraff swmpus yn cael ei ddiffinio fel unrhyw eitem fyddai ddim yn gallu cael ei roi mewn bin gwastraff neu fag ailgylchu.
Mae eitemau o'r fath, fel peiriant golchi neu soffa, angen cael casgliad arbennig.
Mae 11 o 22 awdurdod lleol Cymru yn codi rhwng £15 a £25 i gasglu gwastraff swmpus, ac mae'r mwyafrif o'r rheiny yn cymryd hyd at dair eitem ar y tro.
Ond mae Cyngor Wrecsam yn gofyn am o leiaf £42.50, er eu bod yn fodlon cymryd hyd at wyth eitem ar y tro.
Mae Ceredigion (£42) a Sir y Fflint (£40) hefyd y codi tâl uwch na'r gweddill.
Dywedodd aelod cabinet Cyngor Wrecsam dros yr amgylchedd, David A Bithell ei fod yn credu bod y gost yn rhesymol "o'i gymharu â darparwyr yn y sector fasnachol", ac nad yw nifer y casgliadau wedi gostwng yn sylweddol ers i'r gost gynyddu.
"Os nad yw pobl eisiau talu am gasglu gwastraff swmpus fe allan nhw ei gymryd i siop elusen neu ein canolfannau ailgylchu," meddai.
Mae Cyngor Sir Ddinbych ymysg yr awdurdodau rhataf i gasglu gwastraff swmpus - £5 - ond bu'n rhaid i'r cyngor dalu £1,200 yn yr haf i glirio gwastraff anghyfreithlon oedd wedi'i adael ger Y Rhyl.
Ond mae sylfaenydd gwasanaeth ailgylchu yn Sir Gâr, Liz Gillingan yn mynnu bod modd i bobl gael gwared ar bron bopeth, a hynny am ddim a heb fod angen yr awdurdod lleol.
Dywedodd ei bod wedi sefydlu Carmarthenshire FreeRecycle ar ôl mynd yn rhwystredig yn gweld gwastraff anghyfreithlon ar lwybrau cerdded.
'Ffi cystadleuol'
"Os yw casgliadau'n ddrud, ni fydd pobl yn ei ddefnyddio," meddai.
"Ond eto, os ydych chi wedi gwario cannoedd o bunnau ar soffa newydd, dyw £25 i gael gwared ar yr hen un ddim yn ddrud.
"Does dim rhaid i chi gael gwared arno'n anghyfreithlon - mae digon o grwpiau fel ein un ni all helpu."
Fe wnaeth Cyngor Sir Benfro gynyddu'r gost o gael gwared ar wastraff swmpus i £40 yn 2015, ond fe wnaeth nifer y casgliadau ostwng yn sylweddol.
Penderfynodd yr awdurdod i haneru'r gost i £20 y llynedd a dywedodd pennaeth gwasanaethau amgylcheddol y cyngor bod nifer y casgliadau wedi cynyddu'n aruthrol ers hynny.
"Mae'r ffi yn gystadleuol gyda chwmnïau fel Currys neu John Lewis, sy'n codi rhwng £15 ac £20, a dyw hynny ond ar gael os ydych chi'n prynu rhywbeth newydd ganddyn nhw," meddai'r cynghorydd Richard Brown.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd17 Awst 2017
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2019