Pennaeth Ysgol Friars yn gwadu trin athro yn annheg

  • Cyhoeddwyd
Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Foden yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn

Mae prifathro o Wynedd wedi gwadu ei fod wedi trin athro yn Ysgol Friars yn annheg.

Roedd Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars ym Mangor, yn rhoi tystiolaeth ar y pedwerydd diwrnod o wrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg yn Ewlo ddydd Iau.

Mae Mr Foden yn gwadu tri honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol mewn cysylltiad â'r ffordd y gwnaeth drin staff rhwng Ebrill 2014 a Hydref 2016.

Fe honnir ei fod wedi dweud mewn geirda llafar am athro fod yr unigolyn yn wynebu cyhuddiad o gamweithredu, pan roedd yr unigolyn wedi ei glirio o unrhyw gam mewn gwirionedd.

Mae Mr Foden hefyd wedi ei gyhuddo o weithredu proses ddisgyblu yn erbyn un athro penodol wedi i drip i glwb pêl-droed Fulham gael ei ganslo, ac yna cyfeirio at yr athro dan sylw fel "baby face" wrth gadeirydd y llywodraethwyr.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o drin un athro yn annheg gan ddechrau proses ddisgyblu yn ei erbyn am y ffordd yr oedd wedi trin disgybl oedd yn tarfu ar asesiad oedd wedi ei reoli.

Cafodd yr athro ei glirio o unrhyw gam yn ddiweddarach wedi iddo apelio.

Trip pêl-droed

Wrth gael ei holi ddydd Iau, gofynnodd bargyfreithiwr Mr Foden iddo am yr honiad ei fod wedi erlyn athro penodol - sy'n cael ei adnabod fel Person E - yn dilyn canslo'r trip i glwb pêl-droed Fulham.

Dywedodd y pennaeth wrth y panel ei fod yn "eglur" nad oedd dogfennau oedd yn ymwneud â'r trip wedi eu cwblhau ar amser.

"Fy marn i oedd fod y cyfrifoldeb am ganslo'r trip yn gorwedd gyda Person E", meddai.

Fe wnaeth wadu galw'r athro yn "baby face" i gadeirydd y llywodraethwyr, gan ychwanegu nad oedd yn arfer gwneud sylwadau o'r math yma i'r llywodraethwyr.

Gofynnwyd iddo pam ei fod wedi dweud wrth gorff llywodraethu'r ysgol fod y person hwn "yn wybyddus i'r heddlu".

Dywedodd Neil Foden ei fod yn ymwybodol o honiad o ymosodiad a throsedd trefn gyhoeddus mewn cysylltiad â Pherson E. Ychwanegodd nad oedd yn ceisio dylanwadu barn y corff llywodraethol o Person E drwy ragfarn.

Ychwanegodd fod enwi Person E ac amlinellu pam ei fod wedi ei wahardd yn arfer cyffredin iddo.

"Ni wnes i drin Person E yn wahanol", meddai.

Llythyr geirda

Yn ystod gwrandawiad ddydd Mercher, dywedodd Mr Foden ei fod wedi gweithio yn yr ysgol ers dros 20 mlynedd, gan wella cyrhaeddiad academaidd a disgyblaeth yr ysgol yn ystod y cyfnod yma.

Roedd yn gwadu fod "awyrgylch o ofn" yn bodoli yn ei ysgol o dan ei arweinyddiaeth, wrth roi tystiolaeth.

Clywodd y gwrandawiad fod bron pob aelod o staff yr ysgol wedi llofnodi geirda yn ei gefnogi.

Gofynnodd ei fargyfreithiwr Jonathan Storey iddo os oedd yn adnabod y disgrifiad oedd wedi cael ei ddefnyddio gan un tyst am ei ffordd o reoli - 'rheoli drwy ofn'.

Atebodd Mr Foden mai dim ond ar ddau achlysur yr oedd wedi clywed y disgrifiad yn cael ei ddefnyddio, ac ar un achlysur fe drafododd y peth mewn cyfarfod staff.

Roedd wedi defnyddio delwedd o gymeriad ffilm o'r enw Ming the Merciless i ofyn i'w staff mewn ffordd ysgafn os oedd awyrgylch o ofn yn yr ysgol, ac fe ddywedodd y staff wrtho nad oedd hynny'n wir.

Yn ystod ei dystiolaeth fe ddisgrifiodd ddigwyddiad gydag athro bioleg sy'n cael ei adnabod fel 'Person D' yn y gwrandawiad.

Roedd y dyn hwn wedi wynebu ymchwiliad disgyblaeth ar ôl symud disgybl i ystafell arall am ei fod yn tarfu ar asesiad mewn dosbarth, gan adael y dosbarth heb oruchwyliaeth am gyfnod byr.

Dywedodd Mr Foden: "Roedd 'na faterion oedd yn fy arwain at benderfyniad fod hwn o bosib yn fater disgyblu.

"Roedd Person D wedi torri'r rheolau am asesiadau wedi eu rheoli, gan adael grŵp o ddisgyblion heb oruchwyliaeth. Yna fe adawodd y bachgen yr oedd wedi ei dynnu o'r dosbarth heb oruchwyliaeth.

"Cafodd gwaith y bachgen hwnnw ar yr asesiad ei annilysu, ac roedd Person D wedi peryglu holl waith y dosbarth o gael ei annilysu.

"Yn ail, roedd i bob pwrpas wedi gadael y bachgen yma mewn cwpwrdd. Doedd dim lle addas i weithio yno ac roedd cemegau'n cael eu cadw yno'n gyson,

"Fe wnaeth pethau'n waeth gan iddo ddweud wrth ddisgyblion yn ddiweddarach fod y bachgen yn absennol o wers 'am nad oedd am gael ei gloi yn y cwpwrdd unwaith eto'."

Dywedodd nad oedd yn "anghymesur" i ddechrau proses ddisgyblu yn erbyn Person D.

Gofynnodd cyfreithiwr Mr Foden iddo os oedd wedi "erlid" yr athro.

Atebodd: "Na, nes i ddim".

Datganiad

Yna fe ofynnodd ei fargyfreithiwr iddo am ddatganiad gan yr un athro oedd yn dweud fod arweinyddiaeth y pennaeth yn golygu "eich bod yn ei giang, neu doeddech chi ddim".

Mewn ymateb dywedodd Mr Foden: "Dydw i erioed wedi meddwl amdana i fy hun gyda giang yn yr ysgol - sothach llwyr yw hynny."

Fe ofynnwyd i Neil Foden am yr ail honiad yn ei erbyn hefyd - sef ei fod wedi dweud geirda llafar am athro fod yr unigolyn yn wynebu cyhuddiad o gamweithredu, pan roedd yr unigolyn wedi ei glirio o unrhyw gam.

Dywedodd wrth y gwrandawiad: "Fe ddywedais i wrth y cyflogwr posib fod honiad yn erbyn Person B, ond fyddwn i heb fod yn gywir petawn i wedi dweud ei fod bellach wedi ei glirio achos nid oedd wedi ei glirio.

"Roedd sancsiwn o'r corff llywodraethu yn ei erbyn, ac roedd yn dal yn weithredol."

Mae disgwyl i wrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg bara gweddill yr wythnos.