Drama feicro: Carys ac Andy gan Elin Gwyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tara Bethan a Carwyn Jones sy'n portreadu Carys ac Andy yn y ddrama feicro newyddd hon

Mae Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cydweithio ar brosiect dramâu meicro.

Carys ac Andy yw ail gynhyrchiad y prosiect, a gafodd ei hysgrifennu gan Elin Gwyn sy'n aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd y Theatr Genedlaethol. Dywedodd Elin am y profiad o ysgrifennu ar gyfer ffurf-fer y we:

"Roeddwn i eisiau creu drama fer sy'n adlewyrchu bywyd yn ystod y cyfnod clo. Y syniad cychwynol ar gyfer Carys ac Andy oedd dychmygu'r sgyrsiau rhwng cyplau sydd, am bob math o resymau, ar wahan yn ystod y cyfnod hwn.

"Mae technoleg yn ein galluogi ni i gyfathrebu, ond ydi o'n ddigon i gynnal perthynas?!"

Tara Bethan sy'n portreadu Carys yn y ddrama ac roedd bod yn rhan o gynhyrchiad a oedd yn cadw at reolau ymbellhau yn brofiad gwahanol ond dymunol meddai hi:

"Fy hoff beth oedd y profiad o fod mor ymwybodol o'r ochr dechnegol - sain a shots a chyfathrebu gyda'r tîm creadigol mewn ffordd hollol newydd, ar-lein.

"Wnes i wir fwynhau y profiad o gydweithio gyda tîm mor frwdfrydig a bach a thrwy gyfrwng hollol newydd ac alltud tra'n gweithio o'n cartrefi."

Hefyd o ddiddordeb: