Gwneud mygydau PPE o offer dringo yn Llanberis

  • Cyhoeddwyd
Mygydau cwmni DMM
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl cyflenwi chwe masg i feddygfa leol fe benderfynodd y cwmni gynhyrchu llawer mwy

Mae cwmni o Wynedd sy'n adnabyddus am gynhyrchu offer dringo wedi troi eu llaw at wneud masgiau i'r gwasanaeth iechyd.

Mae DMM, sy'n cyflogi bron i 200 o bobl yn Llanberis, wedi gweld cwymp sylweddol mewn archebion oherwydd yr argyfwng coronafeirws, ac mae dros hanner y gweithlu wedi eu gyrru adref am y tro.

Mae rhai o'r staff sy'n weddill bellach yn cynhyrchu masgiau ar gyfer ysbytai, ac mae 750 ohonyn nhw newydd fynd i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Dechreuodd y syniad wedi i feddyg teulu lleol ofyn i'r rheolwr gyfarwyddwr, Gethin Parry, gynhyrchu chwe masg ar gyfer y feddygfa.

Gweithiwr yn ffatri DMM
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond hanner y gweithlu arferol sydd yn ffatri DMM ar hyn o bryd

Dywedodd Mr Parry: "Wedyn, nes i feddwl 'sa ni'n medru gwneud mwy yn gynt, ac aethon ni ati i ddylunio visor sy'n defnyddio tu mewn a thu allan i harnes dringo."

Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cynhyrchu 250 o fasgiau'r diwrnod, ond gallai hynny gynyddu i 500 petai digon o alw amdanyn nhw.

Ond dydy cynhyrchu'r masgiau ddim yn gwneud yn iawn am y busnes sydd wedi diflannu yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn ôl y cwmni.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

"Mae cynhyrchu'r masgiau'n llai na 5% o'n trosiant arferol ni," meddai Mr Parry.

"'Da ni'n ei wneud o am ein bod ni'n gallu, ac am ei fod o'n help i bobl. Os medrwn ni wneud mwy i helpu, wrth gwrs mi wnawn ni."

O ran eu busnes arferol, mae'r cwmni'n dechrau gweld llygedyn o obaith, gyda rhai archebion am offer dringo wedi ailddechrau o rai gwledydd Ewropeaidd fel Yr Almaen.