Achubwyr yn tynnu person o Afon Taf yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Roedd pobl ifanc wedi eu gweld yn neidio oddi ar y bont dydd Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl ifanc wedi eu gweld yn neidio oddi ar y bont ddydd Mercher

Mae un person yn yr ysbyty ar ôl cael ei achub o Afon Taf yng Nghaerdydd brynhawn Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans iddynt dderbyn adroddiadau tua 14:30 fod rhywun wedi syrthio i'r dŵr wrth ymyl pont Blackweir yn ardal Parc Biwt.

Dywedodd llygad-dyst bod criwiau brys wedi rhoi triniaeth i fachgen yn ei arddegau gafodd ei anafu ger y bont.

"O ni'n cerdded lawr yr afon a nathon ni weld ambiwlans, a cwpl o heddlu a dynion tân o gwmpas - yr ochr arall i'r afon," meddai.

"Roedd cwpl o bobl mewn huddle a boi ar stretcher yn cael CPR.

"Dio ddim yn neis gweld petha' fel 'na - enwedig pan ti ddim yn disgwyl ei weld o... Roedd o'n 'chydig bach o sioc."

Cafodd cerbyd ymateb cyflym, ambiwlans brys, ynghyd â dau gerbyd arall a meddyg eu hanfon i'r digwyddiad. Roedd y Gwasanaeth Tân wedi eu galw hefyd.

Cafodd y person ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Does dim rhagor o fanylion am gyflwr y person ar hyn o bryd.