Cyhuddo dau fachgen ar ôl i ferch 12 oed gael ei thrywanu
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dau fachgen ar ôl i ferch 12 oed gael ei thrywanu yn Ynys y Barri dros y penwythnos.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod disgwyl i'r bechgyn, 13 a 15 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Mawrth wedi'u cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.
Nid oes modd enwi'r bechgyn oherwydd eu hoedran.
Cafodd yr heddlu eu galw tua 17:00 ddydd Sul yn dilyn adroddiad o ymosodiad ger maes parcio Heol yr Harbwr, Ynys y Barri.
Fe wnaeth y ferch ddioddef sawl anaf o ganlyniad i'w thrywanu, ac mae'n parhau yn yr ysbyty.
Dywedodd yr heddlu nad yw ei hanafiadau yn rhai sy'n peryglu ei bywyd.